Â鶹ԼÅÄ

Siart data cyfrannol

Efallai bydd dy ddata yn dangos canrannau, rhan neu gyfran o rywbeth, ee mewn dosbarth o 30, efallai bydd 15 bachgen a 15 merch. Mae hyn yn golygu bod 50 y cant o’r dosbarth yn fechgyn a 50 y cant o’r dosbarth yn ferched (sy’n gwneud 100 y cant).

Mae hyn yn cael ei alw'n ddata cyfrannol.

Siartiau cylch

Fel arfer, y math gorau o siart ar gyfer data cyfrannol yw siart cylch.

Mae siartiau cylch yn gweithio’n dda pan fydd niferoedd bach o gyfrannau neu gategorïau. Gall gormod o gyfrannau wneud i’r siart cylch edrych yn orlawn.

Enghraifft

Gofynnwyd i ddysgwyr ddweud a ydynt yn cytuno’n gryf, cytuno, anghytuno neu'n anghytuno’n gryf â’r datganiad a ganlyn.

Dylid caniatáu ffonau symudol mewn ysgolion.

Y cam cyntaf yw rhoi dy ddata mewn taenlen.

Tabl ymatebion i holiadur: Cytuno'n gryf: 45%. Cytuno: 25%. Anghytuno: 25%. Anghytuno'n gryf: 5%.

Yna clicia ar y botwm siart cylch yn y bar offer a byddi’n gallu creu siart cylch.

Siart cylch yn dangos canran pob ymateb i'r datganiad 'Dylid caniatáu ffonau symudol mewn ysgolion': Cytuno'n gryf: 45%. Cytuno: 25%. Anghytuno: 25%. Anghytuno'n gryf: 5%.

Mewn siart cylch, nid yw’n bosibl cael teitl i bob echelin, oherwydd nid oes echelinau. Yn lle hynny, mae angen allwedd. Mae’r allwedd yn egluro beth mae pob rhan yn ei dangos. Yn yr enghraifft hon, mae’r rhan goch yn dangos cyfran y dysgwyr sy’n cytuno na ddylid caniatáu ffonau symudol mewn ysgolion. Mae 25 y cant o’r dysgwyr yn cytuno â’r datganiad hwn.

Crynodeb

  • Rhaid i bob siart gael teitl sy’n crynhoi’r wybodaeth sydd yn y graff.
  • Ar gyfer siart bar a graff llinell, bydd angen allwedd ar gyfer echelin-\({x}\) (ee oedran, blwyddyn, pellter) ac allwedd ar gyfer echelin-\({y}\) (ee miliynau, taldra).
  • Ar gyfer siart cylch, bydd angen allwedd sy’n dangos beth mae pob rhan yn ei chynrychioli.