Delweddau a rhifedd
Gall delweddau hefyd arddangos rhifau’n effeithiol. Mae’n bosibl i ti ddangos sgiliau rhifedd drwy ddefnyddio gwybodaeth berthnasol o ddelwedd benodol, yna cynhyrchu tabl, delwedd neu graff llai i ddangos y data rwyt ti wedi canolbwyntio arnynt.
Dyma siart sy’n dangos lleoliad a chanran y plant pedair a phump oed yng Nghymru sydd dros eu pwysau neu’n sy’n ordew.
Drwy ddewis yr wybodaeth allweddol, mae’n bosibl i ti greu tabl neu graff newydd i ddangos hyn yn gliriach. Yma, mae’r tabl wedi cael ei greu i ddangos y sir sydd â’r gyfradd isaf a’r gyfradd uchaf o ordewdra.