Data di-dor
Enghraifft
Os yw taldra Jac yn 128 cm a bod Rhian yn 129.5 cm, mae’r data mesuradwy yn dangos bod Rhian ychydig yn dalach na Jac.
Yn wahanol i ddata arwahanol, sydd â gwerthoedd penodol (ee esgidiau maint 34 neu faint 36), mae enghreifftiau o ddata di-dor, fel amser neu oed, yn gallu bod o unrhyw werth. Er enghraifft, rwyt ti'n gallu bod yn 15 mlynedd, 12 diwrnod, 6 awr a 4 munud oed.
Dyma enghraifft o ddata di-dor sy’n dangos canlyniadau arolwg arall. Roedd yr arolwg hwn yn asesu pa mor bell roedd gwahanol ddisgyblion yn teithio i’r ysgol.