Mae’n bwysig deall y gwahanol fathau o ddata y gallwn eu defnyddio i greu siartiau, graffiau a thablau. Drwy drefnu gwybodaeth yn glir mae’n bosibl sicrhau bod y darllenydd yn deall y cynnwys.
Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Project unigol
Data craiclosedata crai Data sydd wedi cael eu casglu yn y ffynhonnell, ee data cynradd. yw’r wybodaeth rydym yn ei chael wrth wneud ymchwil sylfaenol.
Er enghraifft, efallai byddem yn gwneud arolwg er mwyn canfod taldra neu faint esgidiau gwahanol bobl, neu faint o anifeiliaid anwes sydd ganddynt.
Dyma'r gwahanol fathau o ddata crai.