鶹Լ

Dechreuad y rhyfelSut wnaeth Prydain baratoi ar gyfer rhyfel?

Mae polisi tramor ymosodol Hitler a pholisi dyhuddo (policy of appeasement) enwog Prydain yn rhai o achosion yr Ail Ryfel Byd. Roedd Prydain yn defnyddio amryw ddulliau i baratoi ar gyfer gwrthdaro mawr. Pa mor effeithiol oedd paratoadau Prydain ar gyfer rhyfel?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Sut wnaeth Prydain baratoi ar gyfer rhyfel?

Y lluoedd arfog

Tyrfa enfawr yn sefyll o dan graeniau mawr mewn iard ddociau, gellir gweld HMS Prince of Wales yn y cefndir.
Figure caption,
Llong ryfel y Llynges Frenhinol, HMS Prince of Wales, yn fuan ar ôl ei lansio yn Birkenhead, Glannau Mersi ar 3 Medi 1939

Cyn dechrau’r rhyfel roedd y Llywodraeth wedi gwneud cynlluniau oherwydd y peryglon oedd ar y gorwel. Roedd y Llywodraeth wedi:

  • dechrau rhaglen o adeiladu llongau rhyfel newydd
  • gwario arian yn hysbysu pobl am ddogni bwyd, blacowts a mygydau nwy
  • sefydlu’r Weinyddiaeth Cyflenwadau er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau dramor yn parhau
  • cyfarfod ag Undebau Llafur er mwyn sicrhau eu bod yn cytuno â rheoliadau a chyflogau gweithio adeg rhyfel

Ond, yn 1939 nid oedd Prydain wedi paratoi’n ddigonol i frwydro mewn rhyfel mawr, a byddai’n cymryd amser i gael lluoedd mor anferthol ac effeithiol â rhai’r Almaen.

  • Y Llynges Frenhinol oedd y sefydliad oedd yn fwyaf parod ar gyfer y rhyfel.
  • Roedd yr Awyrlu Brenhinol (Royal Air Force, RAF) wedi eu hyfforddi'n dda ac roedd ganddo awyrennau da oherwydd mai’r Hurricane a’r Spitfire oedd yr awyrennau rhyfel gorau yn y byd, ond nid oedd bomwyr y RAF mor fodern.
  • Roedd rhai yn credu bod y fyddin yn rhy fach ac nad oedd ganddi offer digonol.

Drwy ddyhuddo Hitler ym Medi 1938, roedd gan y wlad 12 mis ychwanegol i baratoi at ryfel. Ar ôl y datganiad ym Medi 1939, galwyd y chwe mis dilynol yn ‘rhyfel ffug’ oherwydd ni chymerwyd camau milwrol, a rhoddodd hynny fwy o amser i Brydain baratoi.

Wardeiniaid, llochesau a radar

Roedd yna bryder mawr y byddai nifer o bobl gyffredin yn colli eu bywydau oherwydd bod yr Almaenwyr yn bomio dinasoedd ym Mhrydain.

Roedd y yn fygythiad milwrol grymus. Ofnwyd y byddai miliwn o bobl yn marw - archebwyd miliwn o eirch rhag ofn. Roedd pobl wedi gweld lluniau o’r chwalfa a achosodd y Luftwaffe yn Guernica, tref a fomiwyd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936.

Yn ystod 1937, crëwyd Gwasanaeth Wardeiniaid Cyrchoedd Awyr ac roedd 200,000 o bobl wedi ymuno erbyn 1938. Erbyn Medi 1939, newidiwyd ei enw i Ragofalon Ymosodiadau o’r Awyr (Air Raid Precautions, ARP) a chofrestrodd 1.5 miliwn. Defnyddiwyd y term Amddiffyn Sifil (Civil Defence) yn ogystal.

Dyn mewn lifrai a helmed filwrol yn sefyll yn gwarchod gyda chloch a chlicied ar ben adeilad uchel yn cadw llygad ar ddinas.
Image caption,
Roedd y Rhagofalon Ymosodiadau o’r Awyr (ARP) yn sefydliad pwysig. Dechreuodd adeiladu llochesau ymosodiadau o’r awyr neu lochesau bomiau.

Roedd raid iddyn nhw gofrestru’r holl bobl a oedd yn byw yn eu sector, gorfodi blacowts, seinio’r seirenau, helpu pobl i fynd i’r llochesau a helpu’r gwasanaethau brys.

Dau silindr metel wedi eu gorchuddio’n rhannol â phridd. Gellir gweld cretiau yn un o’r strwythurau.
Image caption,
Roedd teuluoedd hefyd yn cael eu hannog i adeiladu eu llochesau eu hunain. Roedd nifer o berchnogion tai yn cael llochesau Anderson, a dosbarthwyd cymaint â 400,000 ohonyn nhw.

Er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn diffodd eu golau yn ystod y nos pan oedd bomwyr Yr Almaen yn bomio’r dinasoedd, roedd wardeiniaid yn cerdded o gwmpas y strydoedd ac yn rhybuddio pobl i wneud hynny. Roedd wardeiniaid ARP hefyd yn helpu i roi trefn ar y gwasanaethau brys.

Plant ifanc yn cerdded mewn grŵp, a phob un yn gwisgo mygydau nwy. Maen nhw’n cael eu cyfarch gan ddyn a warden ymosodiadau o’r awyr yn gwisgo mwgwd nwy.
Image caption,
Plant yn gwisgo mygydau nwy yn ymarfer gwacáu ym Mehefin 1941