Â鶹ԼÅÄ

Diwydiant Prydain yn y 1920au

Yn y 19eg ganrif roedd Prydain yn arwain y byd yn ddiwydiannol. Erbyn diwedd y ganrif roedd Yr Almaen, Ffrainc, Japan ac America wedi dal i fyny, ac erbyn dechrau’r 20fed ganrif roedden nhw’n dechrau dal i fyny a herio safle diwydiannol blaenllaw Prydain.

Roedden nhw’n defnyddio dulliau cynhyrchu newydd ac yn cystadlu am farchnadoedd rhyngwladol. Roedd diwydiannau glo, haearn, adeiladu llongau a thecstilau Prydain yn dibynnu’n fawr ar werthu i farchnadoedd byd-eang. Roedd y gystadleuaeth gynyddol o wledydd eraill yn golygu nad oedd y 1920au yn gyfnod cyfforddus i ddiwydiant trwm Prydain. Golygai hyn fod gan Brydain broblemau economaidd cyn Cwymp Wall Street.

Cwymp Wall Street, 24 Hydref 1929

Achosodd Cwymp Wall Street 1929 bryder enfawr i Arlywydd America, Herbert Hoover, ac arweiniodd at gyfnod dramatig a elwir yn Ddirwasgiad Mawr.

Pobl a cheir yn llenwi Wall Street, Efrog Newydd ar 24 Hydref 1929, a elwir yn Ddydd Iau Du.
Image caption,
Pobl yn ymgasglu ar Wall Street ar ‘Ddydd Iau Du’, 24 Hydref 1929

Sut arweiniodd hynny at Ddirwasgiad ym Mhrydain?

Cafodd Dirwasgiad America effaith sylweddol ar economi’r DU. Achosodd polisïau economaidd America i nifer o wledydd eraill, yn cynnwys Prydain a’r Almaen, lithro i ddirwasgiad economaidd.

Herbert Hoover gyda Marie Curie
Figure caption,
Herbert Hoover (yn y llun gyda Marie Curie)

Defnyddiodd Arlywydd Hoover dariffau uchel er mwyn ceisio atal pobl America rhag prynu nwyddau o wledydd eraill. Roedd y tariffau yma yn golygu bod nwyddau na chynhyrchwyd yn America yn ddrytach, ac arweiniodd hynny at ostyngiad mewn galw ac elw. Aeth busnesau i’r wal wrth i bobl stopio prynu nwyddau a dechreuodd y Dirwasgiad Mawr, gan achosi diweithdra uchel.

Mae’n ymddangos bod yr ymadrodd Pan fo America yn tisian, mae gweddill y byd yn dal annwyd yn un cywir.

Prif ysgogydd y Dirwasgiad oedd Cwymp Wall Street, ond roedd ffactorau eraill hefyd wedi cyfrannu at droi’r Cwymp yn Ddirwasgiad. Doedd yr UDA ddim yn gallu rhoi benthyg arian i wledydd Ewrop mwyach a gofynnon nhw am rai o’r benthyciadau yn ôl.

Efallai y dylid ei alw’n gatalydd oherwydd ei fod wedi cyflymu effaith achosion eraill a chyflymu’r cwymp economaidd.

Arweiniodd hynny at gwymp cwmnïau, yn arbennig o gofio bod y diwydiannau trwm yn benodol wedi bod mewn trafferthion ers 1918. Roedd cau cwmnïau neu leihau gweithluoedd yn arwain at ddiweithdra difrifol.