鶹Լ

O’r Rhyfel Ffug i ryfel diarbed

Am chwe mis cyntaf y rhyfel, ychydig iawn o ymladd oedd yn y Gorllewin, oherwydd bod byddin yr Almaen yn canolbwyntio ar oresgyn Gwlad Pwyl. Yn aml gelwir y cyfnod yma yn ‘Rhyfel Ffug’.

Yn Ebrill 1940, ymosododd byddin yr Almaen ar Norwy a Denmarc gan ddefnyddio . Nid oedd y lluoedd Prydeinig, a anfonwyd i gynorthwyo, yn gallu dal lluoedd yr Almaen yn ôl, a oedd yn parhau i wthio tua’r de yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc.

Roedd tacteg yr Almaen o ddefnyddio Blitzkrieg, sef grym o’r awyr, tanciau arfog a chyfuniad o rym mawr, cyflymder a’r annisgwyl yn eithriadol o anodd i amddiffyn yn ei erbyn.

Ym Mai 1940, yn wynebu methiant y broses dyhuddo a beirniadaeth gynyddol, ymddiswyddodd Neville Chamberlain fel Prif Weinidog. Winston Churchill wnaeth arwain llywodraeth glymbleidiol am weddill y rhyfel.

Roedd y misoedd dilynol yn gyfnod anodd wrth i’r Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc gael eu goresgyn gan y Natsïaid.

Roedd ymgiliad lluoedd Prydain o Dunkirk ar ddiwedd Mai 1940 yn dangos cryfder peiriant rhyfel y Natsïaid. Roedd y ffaith bod cymaint wedi cael eu hachub er mwyn gallu ymladd eto yn golygu er eu bod wedi colli’r frwydr, roedd mewn gwirionedd yn fuddugoliaeth bwysig.

Ildiodd Ffrainc ar 22 Mehefin 1940. Yna trodd Hitler ei sylw at oresgyn Prydain a oedd yn ymladd yn erbyn Yr Almaen ar ei phen ei hun bellach.

Gorffennaf i Hydref 1940

Digwyddodd Brwydr Prydain yn yr awyr wrth i Hitler geisio ennill goruchafiaeth yn yr awyr cyn lansio ei ymgyrch i oresgyn y wlad. Llwyddodd yr Awyrlu Brenhinol (Royal Air Force, RAF) i ddal y yn ôl oherwydd ei ddefnydd o radar, gwell awyrennau ac, yn ffodus, ambell gamgymeriad gan yr Almaenwyr. Cafodd y peilotiaid eu canmol gan Churchill yn Awst 1940 gan ddweud, Never in the field of human conflict has so much been owed to so many by so few.

Medi 1940

Newidiodd y Luftwaffe ei gynllun gan ddechrau bomio dinasoedd Prydain, a Llundain yn arbennig. Galwyd hynny yn Blitz, o’r gair Almaeneg Blitzkrieg, a’i nod oedd torri ysbryd a chwalu diwydiant er mwyn gorfodi Prydain i ildio. Erbyn hydref 1940 roedd yn amlwg y byddai’r rhyfel yn effeithio ar bawb, nid dim ond y rhai a oedd yn ymladd. Dyma oedd ‘rhyfel diarbed’.

Dynion mewn dillad cyfnod yr Ail Ryfel Byd yn ffurfio ciw hir.
Image caption,
Dynion Prydeinig yn ymrestru, 1940