鶹Լ

Dechreuad y rhyfelPolisi dyhuddo Prydain

Mae polisi tramor ymosodol Hitler a pholisi dyhuddo (policy of appeasement) enwog Prydain yn rhai o achosion yr Ail Ryfel Byd. Roedd Prydain yn defnyddio amryw ddulliau i baratoi ar gyfer gwrthdaro mawr. Pa mor effeithiol oedd paratoadau Prydain ar gyfer rhyfel?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Polisi dyhuddo Prydain

Diffiniad dyhuddo

Roedd Neville Chamberlain, Prif Weinidog Prydain, yn awyddus i osgoi rhyfel. Roedd yn credu y gellid sicrhau hynny drwy drafodaethau, cytundebau a diplomyddiaeth. Ei bolisi oedd dyhuddo Hitler, a oedd fel arfer yn golygu ildio i’w ofynion tiriogaethol.

Enghreifftiau o ddyhuddo

I Brydain, roedd hynny’n cynnwys peidio â ‘bod yn llym’ gyda’r Almaen pan oedd yn ailarfogi ac yn gwladychu'r Rheindir a Tsiecoslofacia.

Milwyr yr Almaen yn gorymdeithio â drymiau dros bont. Tyrfaoedd yn cymeradwyo ar y strydoedd.
Image caption,
Milwyr yr Almaen yn gorymdeithio i'r Rheindir, 1936

Yr enghraifft fwyaf enwog o ddyhuddiad oedd Chamberlain yn llofnodi cytundeb Munich a arweiniodd at yr Almaen yn cipio Sudetenland oddi wrth Tsiecoslofacia. Roedd Chamberlain yn gobeithio y byddai hynny’n rhoi terfyn ar ofynion Hitler, er bod gwleidyddion eraill megis Churchill wedi rhybuddio fel arall.

Poblogrwydd polisi dyhuddo

Chamberlain yn sefyll wrth bodiwm yn chwifio dogfen gerbron tyrfa na ellir ei gweld. Gellir gweld swyddogion, dynion y fyddin a gohebwyr yn y cefndir.
Image caption,
Chwifiodd Chamberlain y papur a lofnodwyd ganddo ef a Hitler gan ddatgan, “I believe it is peace for our time”

Roedd yn boblogaidd ac fe'i croesawyd gan dyrfaoedd llawen oherwydd ei fod wedi osgoi rhyfel, ac fe’i gwahoddwyd i Balas Buckingham gan y Brenin a’r Frenhines.

Ar y cychwyn roedd dyhuddiad yn boblogaidd oherwydd:

  • roedd pobl yn dymuno osgoi gwrthdaro - roedd yr atgofion am y Rhyfel Mawr a’r dioddefaint yn dal i fodoli
  • roedd Prydain yn y 1930au yn straffaglu ag effeithiau’r Dirwasgiad, ac oherwydd hynny ni allai’r wlad fforddio rhyfel arall ac arfogi trwm
  • roedd nifer yn credu bod Cytundeb Versailles wedi bod yn rhy lym, a bod gan yr Almaen hawl i geisio adennill tiroedd a gollwyd ac ailadeiladu ei lluoedd a wanhawyd

Y rhyfel yn dechrau - Medi 1939

Oherwydd y Cytundeb Natsi-Sofiet, roedd Hitler yn gwybod na fyddai’r Undeb Sofietaidd yn ei atal rhag cymryd Gwlad Pwyl. Croesodd milwyr yr Almaen i Wlad Pwyl ar 1 Medi 1939.

Tanciau yn croesi pont fechan.
Image caption,
Yr Almaen yn goresgyn Gwlad Pwyl, Medi 1939

Roedd Prydain eisoes wedi rhoi sicrwydd i Wlad Pwyl trwy arwyddo Cytundeb Gwarant â Gwlad Pwyl, ac felly anfonodd a nodai bod raid i’r Almaen adael Gwlad Pwyl. Ni dderbyniodd Prydain ymateb, ac felly ar 3 Medi 1939 datganodd Chamberlain bod Prydain mewn rhyfel yn erbyn Yr Almaen.