鶹Լ

Dechreuad y rhyfelY bygythiad o’r Almaen

Mae polisi tramor ymosodol Hitler a pholisi dyhuddo (policy of appeasement) enwog Prydain yn rhai o achosion yr Ail Ryfel Byd. Roedd Prydain yn defnyddio amryw ddulliau i baratoi ar gyfer gwrthdaro mawr. Pa mor effeithiol oedd paratoadau Prydain ar gyfer rhyfel?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Y bygythiad o’r Almaen

Daeth Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen yn Ionawr 1933. Ar ôl i’r Blaid Natsïaidd ddod i rym, newidiodd polisi tramor yr Almaen yn ddramatig. Erbyn hynny ystyriwyd bod yr Almaen yn fygythiad i heddwch y byd.

Roedd Hitler wedi addo dadwneud telerau Cytundeb Versailles. Roedd yn dymuno atgyfnerthu grym lluoedd arfog yr Almaen, oherwydd bod Cytundeb Versailles ond wedi caniatáu i’r Almaen gael 100,000 o filwyr. Roedd hefyd eisiau dychwelyd unrhyw dir yr Almaen a gollwyd.

Llinell amser sy’n dangos y bygythiad i heddwch ar ôl Cytundeb Versailles (1919) a’r Almaen yn gorchfygu Gwlad Pwyl (Medi 1939).
Figure caption,
Y bygythiad cynyddol i heddwch