Diweddarwyd: 22 Ebrill 2020
Mae hynny’n dibynnu ar bwy ydych chi a lle rydych chi’n eu cyhoeddi nhw.
Os ydych chi’n blentyn yn postio ar safle plant
Byddwn yn darllen y sylw cyn ei gyhoeddi i wneud yn siŵr nad yw’n torri ein rheolau ar wneud sylwadau a llwytho cynnwys.
Os ydych chi’n oedolyn
Bydd eich sylw fel arfer yn ymddangos yn syth, os nad ydych yn cael eich cymedroli. Os bydd rhywun yn ei riportio, byddwn yn edrych i weld a yw’n torri ein rheolau ar wneud sylwadau a llwytho cynnwys.
Darllenwch fwy am gymedroli cyn cyhoeddi yn "Beth yw cymedroli?"
Os yw eich sylw’n torri’r rheolau...
Byddwn yn ei ddileu ac yn anfon e-bost atoch yn egluro pam. Gallwch apelio. Darllenwch ein rheolau ynglŷn â gwneud sylwadau a llwytho cynnwys. A darllenwch fwy ynglŷn â pham bod eich sylw neu uwchlwythiad wedi cael ei ddileu.
Gweld eich sylwadau
Gallwch weld rhestr o'r sylwadau diweddaraf rydych chi wedi eu postio, yn adran '' eich cyfrif.
Sut mae dileu sylw rydw i wedi’i postio?
Bydd angen i chi e-bostio Central-communities-team@bbc.co.uk a gofyn iddyn nhw gael gwared â'r sylw, gan egluro pam. Fodd bynnag, allwn ni ddim addo y bydd y sylw yn cael ei ddileu.
Rhagor o wybodaeth am y ffordd rydyn ni’n delio â’ch cyfraniadau.
Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd llawn i gael gwybod mwy am beth rydyn ni'n ei wneud â'ch sylwadau.
Darllenwch ein Telerau Defnyddio llawn i gael gwybod mwy am yr hyn y gallwn ei wneud â’ch sylwadau a beth na allwch ei ddweud yn eich sylwadau.