Diweddarwyd y dudalen: 19 Awst 2020
Gallwch weld eich hysbysiadau lle bynnag rydych chi ar wefan y 鶹Լ, drwy glicio’r gloch ar frig y dudalen.
Sawl hysbysiad fydda i’n ei gael?
Mae hynny’n dibynnu ar faint o bethau rydych chi wedi eu hychwanegu neu danysgrifio iddyn nhw. Po fwyaf y byddwch chi'n eu hychwanegu, y mwyaf o hysbysiadau gewch chi.
Am ba mor hir fydd fy hysbysiadau i ar gael?
Byddant yn aros yn eich panel hysbysiadau am saith diwrnod ar ôl iddynt ymddangos.
Os yw eich panel hysbysiadau yn wag, mae hynny’n golygu nad oes unrhyw beth newydd yno i chi, neu eich bod wedi eu diffodd yn eich gosodiadau
Sut ydw i’n rheoli fy hysbysiadau?
Yn gyntaf, agorwch eich panel hysbysiadau drwy glicio ar y gloch ar frig y dudalen. Yna cliciwch ar yr eicon “Gosodiadau” a byddwch yn gallu troi eich hysbysiadau ymlaen neu i ffwrdd.
Alla’ i ddiffodd hysbysiadau gan raglen neu artist penodol?
Gallwch - ewch i My Sounds yn Sounds neu My Programmes yn iPlayer, a dileu sioeau yno.
Os bydda’ i’n diffodd hysbysiadau, a fydd hynny’n effeithio ar yr hyn rydw i wedi ei ychwanegu?
Na fydd, bydd unrhyw beth rydych chi wedi ei ychwanegu yn dal yno.