鶹Լ

Beth all y 鶹Լ ei wneud â'r cynnwys rwy’n ei bostio?

Diweddarwyd: 31 Mawrth 2022

Efallai y byddwn yn:

Ei ddefnyddio, ei letya neu ei storio ar gynnwys a gwasanaethau’r 鶹Լ

Fel pan fyddwch chi'n llwytho cynnwys i Weather Watchers neu wefan CBeebies

Ei gopïo, ei newid neu ei gyfieithu, neu wneud pethau wedi eu hysbrydoli ganddo

Dim ond lle bo angen y byddwn yn golygu eich cynnwys sy'n gysylltiedig â newyddion.

Darllenwch .

Ei ddefnyddio gyda’n hoffer ar gyfer gwneud creadigaethau neu ailgymysgu cynnwys

Mae rhai o'n gwasanaethau yn cynnwys offer ar gyfer chwarae gyda’n cynnwys, ysgrifennu eich cod eich hun, a gwneud pethau fel gemau a delweddau. Gallai'r rhain:

  • Arddangos eich creadigaethau i ysbrydoli pobl eraill.
  • Gwahodd eraill i ddefnyddio eich creadigaeth i wneud eu creadigaethau eu hunain

Ei rannu i wneud ymchwil

Rydym yn gwneud gweithgareddau ymchwil ac weithiau'n cydweithio â phartneriaid ymchwil. Bob hyn a hyn, rydym yn rhannu ein cynnwys a data gyda nhw. Ond rydym yn ofalus ynglŷn â’r hyn rydym yn ei rannu a'r hyn y gall ein partneriaid ymchwil ei wneud ag ef.

Ei gymedroli

Sy’n golygu y gallwn adolygu, golygu, dileu neu beidio â’i dangos. Ac, os yw’n torri unrhyw gyfreithiau, gallwn ei gyfeirio at yr heddlu ac awdurdodau eraill.

A gallwn ddefnyddio eich creadigaethau:

  • Unrhyw le yn y byd
  • Mewn unrhyw gyfrwng (e.e. y teledu, y rhyngrwyd, radio, cyfryngau cymdeithasol ac apiau)
  • Am unrhyw gyfnod - hyd yn oed os byddwch chi’n stopio defnyddio’n gwasanaethau.

A gall unrhyw un rydyn ni’n gweithio â nhw wneud y pethau hynny hefyd. Er enghraifft, os byddwch yn anfon delwedd at 鶹Լ News, gallem rannu eitem newyddion sy’n cynnwys y ddelwedd honno â darlledwr o dramor, a fyddai wedyn yn gallu gwneud yr holl bethau uchod. A gallent hefyd godi tâl ar eu defnyddwyr i’w weld.

Rhai pethau arall y byddwn yn eu gwneud a ddim yn eu gwneud:

  • Efallai y byddwn yn gadael i bobl eraill ddefnyddio’ch creadigaeth. Ac weithiau, efallai y byddwn yn gadael iddynt ei golygu neu wneud pethau wedi’u hysbrydoli ganddi.
  • Fyddwn ni ddim yn eich talu amdano.
  • Rydym yn gobeithio ei ddefnyddio. Ond allwn ni ddim gwarantu hynny.
  • Fel arfer, rydym yn dangos eich enw wrth ochr yr hyn rydych yn ei bostio. Ond allwn ni ddim addo hynny.
  • Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i weld a oes gennych ganiatâd i ddefnyddio unrhyw gerddoriaeth, delweddau, clipiau neu destun yn yr hyn rydych yn ei bostio.

Efallai y bydd telerau eraill

Weithiau, mae llwytho creadigaeth i’n gwasanaethau yn golygu defnyddio offer a ddarperir gan rywun heblaw’r 鶹Լ. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio WhatsApp i rannu eich straeon a’ch adroddiadau llygad-dyst gyda 鶹Լ News.

Weithiau bydd telerau ac amodau’r darparwr yn berthnasol i ddefnyddio’i offer. Darllenwch eu telerau nhw (gallwch chwilio amdanyn nhw ar-lein) gan y byddan nhw’n dweud wrthych beth gall y darparwr ei wneud gyda’ch creadigaeth pan fyddwch yn defnyddio’i offer.

Nodyn am eich “Hawliau Moesol”

Pan fyddwch yn llwytho rhywbeth, rydych yn ildio’ch hawliau moesol iddo. Mae hyn yn golygu y gallwn ei ddefnyddio heb nodi mai chi yw'r sawl sydd wedi’i greu.

Gallwn hefyd ei olygu neu ei newid heb eich caniatâd. Ac ni fydd gennych hawl i ddweud ein bod wedi’i drin mewn ffordd “fychanol”.

Mae rhagor am .

Change language: