Â鶹ԼÅÄ

Ychwanegu pethau ar y Â鶹ԼÅÄ

Diweddarwyd y dudalen: 5 Awst 2019

Mae ychwanegu yn ffordd dda o gofio pethau ar gyfer wedyn a mynd yn syth at y cynnwys sy’n bwysig i chi.

Weithiau, byddwn yn defnyddio'r pethau rydych yn eu hychwanegu i argymell cynnwys arall y byddech, yn ein tyb ni, yn ei hoffi. Ac weithiau byddwn yn rhoi hysbysiadau i chi amdanyn nhw, fel pennod newydd o raglen rydych wedi’i hychwanegu. Os ydych yn dymuno, gallwch ddewis peidio â derbyn yr hysbysiadau yma.

Fel arfer, mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu pethau. Y rheswm am hynny yw er mwyn i ni allu cofio popeth rydych wedi’i ychwanegu ac i chi gael mynediad ato ar unrhyw ddyfais.

Sut ydw i'n ychwanegu pethau?

Gallwch ychwanegu unrhyw beth sydd â botwm Ychwanegu wrth ei ymyl, gan gynnwys:

  • Rhaglenni teledu a radio
  • Clipiau Fideo a Sain
  • Pynciau newyddion (yn yr ap Â鶹ԼÅÄ News yn unig)
  • Pynciau chwaraeon
  • Ryseitiau

Gallwch ychwanegu gynifer ag y dymunwch. Ond, dim ond 10 pwnc y gallwch eu hychwanegu yn yr ap Â鶹ԼÅÄ News. Ymddiheuriadau am hynny.

Sut mae gweld neu dynnu pethau rydw i wedi’u hychwanegu?

Mae gan wahanol rannau o’r Â鶹ԼÅÄ eu hadrannau eu hunain ar gyfer y pethau rydych wedi’u hychwanegu. Er enghraifft, yn iPlayer, maent yn cael eu hychwanegu at yr adran Fy Rhaglenni. Yn Â鶹ԼÅÄ Sport maent yn cael eu hychwanegu at yr adran My Sport.

Gallwch gael gafael ar bethau rydych wedi’u hychwanegu a’u tynnu i ffwrdd ymhob adran. Ond cofiwch y bydd tynnu unrhyw beth yn golygu na fyddwch yn cael unrhyw argymhellion na hysbysiadau cysylltiedig.

Alla i ddim dod o hyd i’r pethau rydw i wedi’u hychwanegu

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi. Os nad ydynt yn ymddangos wedyn, efallai eich bod wedi’u hychwanegu pan nad oeddech wedi'ch mewngofnodi.

Sut mae rhannu'r pethau rydw i wedi’u hychwanegu?

Gallwch rannu pethau drwy ddefnyddio'r botwm Rhannu.

Change language: