Staff iechyd Cymru'n wynebu'r 'gaeaf caletaf erioed'

Ffynhonnell y llun, PA

Mae'r Gwasanaeth Iechyd dan y pwysau mwyaf difrifol yn ei hanes, ac mae Cymru ar drothwy'r "gaea' caleta' erioed", yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Dywedodd Eluned Morgan bod angen i'r cyhoedd barhau i ofyn am gymorth meddygol ond i ystyried yn ofalus a ddylid mynd at fferyllydd neu feddyg teulu yn gyntaf yn hytrach na chysylltu â'r gwasanaethau brys.

Daeth y ffigyrau oriau wedi i Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru rybuddio bod pobl mewn rhannau o'r rhanbarth yn cael trafferthion sicrhau apwyntiad meddyg teulu, gan ddisgrifio'r sefyllfa'n "argyfwng".

Brwydro 'dydd ar ôl dydd'

"'Dan ni byth wedi gweld y fath bwysau ar yr NHS," dywedodd Ms Morgan wrth raglen Dros Frecwast.

"Nid just achos y pandemig, ond y ffaith bod cym'int o bethe yn dod at ei gilydd a sydd wedi bod yn adeiladu dros gyfnod o amser."

Mae'r ffactorau hynny, meddai, yn cynnwys y gwaith o weithredu'r rhaglen frechu. Hefyd mae "pobl nawr yn dod ymlaen gyda'u probleme nhw" wedi sawl cyfnod clo ac fe bwysleisiodd bod hi'n "dda iawn gweld hynny".

Ond mae galw ychwanegol o ganlyniad yn golygu bod "er enghraifft, mewn rhai achosion, 20% fwy o bobl isio gweld eu GPs nhw".

Disgrifiad o'r llun, Mae staff y GIG "ar eu gliniau" medd Eluned Morgan

Ychwanegodd: "Mae 20% o'r bobl sydd yn galw 999 yn faterion sy'n ymwneud â Covid, felly mae'r pwyse 'ma yn dod o bobman.

"Mae cydymdeimlad aruthrol gen i tuag at y staff sydd wedi bod yn brwydro trwy'r pandemig yma, dydd ar ôl dydd, mis ar ôl mis, a nawr ma' nhw ar eu gliniau nhw.

"Y'n ni'n cydnabod hynny a dyna pam ma' hi'n anodd dros ben i ofyn i nhw i 'neud hyd yn oed fwy wrth i ni fynd mewn i'r gaea' caleta' erioed."

Dywed Ms Morgan ei bod hi'n "bwysig bod y cyhoedd yn cymryd eu cyfrifoldeb nhw i beidio â rhoi'r pwyse ychwanegol yna os ma' 'na ffyrdd erill i nhw i ga'l yr help yna".

Mae hynny'n cynnwys mynd i fferyllfa, meddygfa neu alw'r llinell gymorth 111 yn hytrach na chysylltu â'r gwasanaethau brys.

Mae'r gwasanaeth 111, meddai yn "arwain pobl at y person cywir fydd yn gallu helpu nhw".