Â鶹ԼÅÄ

Plant yn fwy agored i salwch cyffredin y gaeaf hwn?

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn cael ei frechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith o frechu plant 12-15 oed yn dechrau ym mis Hydref

Mae'n bosib y bydd plant yn fwy agored i salwch cyffredin y gaeaf hwn oherwydd "dyled imiwnedd" a grëwyd yn ystod y cyfnod clo, medd gwyddonwyr Llywodraeth Cymru.

Dywedodd prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth Cymru dros iechyd, Dr Rob Orford, y gallai ail-ymddangosiad afiechydon anadlol, a gafodd eu hatal yn ystod y cyfnod clo diwethaf, "achosi problemau".

Mae yna "lawer iawn o ansicrwydd" ynglŷn â beth allai ddigwydd nesaf yn y pandemig, meddai. Gallai amrywiolion newydd o Covid ddod i'r amlwg a gallai fod "cyd-heintio" â salwch eraill.

"Beth fydd yn digwydd os bydd ffliw a Covid yn digwydd yng Nghymru?" meddai wrth bwyllgor iechyd y Senedd.

"Efallai ein bod ni wedi pentyrru rhywfaint o ddyled imiwnedd yn y system lle nad yw plant wedi bod yn cymysgu â ffrindiau ac felly efallai eu bod nhw'n fwy tueddol o gael rhai o'r afiechydon rydyn ni'n eu gweld yn draddodiadol."

Plant wedi dioddef 'yn anghymesur'

Dywedwyd wrth ASau fod plant yn llawer llai tebygol o fynd yn ddifrifol wael gyda'r coronafeirws neu ddatblygu Covid hir.

Ond dywedodd Fliss Bennee, cyd-gadeirydd cell gynghori dechnegol y llywodraeth, fod plant wedi dioddef "yn anghymesur" yn y pandemig trwy golli addysg a chwarae.

Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn ymwybodol bod niwed sy'n cronni o fethu â chael rhyngweithio cymdeithasol sy'n arwain at ddatblygu imiwnedd rhag dod i gysylltiad â chlefydau heintus eraill."

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Frank Atherton ei fod yn poeni am y gaeaf oherwydd bod "lefel uchel iawn o weithgaredd ysbyty" eisoes.

Roedd "lefelau uchel iawn o drosglwyddo cymunedol", ond roedd hynny'n "llawer llai" niweidiol nag yn nhonnau cyntaf ac ail y coronafeirws oherwydd y brechlynnau, meddai.

Roedd achosion wedi "sefydlogi" yr wythnos ddiwethaf, ond wedi codi eto yn ystod y dyddiau diwethaf "sydd yn ôl pob tebyg yn adlewyrchiad o'r ysgolion yn mynd yn ôl oherwydd ein bod ni'n gwybod pan fydd yr ysgolion hynny ar waith mae mwy o gymysgu cymunedol yn gyffredinol".

Pynciau cysylltiedig