Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Rhybudd am 'storm berffaith' yn ysbytai Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ysbytyFfynhonnell y llun, PA

Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn agosáu at "storm berffaith" yn ystod trydedd don pandemig Covid, yn ôl pennaeth bwrdd iechyd o Gymru.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gohirio rhai llawdriniaethau arferol yn ei ysbytai wrth i achosion Covid godi.

Fe ddaw wrth i ddau fwrdd iechyd arall yng Nghymru atal rhai ymweliadau, gydag un ohonyn nhw'n atal rhai llawdriniaethau.

Dywedodd Maria Battle, cadeirydd Hywel Dda, fod ganddyn nhw 30,000 o gleifion bellach yn aros am lawdriniaeth wedi'i chynllunio yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd staff y bwrdd iechyd eu bod wedi wynebu "wythnos anhygoel o brysur" mewn cyfleusterau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Cyhoeddodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru ddydd Gwener ei fod yn atal llawdriniaethau arferol ac yn atal y mwyafrif o ymweliadau ag ysbytai.

Mae bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg hefyd wedi atal y mwyafrif o ymweliadau cleifion am "ddiogelwch ein cleifion a'n staff" yn ei gyfleusterau ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

'Ein twyllo bod pethau'n normal'

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener fod modelu yn awgrymu y gallai fod "100 o dderbyniadau ysbyty Covid-19 newydd" bob dydd yng Nghymru erbyn diwedd mis Medi gan mai dyna pryd mae arbenigwyr yn disgwyl i'r amrywiolyn Delta gyrraedd ei anterth.

Mae cyfradd heintiau Covid yng Nghymru wedi codi i 522.7 o achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl - yr uchaf ers mis Rhagfyr y llynedd.

Ledled Cymru, bu cynnydd o 35% yn nifer y cleifion yn yr ysbyty dros y saith diwrnod diwethaf.

Ond gyda bron i 70% o oedolion Cymru bellach wedi'u brechu'n llawn, mae nifer y bobl yn yr ysbyty sydd â'r feirws dair gwaith yn llai nag ar frig yr ail don Covid ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

"O'i gymharu â'r 18 mis diwethaf, efallai y cawn ein twyllo i feddwl ein bod yn ôl i normal," meddai cadeirydd Hywel Dda.

"Ond, er bod effaith waethaf Covid-19 drosodd, nid ydym allan o'r coed eto.

"Ar hyn o bryd, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae gennym ni bron y storm berffaith.

"Ond rydyn ni wedi mynd trwy lawer o stormydd gyda'n gilydd yn ystod oes y pandemig hwn a gyda'ch cefnogaeth chi fe gawn ni trwy'r un hon eto."