Â鶹ԼÅÄ

'Argyfwng' diffyg apwyntiadau meddyg teulu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nurse on phoneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cleifion wedi cwyno eu bod ar y ffôn am oriau yn ceisio cael apwyntiad meddyg teulu

Mae pobl mewn rhannau o'r gogledd yn ei chael hi'n anodd iawn cael apwyntiad i weld eu meddyg teulu, yn ôl Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.

Mae'r corff wedi disgrifio'r sefyllfa fel argyfwng, gan honni fod pobl yn gorfod aros ar y ffôn am amser hir cyn clywed nad oes apwyntiad iddyn nhw wedi'r cwbl.

Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain mae galw cynyddol am weld meddygon teulu, ond maen nhw'n gallu gweld llai o bobl wyneb i wyneb oherwydd Covid.

Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru bod yn rhaid cyflawni rhai gwasanaethau, yn enwedig apwyntiadau meddyg teulu, yn ddigidol oherwydd y pandemig.

Ychwanegodd mai lefelau staffio ydy'r prif reswm fod pobl yn ei chael yn anodd cael apwyntiadau.

'Anodd gweld pethau'n gwella yn fuan'

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru fod "pobl yn mynd yn rhwystredig iawn".

"Mae rhai meddygfeydd wedi stopio pobl rhag ciwio tu allan oherwydd Covid a does gan rai ddim yr adnoddau i wneud apwyntiadau ar-lein, gan olygu bod 'na oedi hir ar y ffonau," meddai.

"Mae pobl yn clywed bod apwyntiadau i gyd wedi mynd a hynny am 08:10 yn y bore pan mae'r ffonau newydd agor.

"Mae hi'n argyfwng mewn rhai mannau ac mae'n anodd gweld pethau'n gwella yn fuan."

Ychwanegodd Mr Ryall-Harvey nad ydy rhai meddygfeydd yn datblygu cynlluniau i ddefnyddio technoleg fodern - fel cyfweliadau fideo a ffyrdd i wneud apwyntiadau ar-lein - yn ddigon buan.

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd mynd trwodd i'r doctor yn ofnadwy o anodd," meddai Becca Martin

Fe geisiodd Becca Martin o Wrecsam wneud apwyntiad i'w thad Steve pan gafodd haint dŵr ym mis Mehefin.

Mae Steve ofn doctoriaid, felly fe geisiodd Becca ac aelodau eraill o'r teulu wneud apwyntiad iddo nifer o weithiau, ond erbyn iddyn nhw gael apwyntiad roedd cyflwr ei thad mor ddrwg fel y bu'n rhaid iddo fynd yn syth i'r ysbyty.

"Roedd mynd trwodd i'r doctor yn ofnadwy o anodd," meddai.

"Roedd hi'n adeg rwystredig a stressful iawn - o bosib un o'r cyfnodau anoddaf yn fy mywyd.

"Roedd fy mam ar y ffôn am dros awr ar un adeg ac fe ddwedwyd wrthym ni nifer o weithiau nad oedd 'na apwyntiad ar gael ac i ffonio nôl y diwrnod canlynol, nes i fy mam ddweud ei bod yn ofni fod fy nhad yn mynd i farw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn i Steve gael apwyntiad roedd ei gyflwr mor ddrwg fel y bu'n rhaid iddo fynd yn syth i'r ysbyty

Dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru yng Nghymdeithas Feddygol Prydain, Phil White, bod prinder doctoriaid cyn Covid a bod y pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa.

"Roedd y senario yma'n datblygu cyn Covid ac rydym yng Nghymru wedi gweld mwy o brinder doctoriaid wrth i rai ymddeol yn gynnar a'r ffaith bod 35% o'r gweithlu dros 55 oed.

"Wedyn fe wnaeth Covid daro ac roedd yr un rheolau oedd yn berthnasol i'r cyhoedd hefyd yn berthnasol i ddoctoriaid.

"Hyd yn oed rŵan 'dan ni'n gweithredu mewn adeiladau efo 'stafelloedd aros bach ac mae gennym ni lawer o gleifion bregus, sy'n golygu na allwn ni lenwi stafelloedd efo pobl a dyna pam fod gweld cleifion wyneb wrth wyneb yn cael ei leihau."

'Galw aruthrol'

Ychwanegodd Dr White fod defnyddio technoleg fodern i gysylltu gyda chleifion yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

"Roedd cysylltiadau electronig yn dod yn fwy poblogaidd hyn yn oed cyn y pandemig - mae'n well gan gleifion iau system o'r fath," meddai.

Ffynhonnell y llun, BMA Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Phil White fod prinder doctoriaid cyn Covid, a bod y pandemig wedi gwaethygu'r sefyllfa

Dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes, eu bod yn cydnabod fod pobl yn ei chael yn anodd gweld eu meddyg teulu.

"Mae'r galw aruthrol sydd ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal yn gwaethygu'r sefyllfa," meddai.

Ychwanegodd Mr Hughes fod gwasanaethau dan fwy o bwysau ar hyn o bryd nag ar frig y pandemig.

"Ar hyn o bryd, y broblem fwyaf ydy lefelau staffio," meddai.

Dywedodd hefyd mai apwyntiad digidol yn aml ydy'r ffordd fwyaf addas o drin claf, a'i fod yn aml yn fwy effeithiol.

Pynciau cysylltiedig