Â鶹ԼÅÄ

COVID-19: Yr ail don a'r cyfyngiadau sy'n dod o hynny

  • Cyhoeddwyd
CaerffiliFfynhonnell y llun, Huw Fairclough

Nod llywodraethau lleol a chenedlaethol Cymru oedd atal a rheoli'r feirws, ond sut ydych chi'n gwneud hyn pan all pobl ddal i fod yn heintus heb wybod?

Mae'r mwyafrif sy'n dal coronafeirws yn dangos symptomau ysgafn - gyda rhai heb unrhyw symptomau o gwbl. Sut mae olrhain llofrudd mor llechwraidd?

Yr ail don

Nid oes amheuaeth bod y gyfradd achos yn codi unwaith eto, ond mae maint y cynnydd hwn mor ansicr ag yr oedd pan blymiodd y wlad i'r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth.

Ar hyn o bryd, mae'r arbenigwyr yn amcangyfrif bod y rhif R yn 1.2 - 1.5, sy'n golygu y bydd pob 10 o bobl sydd wedi'u heintio, ar gyfartaledd, yn heintio rhwng 12 a 15 o bobl eraill.

Mae rhai rhagfynegiadau yn nodi y byddwn nawr yn gweld cynnydd esbonyddol mewn achosion, gydag uwch gynghorwyr llywodraethau'r DU yn amcangyfrif y bydd 50,000 o achosion y dydd yn digwydd erbyn diwedd mis Hydref.

Hyd yn oed os yw'r ffigwr hwn ar ben uchaf yr amcangyfrifon, nid oes amheuaeth y byddwn yn gweld dringfa raddol yn nifer yr achosion wrth inni gyrraedd misoedd y gaeaf.

Prif ateb Llywodraeth Cymru i'r bygythiad hwn yw gosod cloeon lleol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cloeon lleol

Wrth i fwy a mwy o siroedd yng Nghymru blymio i mewn i gloi lleol, beth yw'r dystiolaeth y bydd y mesurau hyn yn gweithio?

Mae'r clo cenedlaethol cyntaf yn tystio bod lleihau cyswllt rhwng pobl yn allweddol i leihau nifer yr achosion. Mae'r feirws yn lledaenu'n bennaf wrth drosglwyddo o berson i berson, felly mae lleihau cyfarfyddiadau pobl yn lleihau'r lledaeniad hwn.

Nod cloeon lleol yw cynnwys y feirws mewn ardal. Mae hyn yn golygu bod modd canolbwyntio adnoddau ar leihau nifer yr achosion yn yr ardal benodol honno, gan wybod na all pobl y tu mewn i'r ardal honno heintio pobl o'r tu allan i'r ardal.

Yr hyn nad yw'n glir yn wyddonol yw pa mor effeithiol fydd y cloeon lleol hyn. Mae cydnabyddiaeth o fewn y llywodraeth bod y cyhoedd yn blino ar y frwydr yn erbyn coronafeirws, gydag amcangyfrifon mai dim ond un o bob pump o bobl sy'n cael rhybudd i hunan-ynysu sy'n gwneud hynny.

Roedd y clo cenedlaethol gwreiddiol yn arddangos y neges glir 'Aros yn y cartref'. Nawr, gyda rheolau sy'n newid yn barhaus a'r ffaith y gall pobl fod yn heintus cyn i'r symptomau ddatblygu, pa fesurau eraill y mae'r llywodraethau'n gobeithio fydd yn atal y lledaeniad?

Canolbwyntio ar aelwydydd?

Mae strategaeth profi, olrhain a gwarchod y llywodraeth ac ap olrhain COVID-19 y Gwasanaeth Iechyd wedi caniatáu i'r llywodraeth olrhain cyfraddau achosion yng Nghymru. Mae'r data o'r ffynonellau hyn wedi caniatáu iddynt nodi o ble y daw'r mwyafrif o achosion yng Nghymru a gosod cyfyngiadau wedi'u targedu ar yr ardaloedd neu'r gweithgareddau hynny.

Dyma sut gwnaeth y llywodraeth dargedu Llanelli ar ei phen ei hun, gan adael Sir Gaerfyrddin, am y tro, ar agor.

Mae tystiolaeth dda bod pobl yn teimlo'n fwy hamddenol mewn cartrefi ac felly'n fwy tebygol o anghofio am fesurau pwysig fel pellhau cymdeithasol a gwisgo mygydau wyneb, a fyddai'n cael eu gorfodi'n rhwydd mewn siopau, bwytai neu mewn gweithle.

Gall lleihau faint mae gwahanol aelwydydd yn ei gymysgu gyfrannu at leihau'r ymlediad.

Pryd fydd y cloeon yn dod i ben?

Nid yw'n eglur pryd bydd y cloeon lleol yn gallu cael eu lleddfu, wrth i nifer yr achosion barhau i dyfu yn yr ardaloedd hynny sy'n cael eu heffeithio.

Er bod y Llywodraeth yn defnyddio achosion i bennu cyfyngiadau cloi, mae yna ychydig o ganlyniadau posibl:

  • Maen nhw'n gweithio,

  • dydyn nhw ddim yn gweithio, neu

  • maen nhw'n gweithio am gyfnod fel y gwelsom gyda'r cloi cenedlaethol cyntaf.

Mae yna lawer o ddadlau a oes angen rhoi mwy o bwyslais ar nifer y marwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad i coronafeirws. Mae'r nifer hwn yn parhau i fod yn gymharol isel o'i gymharu â'r don gyntaf a welsom yn y gwanwyn.

Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ond o ystyried y problemau gyda phrofion a'r ffaith ein bod yn cynnal mwy o brofion nawr nag yn ystod cyfnod clo'r gwanwyn, mae modd dadlau bod derbyniadau i'r ysbyty yn fetrig llawer gwell na nifer achosion.

Y rheswm mae'r Llywodraeth yn canolbwyntio ar achosion ar hyn o bryd yw oherwydd oedi mawr wrth gasglu data rhwng pan fydd rhywun wedi'i heintio a phan fydd rhywun yn yr ysbyty.

Felly mae'n anoddach ceisio mesur lledaeniad y feirws os ydych chi'n dibynnu ar dderbyniadau i'r ysbyty yn unig.

Ffynhonnell y llun, Reuters

COVID yng Nghymru

Y dywediad 'edrych ar ôl eich ceiniogau a bydd y punnoedd yn edrych ar ôl eu hunain' yw'r hyn sy'n dod i'r meddwl wrth ystyried nod presennol y llywodraeth ar gyfer lleihau nifer yr achosion. Os allwn leihau nifer yr achosion, yna bydd y cyfraddau marwolaeth oherwydd coronafeirws yn gofalu amdanynt eu hunain.

Yr hyn nad yw'n glir yw beth ddylai nod y llywodraeth fod; ceisio lleihau achosion ar draul economïau lleol, rhoi mwy o ymdrech mewn systemau profi ac olrhain neu ganolbwyntio ymdrech ar amddiffyn y rhai mwy agored i niwed.

Un peth sy'n glir yw ein bod mewn sefyllfa llawer cryfach i frwydro yn erbyn y pandemig nag ym mis Mawrth; mae ymddygiad pobl wedi newid ac mae gwyddonwyr yn dysgu mwy am y feirws bob dydd.