Â鶹ԼÅÄ

Cyfyngiadau llymach i bedair sir yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
RhuthunFfynhonnell y llun, PAUL ELLIS
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y mesurau newydd yn dod i rym yn llefydd fel Rhuthun

Mae pedair sir yn y gogledd i gael eu rhoi dan gyfyngiadau Covid-19 llymach.

Bydd ardaloedd cynghorau sir Conwy, Dinbych, Y Fflint a Wrecsam yn wynebu'r un cyfyngiadau â'r rhai sy'n bodoli yn 12 o siroedd y de.

Bydd y mesurau newydd yn dod i rym am 18:00 nos Iau.

Daw yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf.

Bydd Ynys Môn a Gwynedd, siroedd sydd wedi gweld llai o gynnydd mewn achosion positif, ddim yn wynebu cyfyngiadau am y tro.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething: "Yn anffodus rydym yn gweld patrwm tebyg o drosglwyddo yn Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy a Sir Y Fflint ac rydym wedi ei weld yn rhannau o'r de."

Ychwanegodd fod lefelau Covid yn "parhau yn isel" yng Ngwynedd a Môn.

Beth mae'r cyfyngiadau newydd yn ei olygu?

Daw'r mesurau newydd i rym am 18:00 ddydd Iau.

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam.

Mae'r cyfyngiadau yn golygu:

  • Na fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu i dderbyn addysg;

  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o un.

Bydd y cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy'n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:

  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i werthu alcohol am 22:00;

  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

'Nid clo cenedlaethol yw hwn'

Mae'r cyfyngiadau'n golygu y bydd bron i 2.5m o boblogaeth Cymru o 3.1m dan fesurau llymach erbyn nos Iau.

Daw'r cyhoeddiad wedi cyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru ac arweinwyr cynghorau'r gogledd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Vaughan Gething y cyhoeddiad i'r Senedd yn dilyn cyfarfod gydag arweinwyr cynghorau

"Rydym wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol a'r heddlu yn y gogledd ac rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau buan i reoli lledaeniad y feirws," meddai Mr Gething wrth wneud y cyhoeddiad yn y Senedd.

"Bydd rhannau helaeth o Gymru bellach yn destun cyfyngiadau lleol ond rwyf am fod yn glir - nid 'clo' cenedlaethol yw hwn.

"Cyfres o gyfyngiadau lleol yw'r rhain i ymateb i gynnydd mewn achosion mewn ardaloedd unigol.

"Mae bob amser yn anodd gwneud y penderfyniad i osod cyfyngiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol - yn union fel y gwelsom yng Nghaerffili a Chasnewydd, lle mae'r trigolion wedi tynnu ynghyd ac wedi dilyn y rheolau.

"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd.

"Nid mater o ddiogelu ein hunain yn unig yw hwn - ond diogelu ein gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd tua 2.5m o boblogaeth Cymru dan gyfyngiadau ychwanegol erbyn nos Iau

Wrth siarad ar Radio Wales fore dydd Mercher, dywedodd arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Ian Roberts mai'r prif reswm am y cynnydd yn nifer yr achosion oedd fod pobl o aelwydydd gwahanol yn cyfarfod yn nhai ei gilydd.

"Mae'n fater o bryder difrifol achos mae'r feirws yn effeithio ar bobl ar hyd gogledd Cymru. Rwy'n credu mai pobl yn cyfarfod mewn tai sydd yn gyfrifol am gynnydd yn nifer yr achosion."

Ychwanegodd fod anghysonderau amlwg yn y rheolau ar hyn o bryd sydd yn galluogi pobl o du allan i Gymru sydd yn byw mewn ardaloedd gyda chyfraddau coronafeirws uchel i deithio yma:

"Os wyf yn cefnogi pobl o Sir y Fflint dan glo sydd methu teithio i garafán yn is i lawr arfordir gogledd Cymru... dydy o ddim yn teimlo'n iawn fod pobl o ardaloedd gyda chyfraddau heintio uwch yn Lloegr yn cael mynd i'r un meysydd carafanau.

"Pan fod y cyfyngiadau hyn yn cael eu gweithredu, mae'n rhaid iddynt wneud synnwyr i'r boblogaeth leol. Rhaid i ni weld os bydd hyn yn gwneud synnwyr."

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn disgwyl y cyfyngiadau ychwanegol, meddai'r arweinydd, Hugh Evans.

Dywedodd bod "rhaid derbyn" y cyfyngiadau yn sgil pryderon yn yr ardal.

"Mae 'na bryderon, mae gynnon ni lot o bobl bregus yn yr ardal yma, ac mae'n rhaid i ni edrych ar eu holau nhw," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

Dywedodd hefyd nad oedd cau pellach, ysgolion er enghraifft, wedi ei drafod gyda'r prif weinidog, ond bod yr effaith ar yr economi ar yr agenda.

"Mae be' sy'n digwydd yr un peth a be' sy' 'di digwydd yn ne Cymru, ac mae'r economi wedi cario 'mlaen yna i ryw raddau, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol y bydd 'na rai elfennau o'r economi yn colli allan, yn enwedig twristiaeth."

'Dim tystiolaeth o gwbl'

Dywedodd arweinydd Ceidwadol Cyngor Sir Conwy bod mesurau i reoli'r haint yn "hollbwysig".

Ond ychwanegodd Sam Rowlands ei fod yn "ymwybodol iawn o'r effaith all hyn ei gael ar rai sectorau o'r economi a dwi'n siomedig nad oes mwy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein busnesau twristiaeth yn benodol".

Ychwanegodd yr AS Ceidwadol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, bod "dim tystiolaeth o gwbl" bod y ffigyrau'n cynyddu o ganlyniad i dwristiaeth.

"Roedd 'na wendid yn ein cartrefi gofal yn ystod y ffigyrau uchel diwethaf, dydy'r [gweinidog iechyd] ddim yn edrych ar hynny.

"Mae o'n edrych ar roi'r brêcs ymlaen ar fusnes a rhoi'r bobl fwyaf unig, ein mwyaf bregus, mewn perygl.

"Dwi ddim yn sicr ei fod wedi cymryd y cam cywir ar hyn o bryd."