Â鶹ԼÅÄ

Beth yw effaith coronafeirws ar ein corff?

  • Cyhoeddwyd
pesychuFfynhonnell y llun, Moyo Studio

Mae coronafeirws yn ymledu mewn diferion o'r ceg a'r trwyn sydd yn cael eu rhyddhau pan fydd person yn pesychu neu'n tisian. Gall rhain wedyn gael eu mewnanadlu gan bobl cyfagos.

Ond beth mae coronafeirws yn ei wneud i chi ar ôl dod i mewn i'n corff, a sut mae'n achosi symptomau?

Beth sy'n digwydd pan fydd y feirws yn mynd i fewn i'r corff?

Mae gan gelloedd coronafeirws bigau protein ar yr wyneb. Mae'r pigau hyn yn bachu ar wyneb celloedd ein corff, gan ganiatáu i ddeunydd genetig y feirws fynd i mewn.

Dychmygwch fod gan bob cell yn ein corff fwlyn drws protein unigryw. Mae gan ein celloedd gwddf ac ysgyfaint fwlyn drws protein penodol o'r enw ACE2. Y pigau ar wyneb coronafeirws yw'r allwedd i agor ACE2, a rhyddhau ei god genetig i'r gell.

Unwaith bydd y feirws y tu mewn i'r gell, mae ei wybodaeth genetig yn cymryd dros y 'peiriannau' (h.y sut mae'r gell yn cael ei rheoli), gan droi'r gell yn ffatri sy'n gallu cynhyrchu miliynau o gopïau o'r feirws.

Yn y pen draw, mae'r copïau feirol hyn yn cronni ac yn achosi'r gell i ymrwygo, gan ddinistrio'r gell a rhyddhau'r miliynau o gopïau, sy'n mynd ymlaen i heintio celloedd cyfagos.

Os na chaiff ei atal, mae'r broses yma yn arwain at ddinistrio mwy a mwy o gelloedd, gan arwain at symptomau COVID-19.

Symptomau cynnar

Pan fydd y feirws yn mynd i fewn i'n corff, gall deithio'n gyflym i gefn y gwddf, gan gysylltu â bwlyn drws ACE2 ar wyneb celloedd y gwddf. Mae difrod y feirws yn cychwyn yma, gan gythruddo'r gwddf ac achosi'r symptomau dolur gwddf cynnar a pheswch sych sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Yna mae'r feirws yn cropian i lawr y llwybrau anadlu gan symud yn araf tuag at y sachau aer - yr alfeoli - sy'n ffurfio'r ysgyfaint. Mae celloedd ysgyfaint math II wedi'u gorchuddio â bwlyn drws ACE2, sy'n golygu y gall coronafeirws gael mynediad i'r ffatrïoedd cellog hyn yn hawdd i ail-gynhyrchu.

Mae celloedd ysgyfaint math II yn gyfrifol am gynhyrchu sylwedd tebyg i sebon sy'n helpu aer i fynd i fewn ac allan o'r ysgyfaint. Wrth i'r feirws ymosod ar y celloedd hyn, mae pobl yn dechrau cael trafferthion anadlu, sef symptom nesaf COVID-19.

System imiwnedd yn ymladd yn ôl

Mae pob cell sy'n cael ei heintio gan y feirws yn anfon galwad am help. Mae'n cael ei ateb gan ein system imiwnedd, sy'n ymosod ar y feirws ar unwaith.

Mae'r mewnlifiad yma o'r filiynau o gelloedd imiwnedd yn cymryd llawer o egni ein corff, sy'n golygu yn araf wrth i ni frwydro yn erbyn yr haint, ein bod ni'n dechrau teimlo blinder - symptom cyffredin arall o COVID-19.

Yn yr un modd â'r mwyafrif o heintiau, mae'r system imiwnedd yn cyfrannu at y difrod sy'n cael ei achosi, wrth iddo fynd ati i ddinistrio ein celloedd heintiedig. Mae miliynau o gelloedd imiwnedd yn ymosod ar y celloedd ysgyfaint heintiedig ac yn achosi llawer iawn o ddifrod yn y broses o glirio'r feirws a'r holl gelloedd heintiedig.

Yn y pen draw, bydd y difrod sy'n cael ei achosi gan ein system imiwnedd ein hunain yn penderfynu pa mor ddifrifol yw ein symptomau.

Mae gan COVID-19 raddfa o ddifrifoldeb. Mae cleifion iau yn gallu clirio'r feirws yn haws fel arfer, ond mae cleifion hÅ·n yn dioddef o symptomau cynyddol ddifrifol. Wrth i ni heneiddio mae ein system imiwnedd hefyd yn heneiddio ac felly nid yw yr un mor effeithlon yn clirio heintiau ag yr oedd. Wrth gymryd mwy o amser i'r feirws gael ei glirio, mae mwy o amser i'r feirws wneud difrod.

Yr her i weithwyr gofal iechyd sy'n trin cleifion COVID-19 sydd â symptomau difrifol yw cefnogi'r corff a sicrhau bod digon o ocsigen yn y gwaed wrth i'r ysgyfaint wella a'r system imiwnedd wneud ei waith o glirio'r haint.

Traciwr Symptom COVID-19

Mae tracio lledaeniad COVID-19 yn gadael i wyddonwyr gysylltu symptomau â sut mae'r feirws yn bihafio yn ein corff.

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, a GIG Cymru yn annog y cyhoedd yng Nghymru i lawrlwytho ap arlosol - - i gofnodi symptomau er mwyn helpu ymateb y GIG yng Nghymru

Mae'r ap yma eisoes wedi arwain at fewnwelediadau anhygoel i ledaeniad y feirws ac mae wedi helpu i nodi fod colli arogl neu flas yn symptom newydd o COVID-19. Mae adnabod y symptom hwn wedi helpu gwyddonwyr i weld bod coronafeirws hefyd yn heintio'r celloedd yng nghefn ein trwynau, y rhai sy'n gyfrifol am y synhwyrau hyn.

Y gobaith yw y gall darparu mewnwelediadau newydd fel hyn helpu gwyddonwyr i ddatblygu brechlyn yn gynt.