Â鶹ԼÅÄ

Cymru 'mewn sefyllfa fregus' oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Barwnes Ilora Finlay
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Farwnes Finlay yn bryderus iawn am effaith ail don ar staff y GIG

Mae un o feddygon mwyaf blaenllaw Cymru wedi rhybuddio bod y wlad mewn "sefyllfa fregus" gyda bron i ddwy filiwn o bobl nawr yn byw o dan gyfyngiadau Covid ychwanegol.

Wrth siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd y Farwnes Ilora Finlay bod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb personol i atal lledaeniad y feirws.

Mae'r Farwnes yn aelod o Gomisiwn Bevan - grŵp o arbenigwyr annibynnol sy'n rhoi cyngor ar iechyd a gofal yng Nghymru.

Ychwanegodd y byddai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol "yn cael ei gorlethu'n llwyr" heb weithredu cyflym.

'Ddim eisiau byw â'r euogrwydd'

Dywedodd: "Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru swydd anodd, a rhaid i ni drosglwyddo'r neges i bawb o'r boblogaeth fod ganddyn nhw gyfrifoldeb personol o dorri cadwyn trosglwyddo'r haint.

"Nid y llywodraeth all wneud hynny, nid rhywun arall all wneud hynny - mae'n rhywbeth i bob un ohonom ei wneud."

Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg yw'r tair ardal ddiweddaraf i gael cyfyngiadau ychwanegol wedi cynnydd mewn achosion.

Mae wyth ardal arall - gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe - eisoes o dan gyfyngiadau llymach.

Mae'r rheolau'n golygu nad oes neb yn cael gadael yr ardaloedd heblaw i fynd i weithio, cael addysg neu argyfyngau meddygol. Does neb i gyfarfod dan do a does dim hawl gwerthu alcohol ar ôl 22:00.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Farwnes Finlay bod y rheolau yna am reswm.

"Nid mater o dorri rheolau yw hyn," meddai.

"Mae'n fater o ofalu am y bobl ry'ch chi'n eu caru a sylweddoli os fyddwch chi'n mynd â'r feirws yma adre a gwneud rhywun yn sâl, yna fe fyddwch chi'n byw gyda'r euogrwydd yna am weddill eich bywyd."

'Blino'n emosiynol'

Ychwanegodd nad yw profion yn feddyginiaeth, a bod dilyn canllawiau pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn bwysicach.

"Rwy'n credu y gall y neges am brofi rhoi synnwyr diogelwch ffug i bobl. Mae pobl yn credu os cawn nhw brawf negatif eu bod nhw'n iawn," meddai.

"Dyw e ddim yn golygu hynny. Gall prawf negatif olygu eich bod yn y dyddiau cynnar a ddim yn cynhyrchu digon o'r feirws i'r prawf ei adnabod eto."

Yn dilyn ymdrech aruthrol y GIG i'r don gyntaf o coronafeirws, mae'r Farwnes Finlay yn bryderus bod staff wedi'u llethu.

"Rwy'n poeni bod y GIG eisoes wedi gorflino, a bod staff wedi blino'n emosiynol.

"A phan maen nhw wedi blino'n emosiynol, dyw e ddim yn fater o'u talu nhw neu fynd allan i glapio... rhaid i ni gydnabod fod rhaid i wneud popeth y gallwn ni i beidio'u rhoi o dan y fath bwysau."