Drakeford: Covid-19 'wedi amlygu anghyfartaledd' yn y DU

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Rhondda Cynon Taf sydd â'r gyfradd marwolaethau uchaf a'r gyfradd uchaf o achosion yng Nghymru

Mae'r pandemig coronafeirws wedi amlygu "gwir natur yr anghyfartaledd" yn y DU, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford fod ffigyrau sy'n dangos bod rhai o awdurdodau Cymru ymhlith y rhai sydd wedi'u taro waethaf yn "drist, ond ddim yn syndod".

Ychwanegodd nad oedd cyfradd lledaeniad y feirws - y Rhif R - wedi newid rhyw lawer ac felly dyna pam nad oes mwy o gyfyngiadau'n cael eu llacio eto.

Yn y cyfamser mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi cefnogi camau Mr Drakeford wrth daclo'r argyfwng, gan ddweud nad "jyst dilyn Lloegr" yw'r ateb.

'Dim llawer o sôn am denis'

Rhondda Cynon Taf sydd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yng Nghymru gyfan - 98.89 am bob 100,000 o bobl - yn ôl y ffigyrau diweddaraf, tra bod ardaloedd fel Merthyr Tudful a Chaerdydd hefyd wedi gweld cyfraddau uchel.

Ar y llaw arall dim ond 8.22 yw'r gyfradd yng Ngheredigion, a 22.87 yn Ynys Môn.

Dywedodd Mr Drakeford fod gan rai ardaloedd "boblogaeth hŷn, poblogaeth â chyflyrau iechyd eraill, poblogaeth sy'n byw yn agos at ei gilydd oherwydd y ddaearyddiaeth leol".

Ychwanegodd bod y cyngor meddygol yn awgrymu bod y Rhif R dal yn agos at lefel "ble gallai fynd allan o reolaeth" ac felly bod y llywodraeth wedi penderfynu peidio llacio'r mesurau'n ormodol eto.

"Rydyn ni wedi canolbwyntio ar adael i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod eto yn yr awyr agored," meddai ar raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

"Fe wnaethon ni hynny oherwydd yr holl negeseuon 'dyn ni wedi'i gael gan bobl Cymru, er eu bod nhw'n fodlon aberthu llawer dros yr ymdrech 'dyn ni wedi'i wneud, eu bod nhw'n methu eu teulu a ffrindiau'n fwy na dim."

Ychwanegodd mai "ychydig iawn" o negeseuon oedd wedi dod mewn cymhariaeth pan oedd hi'n dod at ofyn am lacio pethau fel chwarae tenis - a hynny mewn ymateb i feirniadaeth gan y Ceidwadwyr ynghylch pa weithgareddau awyr agored oedd wedi'u caniatáu.

'Nid cystadleuaeth yw hon'

Wrth gael ei holi ar raglen Dewi Llwyd ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Sul, dywedodd Carwyn Jones nad oedd wedi gweld unrhyw beth fyddai'n awgrymu y byddai wedi gwneud pethau'n wahanol i'w olynydd wrth daclo'r pandemig.

"Mae hwn yn rhywbeth fi'n ddigon hapus i adael i Mark a'r llywodraeth, ac maen nhw'n 'neud jobyn da ta beth," meddai.

"Dwi'n siarad gyda Mark nawr ac yn y man, ond dim ond pan mae'r cyngor yna wedi cael ei ofyn amdano. Y peth diwetha' fi moyn 'neud yw ffonio lan bob dydd a dweud 'dyle hyn 'di digwydd neu hwnna ddigwydd'."

Ychwanegodd mai'r "peth dwetha' ddylen ni wneud yw jyst dilyn Lloegr", a bod sawl esiampl o wledydd eraill ble mae'r rheolau yn amrywio o fewn y wlad.

"Mae'r syniad bod rhaid cael yr un polisi ar draws yr holl Deyrnas Unedig, dwi ddim yn credu bod hynny'n 'neud lot o synnwyr," meddai.

"Gawn ni weld pwy sy'n iawn, ond nid cystadleuaeth yw hon. Dyw hwn ddim yn sefyllfa lle mae Cymru a'r Alban yn trio 'neud pethau gwahanol er mwyn bod yn wahanol."

Ychwanegodd: "Fi 'di delio gyda Whitehall ers blynyddoedd mawr - allai 'weud wrthoch chi does dim mwy o ddoethineb yn Whitehall nag yn unrhyw le arall."