Â鶹ԼÅÄ

Cwyn Ceidwadwyr bod rheolau Covid-19 'yn ffafrio beicwyr'

  • Cyhoeddwyd
beiciwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ffafrio" beicwyr gyda'u canllawiau coronafeirws diweddaraf.

Daw hynny'n dilyn cadarnhad y bydd pobl yng Nghymru bellach yn cael cwrdd â theulu a ffrindiau o ddydd Llun ymlaen os ydyn nhw'n cadw pellter cymdeithasol.

Mae'r llywodraeth wedi gofyn i bobl ddefnyddio synnwyr cyffredin ac aros yn lleol, gan deithio dim mwy na phum milltir fel rheol.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod hynny'n "greulon" ac yn dangos ffafriaeth i feicwyr, sy'n cael teithio pellterau llawer hirach na'r rheiny oedd am weld anwyliaid.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod hynny oherwydd y "lefelau gwahanol o risg" rhwng ymarfer corff a chwrdd â phobl yn gymdeithasol.

Dim tenis o hyd

Dydy mesurau coronafeirws Llywodraeth Cymru ddim yn gosod terfyn ar y pellter y caiff pobl deithio wrth ymarfer corff, dim ond nodi bod yn rhaid iddyn nhw ddechrau a gorffen yn eu cartref.

Ond mae'r Ceidwadwyr, sydd eisoes wedi mynegi gwrthwynebiad i'r canllaw 'pum milltir', yn dweud y dylid llacio'r cyfyngiadau ar weithgareddau hamdden eraill hefyd.

"Mae caniatáu reid feic o 40 milltir yn gam da ymlaen, ond mae gwneud hynny tra'n parhau i atal gweithgareddau awyr agored eraill rhag digwydd yn od iawn," meddai Darren Millar AS.

"Fe allwch chi nawr deithio pellteroedd maith fan hyn, ond Cymru yw'r unig wlad yng ngorllewin Ewrop ble nad ydych chi'n cael chwarae tenis, camp sydd yn ei hanfod yn cadw pobl dros ddau fetr o'i gilydd.

Disgrifiad,

Rheol pum milltir: 'Gwnewch e mewn cyd-destun lleol'

"Dyw hi ddim yn ymddangos fel bo unrhyw wyddoniaeth y tu ôl i rai o'r dewisiadau mae gweinidogion Cymru'n ei wneud, sy'n codi'r cwestiwn pam fod rhai gweithgareddau'n cael eu ffafrio o flaen eraill."

Ychwanegodd ei bod hi'n "niweidiol" fod pobl yn cael teithio pellteroedd maith i ymarfer corff, ond nid i weld teulu a ffrindiau.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddileu'r rheol pum milltir creulon a dechrau meddwl am anghenion pawb, nid y detholedig rai yn unig," meddai.

Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y dylai pobl "ddefnyddio'u synnwyr" wrth ddehongli'r rheol pum milltir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Ychwanegodd bod rhai pobl yn yr ardaloedd hynny eisoes yn gorfod mynd yn bellach na hynny i siopa neu weithio, ac felly y byddai'n "dderbyniol" teithio pellteroedd tebyg i weld teulu a ffrindiau.

Yn dilyn cais am ymateb i sylwadau Mr Millar ddydd Sadwrn, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae pobl yn cael beicio pellteroedd hirach cyn belled â'u bod nhw'n dechrau a gorffen gartref.

"Mae gwahanol lefelau o risg rhwng ymarfer corff a chyfarfod pobl eraill mewn amgylchedd gymdeithasol. Y bwriad yw atal y feirws rhag ymledu a chadw Cymru'n saff."

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i drafod gyda'r cyrff llywodraethu perthnasol i weld pryd allai cyfleusterau fel cyrtiau tenis ailagor eto.