Â鶹ԼÅÄ

Cadarnhau rhywfaint o lacio ar gyfyngiadau Covid-19

  • Cyhoeddwyd
drakeford

Bydd cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yn cael eu llacio rhywfaint yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.

Bydd modd i bobl o ddau gartref gwahanol gwrdd â'i gilydd y tu allan, ond bydd yn rhaid i bobl aros dau fetr ar wahân ac aros yn eu hardal leol.

Fe gadarnhaodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y newidiadau mewn cynhadledd i'r wasg amser cinio ddydd Gwener.

Ychwanegodd fod pellter lleol yn golygu "dim mwy na phum milltir o'ch cartref".

Yr unig eithriadau fydd teithio i'r gwaith, chwilio am ofal a siopa am hanfodion na sydd ar gael yn lleol.

Gerddi preifat yn iawn, ond 'risg uwch'

Fe all aelodau o ddwy wahanol aelwyd gyfarfod mewn mannau awyr agored preifat, fel gerddi.

Ond dywed Llywodraeth Cymru fod hyn yn dod â "risg uwch o haint oherwydd y gallai pobl fod yn gorfod mynd drwy gartref preifat rhywun er mwyn cyrraedd yr ardd".

Disgrifiad,

Rheol pum milltir: 'Gwnewch e mewn cyd-destun lleol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cyfarfod yn yr awyr agored yn "allweddol gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dweud wrthym nad yw'r feirws ond yn goroesi am funudau yn yr awyr agored ond ei fod yn goroesi am oriau ar arwynebau o dan do".

Wrth siarad ar Radio Wales fore Gwener, dywedodd Mr Drakeford mai dim ond y newid yma sy'n bosib gan fod graddfa drosglwyddo'r feirws - rhif R - "ddim gwell yng Nghymru nag yr oedd dair wythnos yn ôl".

Y rhif R yng Nghymru ar hyn o bryd ydy 0.8. Mae cadw'r ffigwr o dan 1.0 yn cael ei weld yn allweddol i reoli'r feirws.

Yn y gynhadledd ddyddiol, fe geisiodd Mr Drakeford ymhelaethu ar y rheol pum milltir.

Wrth ateb cwestiwn gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd: "Mae e lan i bobl ddefnyddio'u synnwyr wrth feddwl am y daearyddiaeth gwahanol lle bynnag maen nhw'n byw.

"Mae pob gwlad sy'n llacio rhywfaint ar gyfyngiadau wedi awgrymu pellter penodol - pum milltir yn Yr Alban, pum cilomedr yn Iwerddon - ond os ydych chi'n gorfod teithio mwy na phum milltir nawr ar deithiau hanfodol fel siopa, yna bydd hynny'n dderbyniol.

"Mae angen i bobl ddefnyddio'u synnwyr, ond hefyd i fod yn ofalus."

'Annheg ar gymunedau gwledig'

Dywedodd yr AS Ceidwadol, Andrew RT Davies, fod y rheol pum milltir yn "fympwyol" a galwodd am iddi gael ei newid, a dywedodd un arall - Darren Millar - bod y rheol pum milltir yn greulon.

Er ei fod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu i pobl o wahanol gartrefi gwrdd, ychwanegodd Mr RT Davies: "Nid yw pawb yng Nghymru yn byw mewn tref neu ddinas sy'n agos at deulu a ffrindiau a bydd hyn yn cael effaith annheg ar y rhai yn ein cymunedau gwledig."

Wrth ymateb i hynny, dywedodd Mr Drakeford: "Y peth sy'n greulon yw'r feirws. Mae'r feirws yn achosi marwolaethau, a dyna pam yr ydym yn gweithredu fel ydyn ni yma yng Nghymru.

"Dyw hwn ddim yn wahoddiad i ymddwyn fel tase argyfwng coronafeirws wedi gorffen... dyw e ddim.

"Dydw i ddim yn credu fod pobl Cymru am fod yn rhan o ras i godi cyfyngiadau - maen nhw am weld mesurau diogelwch yn cael eu rhoi mewn lle ac wedyn y rheolau i newid."

Ychwanegodd: "Dydyn nhw ddim am i ni brysuro i godi cyfyngiadau mewn ffordd sy'n risgio ein rhoi ni yn ôl i lle'r oedden ni ar y dechrau."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod pobl Cymru "yn gyffredinol wedi cadw'n dda at y cyfyngiadau, ac yn deall yr angen i gymryd agwedd ofalus".

Ond galwodd am gynllun cliriach ar gyfer sut y bydd cyfyngiadau'n cael eu codi. Beth sy'n hanfodol, meddai, fydd "cadernid cynllun profi ac olrhain Cymru, sydd i fod i ddechrau'r wythnos nesaf".

Gweddill y DU

Eisoes mae rhannau eraill o'r DU wedi llacio y cyfyngiadau ar gyfarfod pobl eraill.

Yn Lloegr bydd modd i grwpiau o chwech o bobl gyfarfod y tu allan o ddydd Llun nesaf ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar y traeth yn Margate, Caint ar 26 Mai

Yn Yr Alban mae pobl yn cael cyfarfod ffrindiau a theulu y tu allan o ddydd Gwener ymlaen ond rhaid i'r grŵp beidio bod yn fwy nac wyth.

Yng Ngogledd Iwerddon gall grŵp o chwech o bobl, na sy'n rhannu tŷ, gyfarfod y tu allan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais mawr ar ofal wrth godi'r cyfyngiadau.

Dywed Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) ac wedi cymryd cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.