Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dawnswraig Aloah Hawaii
Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn son am ei fordaith o gwmpas Ynysoedd Hawaii

Pan fo eirlaw Hydref yn chwyrlio ar ffenestr fy nhy, a minnau'n rhynnu yn fy nhrons, melys iawn yw dwyn i gof Ynysoedd hyfryd Hawaii, efo'u traethau euraidd ; y coed palmwydd tal yn siglo a chlician yn y Gwynt Trafnid, a'r cymylau gwlanog gwynion yn llusgo'u traed dros yr awyr las enfawr.

Ym mis Ebrill 2002 y cawsom gyfle i hwylio o gylch Ynysoedd Hawaii ar y Norwegian Star. Clampan o long 91,000 tunnell gyda pymtheg dec, ac yn cludo 2,240 o deithwyr a lle i 1,100 o griw.

Rhyw fath o westy ar nawf efo deg ty bwyta, pedwar ar ddeg bar a lolfa, theatr a sinema, pwll nofio a maes chwarae. Hyn a gyfeirir ato gan yr NCL - Norwegian Cruiseline - fel mordeithio pum seren.

Beth am sawru dipyn o'r daith efo ni?

Dydd Sul, Ebrill 14, 2002. Vancouver i Honolulu.
Rhyw chwe awr o daith yw hi o faes awyr Vancouver i Honolulu ar Ynys Oahu.

Poblogaeth Honolulu County yw tua 880,000 ac mae'n gartref i 80% o drigolion Ynysoedd Hawaii. Ar Ynys Oahu, wrth gwrs, mae Pearl Harbour, Diamond Head a thraeth enwog Waikiki.

Dal tacsi o'r maes awyr i'r doc - taith hanner awr drwy strydoedd prysur Honolulu, ac yna gweld y Norwegian Star am y tro cyntaf. Lefiathan mawr gwyn gyda chorn glas.

Yn ymwybodol o'r gwres yn barod, 88F. O mor wahanol i Alaska!

Erbyn tua un o'r gloch, mi 'roeddem ar fwrdd y llong, ac yn ymhyfrydu yn ein hystafell gyfforddus gyda'i dec preifat.

Ar ôl crwydro bwrdd y llong i arfer a'n cartref newydd, penderfynu troi i mewn tua chwech o'r gloch i ystafell fwyta Y Versailles am swper moethus.

Codi angor am wyth y nos a gadael tir yn araf deg bach i swn canu hudolus brodorion Hawaii a oedd wedi ymgynnull ar y cei i ddymuno'n dda i ni .

"Brysiwch yma eto," medda nhw. "Siwrna saff. Dewch yn ôl i'n gweld . FfarwelNorwegian
Star
."

Yng ngwres y nos, a goleuadau Honolulu yn wincian ar y gorwel, onid peth hawdd oedd dweud,

"Dewcs, tydan ni'n lwcus!"

Dydd Llun,Ebrill 15,2002.
Hilo, Hawaii

Hawaii yw'r ynys fwyaf yng nghadwyn Ynysoedd Hawaii. O ganlyniad fe'i gelwir yn Hawaii Fawr.



Porthladd HonoluluO ran maint mae hi ddwywaith mwy na'r ynysoedd eraill efo'i gilydd. Er hynny hi yw'r ieuengaf o'r ynysoedd, ac yn ôl pob golwg yn dal i dyfu; diolch i chwydiadau'r llosgfynydd Kilauea.

Mae amaethyddiaeth yn rhan helaeth o economi'r Ynys Fawr a'i blodau'n a'i chnau Macadamia yn cael eu hallforio i bob rhan o'r byd.

Yma y cynhyrchir 2.3 miliwn pwys o ffa coffi. A dyma'r unig le yn y byd lle mae 'Kona Coffi' pur yn tyfu.

Mae papayas, guavas a bananas yn tyfu yma hefyd ac yn cael eu hanfon i bob cwr o'r byd. Mae popeth i'w weld yn ffynnu yn y pridd folcanig maethlon.

Ar ochr ddwyreiniol Hawaii mae Hilo - prifddinas yr ynys a'r dref wlypaf yn yr Unol Daleithiau.

Tref fach dlos yn llechu rhwng dau fynydd: Mauna Kea a Mauna Loa. Y ddau fel ei gilydd yn fynyddoedd llosg ar un adeg.
Dyma hefyd ochr Drofannol yr ynys gyda digon o wlaw a gwres i sicrhau tyfiant toreithiog.

A dyma ardal y mynydd llosg enwog.




cysylltiadau






ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy