Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Efrog Newydd, Medi 11 'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd
Chwilio am siaradwyr Cymraeg i holi a stilio

Mai 2002

Cyfle i ebostio o'r ddalen hon

Mae tîm rhaglen fynegi barn ar y teledu yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan mewn rhifyn fydd yn cael ei recordio yn Adeilad Reuters, Times Square, Efrog Newydd ar Fehefin 12.

Hwn fydd y tro cyntaf i Pawb a'i Farn sy'n cael ei chyflwyno gan Dewi Llwyd gael ei recordio dramor - a dim ond yr eildro iddi grwydro y tu allan i Gymru.

Ac er mwyn sicrhau y bydd yna'r dewis gorau o gwestiynau i drethu panelwyr fydd yno i ateb cwestiynau ar bob math o bynciau cyfoes mae'r Βι¶ΉΤΌΕΔ yn gwahodd siaradwyr Cymraeg a fydd yn Efrog Newydd y diwrnod hwn i gymryd rhan yn y rhaglen a chynnig cwestiwn i'w drafod.

Sut i gysylltu

Gellir cysylltu a Phawb a'i Farn ar ebost yn syth o'r ddalen hon.
Neu gellir ffonio:
004429 2032 2957 o'r Unol Daleithiau
neu 029 2032 2957)

Dywedodd Dewi Llwyd, cyflwynydd y rhaglen, ei fod ef yn edrych ymlaen at weld materion gwahanol i'r arfer yn destun trafod ar Pawb a'i Farn:

"Yn ystod y gyfres, mae gwylwyr Pawb a'i Farn yn gallu bod yn weddol sicr y byddwn ni'n trafod pynciau fel amaeth, y Cynulliad, iechyd, yr iaith, addysg ac ati ond yn Efrog Newydd dwi'n ffyddiog y bydd yna bynciau trafod eitha gwahanol - ac mi fydd golwg Cymry America ar rai pynciau sy'n gyfarwydd i ni hefyd yn dra gwahanol," meddai



Medi 11Ymhlith y pynciau y mae o'n eu rhagweld y mae agwedd Americaniaid at y rhyfel yn erbyn terfysgaeth a thrychineb Medi 11.

Er mai dyma ymweliad cyntaf Pawb a'i Farn ag Efrog Newydd dydi'r ddinas ddim yn gwbl ddieithr i Dewi.

"Dros y blynyddoedd dwi wedi ymweld droeon ag Efrog Newydd. Gan amla'n gwibio yno am ddiwrnod neu ddau ar drywydd ambell stori fawr ryngwladol.

Amser i drafod

"Y tro yma mi fydd hi'n eitha braf cael treulio mwy o amser ymhlith rhai o Gymry'r ddinas a thrafod eu hagwedd nhw at y rhyfel yn erbyn terfysgaeth, er enghraifft, a thrychineb Medi 11, yr Arlywydd Bush, llwyddiant crefydd yn America, gwersi economaidd ar gyfer Ewrop, yn ogystal â'u teimladau ynglyn â Chymru a Chymreictod," meddai.

"Dim ond ers dwy neu dair blynedd y mae rhai ohonyn nhw wedi bod draw yn Efrog Newydd ond mae eraill yno ers deugain mlynedd ac rwy'n hyderus y bydd yna gryn wahaniaethau barn.

"Mae rhai fydd yn y gynulleidfa wedi dweud yn barod eu bod nhw'n hynod falch ein bod ni'n mynd draw yno. Dwi'n mawr obeithio y bydd rhaglen ychydig yn wahanol yn apelio hefyd at gynulleidfa arferol Pawb a'i Farn yn ôl yng Nghymru."

Blwyddyn mor ddyrys

Dywedodd Dewi mai dim ond unwaith o'r blaen y mae Pawb a'i Farn wedi bod y tu allan i Gymru - yn Llundain rhyw ddwy flynedd yn ôl.

"Gan iddi fod yn flwyddyn mor ddyrys yn Efrog Newydd, mi gawson ni'r syniad o ddarlledu un o'r rhaglenni eleni o'r fan honno.

"Mi fydd y gynulleidfa gryn dipyn yn llai nag arfer wrth gwrs - rhyw wyth deg fydd yna bob nos Wener fel arfer ond y tro yma rydym ni'n disgwyl rhyw bump ar hugain.

Os ydych chi am fod yn un ohonyn nhw, ebostiwch yn awr.





ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy