Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Kate Ar yr hewl yn America

Cyrraedd adref -a hiraethu am yr Unol Daleithiau

Dydd Mercher, Tachwedd 25, 2001

Treuliodd Kate Jones o Grughywel gyfnod yn America yn gweithio mewn gwersyll i blant. Dyma'r olaf o'i herthyglau yn son am y profiad hwnnw

Mynd am Dro

"I have just returned from Boston, it is the only sane thing to do if you find yourself up there."
Fred Allen (1894-1957) Digrifwr ar Radio America



Y ddinas fawr dda
Ar ddiwedd yr haf dyma pawb o'r gwersyll yn gwasgaru a theithiais innau i lawr i Boston - sy'n ddinas wych - i aros am bythefnos cyn teithio o gwmpas taleithiau New England.

Am fod llawer o'r genod yn dod o Boston a'r cyrion roedd hi'n bosib gwersylla am ddim yng gardd sawl un.



Boston o'r môrCheers!
Roedd yn rhaid gwneud y pethau twristaidd fel ymweld a Harvard, wrth reswm ac mi es i ar daith i weld morfilod yn yr Atlantig - uchelgais arall wedi'i chyflawni yr haf 'ma, ond un yr hoffwn i hail-wneud yn y dyfodol am gyfnod hirach ac heb domen o bobl ddi-glem ar yr un cwch.

Do, wrth gwrs, mi gefais i gwrw yn Cheers, neu'r bar bendigedig sy'n seiliedig ar y gyfres. Cefais fy mlas cyntaf o gwrw enwog Boston - sy'n andros o neis - o'r enw Samuel Adams.

Mi fuaswn i wedi bod ofn teithio o gwmpas yr Unol Daleithiau ar fy mhen fy hun bach cyn yr haf ond erbyn y diwedd roeddwn i'n deall y wlad yn llawer gwell ac yn gwybod y llefydd i'w hosgoi.

Mae 'na rywbeth reit braf mewn crwydro o gwmpas dinas anghyfarwydd a gwylio pobl. Yn sicr ceir argraff llawer gwell o naws y lle a'r brodorion.

Mi fum yn morio
Ar ôl llogi car aeth ffrind a fi i lawr i Cape Cod a dal llong draw i Martha's Vineyard.

Yn Edgartown, tre fach ar ochr ddwyreiniol yr ynys, y gwnaethon nhw ffilmio Jaws.

Mae'r ynys yn enwog am fod yn lle gwyliau i bobl gyfoethog, er enghraifft, y Kennedys ac y mae'r traethau gorau i gyd yn breifat a'r trefi yn llawn twristiaid, fel ninnau, oedd newydd ddod oddi ar y llong.

Llogi beic, yn bendant, yw'r ffordd orau o weld yr ynys a dianc rhag y lluoedd.

Carry on Camping
Gwersylla yn fy mhabell oedd yr unig ateb ar ôl cost y car. Mae parciau cenedlaethol ym mhob talaith a'r rheini'n cynnig llety rhad a chyfleus.

Mae lle am un noson yn costio tua $12 (£8).

Roeddwn i'n arfer casáu gwersylla ar ôl llawer gormod o brofiadau erchyll mewn cae ar benrhyn Gwyr ac wedyn bob Steddfod.

I sawl un mae gwersylla'n gysylltiedig â glaw a stormydd ond does dim rhaid iddi fod felly.

Yn y parciau cenedlaethol maen nhw yng nghanol coed trwchus, nid ar gae sy'n debycach i gors. Mae lle tân ac mae'r cymdogion agosaf, os medrwch chi eu gweld drwy'r coed, tua ganner canllath i ffwrdd.

Chwaraeon
Bu cyfle i weld gêm pêl-droed Americanaidd (NFL), gyda'r New England Patriots yn chwarae yn erbyn y Washington Redskins.
Mae mynd i weld gêm yn fwy o beth i Americaniaid sy'n llwytho pob dim bosib i dryc neu RV (carafan lonydd ar olwynion) ac yn y meysydd parcio mae pawb yn paratoi barbeciws ac yn cael hwyl.

Mae cysylltiad mor gryf rhwng barbeciws a'r NFL fel bod un o sylwebwyr enwocaf y gêm yn farbeciwiwr o fri ac wedi sgwennu sawl llyfr ar y pwnc.

Mae pawb yn gwylio'r run-up i'r gêm ar y teledu wrth fwyta stêcs anferth. Mae'r set patio allan yn ogystal â - choeliwch chi byth - ffrijys trydan llawn cwrw!

Dyma beth yw gwlad waraidd!

Gwlad hufen iâ
Vermont oedd nesaf ar y daith a gweld y Mynyddoedd Gwyrddion. Dyma i chi dalaith hardd yn llawn glesni; yn wledig ac yn amaethyddol gyda ffermydd a chaeau yn llawn gwartheg du a gwyn.

Trueni fy mod i'n rhy gynnar yn y flwyddyn i weld lliwiau caleidosgopaidd dail yn yr hydref.

O'r dalaith hon y daw'r cwmni hufen iâ adnabyddus, Ben and Jerry's, sy bron yn gyfystyr a chael popgorn pan aiff rhywun i'r sinema y dyddiau 'ma.

Gyrrais dros Afon Connecticut i New Hampshire eto ac ymweld a Hanover; tref coleg Ivy League, Dartmouth, a chyn gartref Bill Bryson.

Roedd eisiau dringo rhagor o fynyddoedd yn y dalaith cyn dychwelyd y car i Boston felly, yn anffodus, dyna ddiwedd ar y road trip am eleni.

Tua thre
Roedd fy nhocyn ar awyren wedi'i archebu a dim pres ar ôl gen i - felly doedd dim amdani ond dal bws i Efrog Newydd a chrwydro o gwmpas Manhattan am sbelen.

Hedfanais o JFK yn ôl i Brydain rhyw dridiau cyn digwyddiadau ofnadwy yr unfed ar ddeg o Fedi.

Ar ôl treulio ychydig o amser yn Normandi rwyf yn awr yn ôl yng Nghymru ac yn colli'r Unol Daleithiau - a'r haf yn fwy na dim.

Rwy'n colli bod y tu allan am ddeunaw awr y dydd, nofio yn y llyn - yn enwedig yn y nos.

Siarad o amgylch tân ac arogleuo mwg yn fy ngwallt ac ar fy nillad, syllu ar y sêr - a gweld seren wib bob nos - a gyrru ar y dde.

Rwy'n colli'n anferthol gwmni'r plant a'm ffrindiau; y cymeriadau diri a'u hegni.




ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy