Βι¶ΉΤΌΕΔ


Explore the Βι¶ΉΤΌΕΔ

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Βι¶ΉΤΌΕΔ Βι¶ΉΤΌΕΔpage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r MΓ΄r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America
Dydd Sadwrn, Hydref 14, 2000

Yr wythnos hon maen nhw'n dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig yn yr Unol daleithiau.
Mae Ioan Mai, o Lithfaen, Pen-llyn, yn un o fridwyr llwyddiannus y brid ac yn arbenigwr ar hanes

Y ci bach doeth a ffyddlon

"Unwaith y byddwch yn cyfarfod â'r ci bychan gyda'r bersonoliaeth fawr ar dudalennau llyfr, wnaiff dim y tro nes y byddwch wedi'i gyfarfod wyneb yn wyneb, galon wrth galon. Wedyn fe ddewch i wybod pam fod y Daeargi Cymreig yn arwain y ffordd'."

Mae'r Americaniaid yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig i'w gwlad yr wythnos hon. A daw'r geiriau hyn o'r llyfr The Welsh Terrier Leads The Way, cyfrol gan Bardi Mclennan a sgrifennwyd fel rhan o'r dathliadau.

Nid yw hi'n son am gampau'r ci yr ochr hon i'r Iwerydd. Digon dweud iddo fod yn bencampwr yr holl fridiau yn Crufts, sioe gwn fwya'r byd, ddwywaith yn ystod y degawd dwetha.

Ymysg yr enwogion a fu'n berchen y ci Cymreig, meddai McLennan, yr oedd yr Iarll Clement Attlee.

Yn wir, newidiodd ef y Llew a'r Ungorn ar ei arfbais am luniau o ddau ddaeargi! Ychwanegodd hefyd y geiriau Lladin Labor omnia vincit (gwaith sy drech na phopeth).

Mae'n ffaith, hefyd, i'r Iarll fynd ati i fridio'r cwn, ond wnaeth o erioed werthu yr un ohonynt.

A be feddyliech chi yw logo'r Americanwyr?
Taffy was a Welshman, Taffy stole my heart not beef gan ychwanegu'r geiriau Lladin, Sapiens Fidelis - doeth a ffyddlon.

Gwir y geiriau. Felly y bu'r cwn hyn yn y ty acw ers dyddiau fy mhlentyndod a fy mraint i fu cael cydnabod disgynyddion y bridwyr a roes fod i'r cwn cyntaf i ymddangos fel cwn sioe yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

I Bwllheli y daeth y Bargyfreithiwr Walter Glyn, tra ar ei wyliau ym Mrynhir, Cricieth, yn lle ymuno â busnes llongau ei dad yn Lerpwl.

Ei ferch, Janet Hazell, fyddai'n son wrthyf am y troeon hyn yn ystod ei hymweliadau blynyddol â Chricieth. Chwith fu ei cholli ddwy flynedd yn ôl.

Wedi ei stwffio mewn amgueddfa

Diau na fyddai y Daeargi Cymreig yn bod fel ci sioe onibai am ei thad. English Black and Tan Terrier oedd ei enw cyn i Walter Glyn fynd i'r afael â'r Kennel Club yn Llundain, a phrynu ci bach ym Mhwllheli a'i enwi yn Dim Saesonaeg.

Os byth yr ewch i'r Amgueddfa Brydeinig yn Tring fe'i gwelwch wedi'i stwffio ar silff, a golwg digon hiraethus arno.

Mae Bardi McLennan yn cydnabod mai Walter Glyn oedd cymwynaswr pennaf y Daeargi Cymreig, fel hanesydd o Goleg y Drindod Caergrawnt, Rhydychen, beirniad, awdur erthyglau a llysgennad mwyaf y brîd.

Cerdded i'r Ty Gwyn

Tybed beth fuasai'r arloeswyr yn ei feddwl o Charlie - y Daeargi a gerddodd i Dy Gwyn yr Unol Daleithau?

Yn y chwe-degau, â'r Arlywydd Kennedy yn diodda anhwylder i'w gefn, trefnodd y meddyg iddo fynd i nofio'n gyson.

Charlie oedd ei bartner cyson yn y pwll nofio.


Gwelodd merch yr Arlywydd, Caroline, yn dda roi llun Charlie ar ddalen flaen cylchgrawn merched.

Eto yn y llyfr, First Dogs - American Presidents And Their Best Friends, y fo, Charlie, y Daeargi Cymreig, yn dorgoch, yn ei wasgod oedd ar yr wyneb ddalen.





ewrop

Unol Daleithiau America
Barddoniaeth mewn maen a phren

Gŵyl Dewi 2007
Taffia Chicago


Profiad Cymro ym
Marathon Boston


Ceisio cerflun i Madog

Dysgu Cymraeg ym
mro John Wayne!


Dathlu yng Nghwm Jones!.

Aloah Hawaii

Hawaii: Rhywbeth i bawb yn Kauai

Cwyn Cymry Arizona am y Wall Street Journal

Cofio Goronwy ymhell o gartref

Etholiad America

Lobsgows etholiadau'r Unol Daleithau

Dysgu Cymraeg yng nghefn gwlad Efrog Newydd

Cymraes yn Chicago

Dosbarth Cymraeg Pittsburgh

Cyfarchion o Siapan, Dubai a'r America

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Ci'r Cymry fu'n nofio gydag Arlywydd America

Cymdeithas Gymraeg yn yr Unol Daleithiau

Côr sy'n uno cyfandir

Neges Gŵyl Dewi Bush!

'Pawb a'i Farn' yn Efrog Newydd

Cynghrair Gymraeg Arizona

Ymlacio a dysgu termau newydd

Ar yr hewl yn America

Ymgartrefu mewn ardal gyfeillgar

Etholiad Arlywyddol 2004

Dilyn yr etholiad

Cyhoeddi buddugoliaeth

Galwadau ffôn wrth y miloedd

Dilyn yr etholiad - 3

Dilyn yr etholiad arlywyddol

Aled Edwards yn yr America




About the Βι¶ΉΤΌΕΔ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy