Â鶹ԼÅÄ

Y Jonesus: Enos, Jane, Jenkin, Mary a John (Rhes gefn) ac Ellen, Anna, Margaret a Thomas rhes flaen. Diolch i Janny Strickland am y llun.

Jones yn Nhalaith Wisconsin

Robert Humphries yn sôn am aduniad teuluol yng nghefn gwlad Wisconsin.

Ar benwythnos braf mis Gorffennaf 2005 bu pererindod yng nghefn gwlad talaith Wisconsin.

Daeth tua 200 o bobl o bob cornel o'r Unol Daleithiau a Chanada i Spring Green ar gyfer aduniad teulu Lloyd-Jones.

Go brin bod angen imi ddweud bod gwaed Cymreig ganddyn nhw - ac un o'r teulu ydy fy ngwraig, Jenafer, sy'n briod a mi, bachgen o Gasnewydd.

Rydym wedi sefydlu ein cartref yn Spring Green ac ychwanegu aelod newydd i'r teulu: ein merch, Rhiannon.

Ond nid yw'r teulu Lloyd-Jones yn deulu cyffredin. Er mai Frank Lloyd Wright, pensaer Americanaidd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, yw'r aelod enwocaf mae eraill o'r teulu wedi ennill eu lle yn hanes America hefyd.

Anrhydeddu yr hynafiaid

Bob pum mlynedd, mae cannoedd o ddisgynyddion yr arloeswyr gwreiddiol yn dod i'r "Cwm" i anrhydeddu eu hynafiaid a gladdwyd ym mynwent Unity Chapel - hen gapel y teulu.

Mae'r cefndryd yn dathlu gyda cherdd, sgwrs a digon o fwyd ac eleni cafodd y teulu a'i ffrindiau eu diddanu gan grŵp The Cambrian Singers o Madison a'r canwr Bruce Bradley, Cymro arall sy'n byw yn Spring Green.

Canwyd nid yn unig yr hen ffefrynnau ond rhai caneuon nad oedd neb yma wedi eu clywed o'r blaen!

Mae anrhydeddu'r hynafiaid yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i deulu'r Lloyd-Jones ac hefyd groesawu'r plant newydd ac eraill sy wedi ymuno â'r teulu ers yr aduniad blaenorol.

Cyrhaeddodd yr aduniad ei anterth mewn gwasanaeth Undodaidd mewn pabell y tu allan i Unity Chapel gan fod y capel ei hun rhy fychan i gynnwys yr holl deulu.

Hanes teulu

Mudodd Richard a Mallie Lloyd-Jones o Rydowen ger Llandysul, i'r America, yn 1844.

Yn Undodwyr yng nghanol y "Smotyn Du," gadawodd Richard a Mallie fywyd caled o dlodi a therfysgoedd Beca.

I ddangos penderfyniad ei deulu, mabwysiadodd Richard yr arwyddair, "Y gwir yn erbyn y Byd" o weithiau Iolo Morganwg.

Wrth gwrs, ni fu bywyd yn America yn hawdd. Sefydlodd y teulu ei dyddyn cyntaf yn Ixonia, yn anialwch Wisconsin lle'r oedd Jenkin, brawd Richard, yn byw eisoes.

Ar ôl marwolaeth Jenkin ac anghytundeb gydag Undodwyr eraill yn y gymuned, symudodd y Lloyd-Joneses i'r gorllewin.

Yn y 1860au, cartrefodd Richard a Mallie a'u deg o blant - Thomas, John, Margaret, Mary, Anna, Jenkin, Ellen, Jane, James ac Enos - mewn cwm ger Spring Green.

Heddiw, mae eu disgynyddion yn galw'r lle yn serchog, "The Valley."

I bobl eraill yr ardal, aeth y cwm yn "The Valley of the God-Almighty Joneses!."

Rhyfel cartref

Roedd y bywydau'r genhedlaeth hon yn hollol nodedig. Gwasanaethodd Jenkin ym Myddin yr Undeb yn ystod y Rhyfel Cartref ac wedyn daeth yn weinidog Undodaidd enwog iawn yn Chicago.

Ar ôl ei brofiad milwrol, trodd Jenkin yn heddychwr ac roedd ei safiad yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn un dadleuol.

Heddiw, mae Undodwyr yr UDA yn ei gofio fel un o arweinyddion pwysicaf yr enwad.

Ysgol breswyl

Sefydlodd Jane ac Ellen ysgol breswyl yn y cwm; Hillside Â鶹ԼÅÄ School, a ddaeth yn enwog drwy'r wlad am flaengaredd ei chwrs addysg.

Credai'r chwiorydd yn athroniaeth "dysgu drwy wneud," a dysgwyd sgiliau ymarferol i'r bechgyn a'r merched mewn pynciau traddodiadol.

Gweithredwyd yr ysgol gan y chwiorydd o 1887 hyd 1917.

Yr enwocaf

Wrth gwrs, y Lloyd-Jones enwocaf ydy Frank Lloyd Wright, mab Anna.

Daeth yn bensaer pwysicaf yr ugeinfed ganrif yn yr America.

Does gen i ddim digon o le yma i drafod ei holl fywyd ond mae'n werth dweud i'w fodrybedd a'i ewyrthod fod yn ddylanwad mawr arno.

Rwyf i wedi cael fy nghroesawu'n gynnes i'r teulu fel - a'r tafod yn y foch - "chosen one".

Ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wrth fy modd i bod yn rhan o fywyd y teulu hynod hwn.

Fel bob Cymro sy'n byw dramor, rwy'n dioddef o hiraeth am Gymru ond bum yn ffodus iawn i ddarganfod cariad fy mywyd a'i theulu.

Teulu Americanaidd sy'n falch iawn o'i wreiddiau Cymreig.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.