Â鶹ԼÅÄ

Engrafiad o William Penn yn arwyddo cytundeb Pennsylvania gyda'r boblogaeth frodorol © Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

Y Crynwyr yng Ngogledd America (2)

Pam America?

Ystyriwyd America gan nifer fel y 'Wlad Sanctaidd', gwlad rhyddid crefyddol a chyfleon gwych. Yn aml ystyrir William Penn (1644-1718) fel sefydlwr trefedigaethau'r Crynwyr yn America. Teithiodd yno yn 1681 er mwyn adeiladu Barwniaeth Gymreig, a oedd i fod yn drefedigaeth i'r Crynwyr lle roedd pobl yn byw yn ôl rheolau'r Crynwyr, yn siarad Cymraeg ac, yn gyffredinol, yn byw fel y bydden nhw wedi hoffi ei wneud yng Nghymru petaen nhw wedi cael rhwydd hynt i wneud hynny.

Engrafiad o William Penn
William Penn © Llyfrgell
Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

Roedd prosiect y Crynwyr yn cynnwys dealltwriaeth llafar gyda William Penn a Chymdeithas y Cyfeillion bod 40,000 erw o dir yn y rhan de-orllewinol o'r hyn y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel Pennsylvania (mae rhai ffynonellau yn dweud 30,000) i'w neilltuo fel y Farwniaeth hon. Yn anffodus chafodd y cytundeb hwn 'mo'i roi ar bapur ac yn ddiweddarach fe drôdd yn ffynhonnell dadl chwyrn rhwng Penn a'r Crynwyr Cymreig. Er gwaetha'r chwerwder hwn datblygodd Pennsylvania yn atyniad i Grynwyr a chrefyddau anghydffurfiol eraill e.e. y Bedyddwyr.

Mae nifer o fythau sy'n bodoli ers amser maith yn ymwneud â chysylltiadau rhwng America a Chymru. Un stori a gafodd ei hadfywio yn y 1790au oedd stori'r Madogiad; hanes y tywysog Cymreig, Madog, a ddarganfu America yn 1170, ac a fu'n byw ynghanol, a phriodi i mewn i, dylwyth yr Indiaid brodorol. Mae'r chwedl yn canolbwyntio ar lwyth o Indiaid croen olau oedd yn medru'r Gymraeg, - llwyth roedd llawer o bobl yn dymuno'u darganfod.

Roedd Morgan John Rhys, Crynwr o Forgannwg, a sefydlodd Beulah, yn credu'r stori hon ac fe roddodd gyhoeddusrwydd i'w obeithion y byddai Cymry'n dod i America, o dan ei nawdd ef, i bregethu ac i drawsnewid mwy o lwythi Indiaidd.

A yw Pennsylvania wedi ei enwi ar ôl William Penn? 'Pen' yw'r gair Cymraeg am 'goetiroedd uchel neu ar benrhyn'. Mae Penn yn hawlio, mewn llythyr i Robert Turner, ei fod wedi bwriadu ei alw'n Gymru Newydd ond roedd yr ysgrifennydd, a oedd yn Gymro, yn gwrthwynebu. Felly fe ddaeth yn Pennsylvania, yn golygu pen neu fryn. Y pwynt diddorol am y stori hon yw bod 'pen' yn y Gymraeg wedi ei sillafu ag un n, ond bod dwy n yng nghyfenw Penn, fel yn yr enw newydd am y sir.

Fe ddaethon nhw o Lanbrynmair

"O'r bobl gafodd eu geni yn Llanbrynmair yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, erbyn hyn mae mwy ohonyn nhw'n byw yn America nag yn Llanbrynmair"

Y Parch Samuel Roberts, oedd yn byw yn America, a ddywedodd hyn yn 1857, 50 mlynedd ar ôl i'r fintai gyntaf o ymfudwyr Cymreig cyntaf adael Llanbrynmair. Roedd y grŵp yn cynnwys Ezekiel Hughes ac Edward Bebb, George a Jane Roberts a chyfeillion a theulu o Lanbrynmair.

Roedd effaith eu hymfudo ar Lanbrynmair yn ddramatig. Er bod y nifer o ymfudwyr yn gymharol isel, dim ond bychan iawn oedd poblogaeth Cymru, felly roedd unrhyw golled yn y niferoedd yn cael ei cryn effaith; cyn y 18ed Ganrif roedd poblogaeth y wlad mor isel â 0.5 miliwn. Roedd ymfudiad y Crynwyr o Ganolbarth Cymru mor drylwyr a dramatig nes bod y sect, fwy neu lai, wedi diflannu erbyn canol y 19eg Ganrif.

Yn y dechrau

Cysylltodd yr arloeswyr dewr â Morgan John Rhys. Roedd y gŵr hwn yn mynd i gael rhan bwysig yn nyfodol y mewnfudwyr. Roedd wedi cyrraedd ym 1794 ac fe fu'n teithio o gwmpas y Weriniaeth yn ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth cyn canolbwyntio'i ymdrechion ar greu tref ddelfrydol, Beulah. Ei weledigaeth oedd sefydlu tref i gartrefu'r holl sectau anghydffurfiol, yn cynnwys Crynwyr a Bedyddwyr.

Er mwyn ceisio gwireddu hyn fe sefydlodd y cwmni Cambrian a phrynodd 17,400 erw o dir, 250 milltir i'r gorllewin o Philadelphia oddi wrth y Dr. Benjamin Rush am £9,450. Roedd y tir hwn mewn lle da, rhwng yr afonydd Blacklick a Connemaugh, ac, yn ddamcaniaethol, fe ddylai fod wedi darparu lleoliad delfrydol ar gyfer yr ymsefydlwyr.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.