Enwau Lleoedd Cymreig
Gethin Matthews yn cael ei atgoffa o Gymru ym mhen draw'r byd.
Wrth ymweld â'r Awstralia gyfoes mae'n rhaid chwilio'n ofalus iawn i ddod o hyd i olion o'r Cymry a gynorthwyodd i sefydlu'r wlad.
Ond wrth edrych yn ofalus mae'r Cymry wedi gadael eu hôl ar ddiwylliant Awstralia, ac ar fap cyfoes y wlad.
Roedd tudalen flaen y Sydney Morning Herald yn ddiweddar yn addo "Full Eisteddfod Results" yn yr atodiad, am gystadlaethau lleol yn y celfyddydau.
Er bod iaith yr eisteddfodau cyfoes yn wahanol i iaith y cystadlaethau a sefydlwyd yn Oes Victoria, mae'r rhinweddau yn ddigon tebyg.
Ond gofynnwch i Awstraliaid beth yw tarddiad y gair 'eisteddfod' ac maent yn anymwybodol o'r cysylltiad â Chymru.
Enwau lleoedd
Ffordd arall amlwg y mae'r Cymry wedi gadael eu hôl ar y wlad yw trwy enwau rhai lleoedd.
Serch hynny, does dim ffordd amlwg, gyda llaw, o egluro pam y rhoddodd Capten Cook yr enw "New Wales" neu "New South Wales" ar arfordir dwyreiniol y wlad, pan nad oedd unrhyw gysylltiad cryf rhyngddo â Chymru.
Mae dwy dref lewyrchus o'r enw Swansea, un ar ynys Tasmania ac un yn Ne Cymru Newydd.
Yr hynaf yw'r dref ar lannau dwyreiniol Tasmania, a sefydlwyd yn y flwyddyn 1821 gan George Meredith, Sais oedd â gwreiddiau Cymreig, yn briod â merch o Sir Benfro, lle'r oedd yn berchen ar dir cyn iddo fentro i ddechrau o'r newydd ym mhendraw'r byd.
Meredith oedd yn gyfrifol am newid enw'r porthladd bychan o Great Swanport i Swansea, ac am roi'r enw Glamorgan ar y sir leol.
Ond unwaith eto, does dim eglurhad hawdd am y dewis hwn, gan nad oedd gan Meredith gysylltiad amlwg â Morgannwg.
Wrth grwydro'r dref hardd heddiw fe welir casgliad o enwau Cymreig ar y tai: Plas Newydd, Cambria a Llanstinnan.
I fyny'r arfordir mae pentref bychan o'r enw Llandaff - er y cyfan sydd ar ôl bellach yw un tŷ a mynwent - ac i lawr yr arfordir mae pentref Pontypool.
Rhai'n garcharorion
Nid o'i wirfodd y teithiodd pob Cymro oedd yn rhan o'r sefydliad gwreiddiol ym mhendraw'r byd.
Fe glustnodwyd ugain o garcharorion i gynorthwyo Meredith gyda'r gwaith o wladychu'r tir ac yr oedd gan bedwar ohonynt enwau Cymreig.
Hanes diweddarach sydd i Swansea, NSW, tref sydd ar yr arfordir rhyw awr a hanner i'r gogledd o Sydney.
Newidiwyd yr enw o 'Pelican Flats' ym 1887, ar gais dyn busnes lleol o'r enw Robert Talbot.
Dywed yr hanes swyddogol iddo ef weld tebygrwydd rhwng y tir fan hyn a lleoliad Abertawe - ond mewn gwirionedd dyw'r honiad yma ddim yn taro deuddeg.
Mae Swansea NSW ar benrhyn isel, rhwng y Môr Tawel a Llyn Macquarie, a does dim byd tebyg yno i'r bryniau sy'n codi'n serth o Fae Abertawe.
Trefi eraill
O fewn ychydig filltiroedd i Swansea mae mwy o drefi a chanddynt enwau Cymreig, a fan hyn mae'r cysylltiad â De Cymru yn amlycach.
Trefi glofaol oedd Cardiff, Aberdare a Neath, NSW, ac wrth edrych ar hanesion cynnar y glowyr mae enwau Cymreig yn ddigon amlwg.
Mae'r arwydd sy'n croesawu rhywun i Neath yn datgan ei fod "a tidy town", sy'n gwneud i rywun o Dde Cymru deimlo'n gartrefol iawn!
Ac yn y gwesty lleol, yn hongian ar y wal wrth ochr crys y tîm lleol (rygbi'r gynghrair) mae crys tîm rygbi Castell-nedd.
Tybed a yw hyn yn arwydd fod rhai o drigolion Neath heddiw yn falch o'u perthynas â'r chwaer dref nôl yn yr hen wlad?