Â鶹ԼÅÄ

Moslemiaid yn Tiger Bay 1942

Byw yn Tiger Bay

23 Mawrth 2010

Wedi ei eni a'i fagu ym Mae Teigr, Caerdydd, gyda dau daid o Farbados, mae'r awdur a'r hanesydd Neil Sinclair yn disgrifio sut y daeth yr ardal hon o ddociau Caerdydd yn gartref i gymuned amlddiwylliant cyntaf ac enwocaf Cymru gyda thros 57 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, i'w clywed ar ei strydoedd:

Tua 1811, pentref bach oedd Caerdydd ger Caerffili gyda llai na dwy fil o bobl yn byw ynddo. Heb y meysydd glo yn y cymoedd, ni fyddai fyth wedi bod porth diwydiannol yng Nghaerdydd. Ond yn y 1830au cynnar, fe benderfynodd Ardalydd Bute, John Crichton Suart, adeiladu dociau mawr yno.

Ar ôl y Gwyddelod, y bobl gyntaf i gyrraedd a setlo yma oedd morwyr Tsieineaidd. Yn fuan, fe gyrhaeddodd pobl o bedwar ban byd ar eu holau. Mewn gwirionedd, fe allech chi weld y byd cyfan o fewn un filltir sgwâr yn yr hen Fae Teigr.

Neil Sinclair
Roedd nain Neil Sinclair yn un o siaradwyr Cymraeg Bae Teigr

Ar droad yr Ugeinfed Ganrif, roedd llawer o bobl yn ein cymuned ni yn siarad mwy na 57 iaith wahanol ar ein strydoedd, gan gynnwys pobl oedd yn siarad Cymraeg. Un ohonyn nhw oedd Helen Margaret Lewis, mam fy nhad er enghraifft. A bu farw Blodwen Glascoe, y siaradwraig olaf o Sgwâr Loudoun, fwy na deng mlynedd yn ôl.

Ar gyfer Cymry Cymraeg yn wir, roedd pedair eglwys yn yr ardal. Fe gafodd y Parchedig Maxwell Evans ei eni yn Sgwâr Loudoun hefyd ar ôl dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd a'i deulu yn aelod o gapel yn y sgwâr o'r enw Bethania. Fe ddywedodd e wrtha i nad oedd e'n siarad Saesneg o gwbl tra'i fod e'n byw yn y Sgwâr tan oedd e'n un ar ddeg oed! Mae'n debyg bod bobl wedi anghofio'r hanes 'ma. Yn anffodus, bu farw'r iaith gyda'i phobl fel y gwnaeth llawer o ieithoedd eraill. Dim ond Saesneg, Arabeg a Somalieg sy'n dal i gael eu siarad ar y strydoedd heddiw.

Terfysgoedd

Wrth gwrs, yr adeg honno doedd dim croeso cynnes ymhobman yn y pentref i fewnfudwyr bob amser. Pan geisiodd y Tsieineaid symud o Fae Teigr i fyw y tu allan er enghraifft, cafwyd gwrthwynebiadau mawr ac yn 1911 fe gafodd y Tsieineaid eu gyrru o'u cartrefi yn ystod y terfysgoedd yn eu erbyn a'u gorfodi nôl i Fae Teigr ble roedden nhw'n byw ar hyd Stryd Bute yn y 1950au.

Sam On Yen, ty bwyta enwog Mr Wing ar Stryd Bute oedd y tÅ· bwyta Tsieineaidd cyntaf yng Nghymru!

Yn anffodus, fe ddigwyddodd yr un peth hefyd yn erbyn pobl Affro-Caribïaidd, Affricanaidd, Affro-Celtaidd a phobl croenddu eraill. Fe ymosododd mil o ddynion gwyn ar gartref rhieni fy fam yn Grangetown yn ystod y terfysg hiliol 1919. Dyna pam y prynodd ei thad dŷ bychan iddi ym Mae Teigr ble amddiffynnodd y bobl i gyd eu hunain yn erbyn y terfysgwyr.

Cytgord o fewn y gymuned

Ond y tu mewn i Fae Teigr doedd y problemau hiliol 'ma ddim yn bodoli. A dweud y gwir, cymuned o forwyr a gweithwyr dociau oedd hi ond, er hynny, nid oedd yn berffaith. Fe gawson ni ein problemau ni fel unrhyw gymuned arall o weithwyr. Ond, ar y cyfan, roedd yn lle da iawn, lle ardderchog i blant gael eu magu.

Cymdeithas go iawn oedd Bae Teigr o bobl â chefndiroedd gwahanol oedd yn byw gyda'i gilydd. Man lle gallai pobl o bob lliw a llun fyw gyda'i gilydd mewn gytcord ethnig ac heb drafferth ethnig rhwng ei phobl wahanol - sef pobl Groegaidd, Sbaenaidd, Portiwgeaidd, Norwyaidd, Arabaidd, Indiaidd, ac ati yn ogystal â phobl Affro-Caribïaidd ac Affricanaidd yn gyffredinol.

Er bod morwyr o bedwar ban byd yn cael eu croesawu'n gynnes fan hyn, ar y llaw arall, roedd pobl uwchben y rheilffordd yng Nghaerdydd y tu allan i'r gymuned yn meddwl mai lle ofnadwy oedd e. Ond dylai pobl Caerdydd a phobl Cymru ddim anghofio bod llawer o forwyr du ac Affro-Celtaidd o Fae Teigr a'r dociau'n cael eu lladd ar eu rhan nhw yn y ddau ryfel byd!

Cyffro'r tafarndai

Flynyddoedd yn ôl, yn ogystal â'r Mosg Moslemaidd cyntaf yng Nghymru a lleoedd o addoliad eraill yn y gymuned roedd mwy na 90 o dafarndai gwahanol yn yr ardal. Roedd tafarn ar bob cornel yn y dyddiau hynny. Ond heddiw does dim un o gwbl ym Mae Teigr. I lawr y dociau dim ond dyrnaid sydd yma heddiw, felly dydy'r ardal ddim mor gyffrous ag y byddai pan oedd lleoedd fel The Adelphi, The Freemasons, The Cornish Mount a'r Westgate mewn bodolaeth, heb sôn am y clybiau nos: The North Star, The Casablanca, The Top Floor Club, The Haven, The Casino, The Colony, The Stork Club ac y blaen. Ac ar ôl yr amserau da, roedd y Bombay, tŷ^ bwyta Indiaidd Nessar Ali, y cyntaf yng Nghymru, yn lle i fynd i fwyta.

Croeso y tu allan i'r bae

Yn ne Cymru beth bynnag, roedd lleoedd eraill ble cafodd pobl ddu a phobl Affro-Celtaidd eu croesawu. Pentrefi fel Cadoxton, Dociau Barry o amglych Stryd Thompson, Newport a Gelli Ger er enghraiff.

Fe ddaeth llawer o bobl ddu i fyw ym Mae Teigr o Bort Talbot fel teulu Johhny Davis a Deara Williams, merch ddu oedd yn siarad Cymraeg. Fe anwyd preswylwraig lleol, Doris Joseph, ym Margoed yn 1904 ond fe'i magwyd yn Stryd Gellideg yn Maes-y-Cymmer ger Hengoed. Roedd ei thad yn Affrican-Americanwr o Savannah, Georgia a ddaeth i Fargoed yn 1901 i weithio yn y maes glo.

Trwy gydol ei hanes doedd byth mwy na 9 mil o bobl yn byw ym Mae Teigr a chymuned y Dociau cyn dymchweliad y 1960au. Ar gyfartaledd, dim ond 5 mil o bobl oedd yn byw yma yn yr hen ddyddiau.

Gyda llawer o forwyr yn mynd ac yn dod (llawer ohonyn nhw'n "jumped ship" er mwyn aros yma yn answyddogol), a dim cofnodion am gefndiroedd ethnig yn bodoli cyn yr 1980au, mae'n anodd amcangyfrif faint o bobl ddu oedd yn bodoli yn y gymuned ar yr pryd. Ond roedd nifer fawr o'r rhif 'na'n forwyr du a dynion o liw. Ar ben hynny, roedd y grŵp mwyaf o Affricaniaid yng Nghymru i gyd yn byw ym Mae Teigr a chymuned y Dociau yn ystod y 1920au.

Yn flaenaf oll, cymuned amlddiwylliannol gynharaf Cymru oedd Bae Teigr ble fe ges i 'ngeni. A dweud y gwir, 'dw i'n ymfalchïo fy mod wedi cael fy magu yn y lle unigryw yma. Mae'r gymuned yn hynod o groesawus ac mae'n lle rhyfeddol, yn enwedig i fewnfudwyr i Gymru.

Mae Neil Sinclair yn gydolygydd cylchgrawn Voice of the Tiger ac yn awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Tiger Bay Story; The Cardiff Bay Experience ac Endangered Tiger.


Mudo

Renato Carpanini  - llun o Amgueddfa Werin Sain Ffagan

Oriel yr Eidalwyr

Lluniau o arddangosfa Atgofion Eidalwyr yng Nghymru, Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Dysgu

Hen arian

Ar daith

Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.