Eidalwyr yng Nghymru
07 Ebrill 2010
Fel sawl cenedl arall, y chwyldro diwydiannol ddaeth ag Eidalwyr i Gymru gyntaf wrth i bobl heidio yma i weithio mewn diwydiannau trwm fel glo a dur ac yn y porthladdoedd oedd yn prysur ddatblygu yn y de.
Manteisiodd yr Eidalwyr ar y twf yn y boblogaeth gan greu busnesau a gwasanaethau ar gyfer yr holl weithwyr newydd. Aeth llawer ati i sefydlu busnesau hufen ia, siopau sglodion a chaffis.
Ymysg y teuluoedd cyntaf i gyrraedd cymoedd de Cymru a sefydlu caffi oedd y Bracchi ac wedi hynny, daeth pobl y cymoedd i alw pob caffi Eidalaidd yn 'Bracchis', mor nodweddiadol o'r cymoedd â'r capel, y pwll glo a sefydliad y glöwyr.
Ond daeth y don fwyaf i Gymru wedi'r ail ryfel byd i chwilio am ddyfodol gwell gan fod diweithdra yn uchel yn yr Eidal ac ychydig o gefnogaeth i'w gael gan y llywodraeth.
Dyma detholiad o atgofion rhai o'r Eidalwyr a ddaeth i Gymru:
Gadael
Francesco Todaro a ymfudodd i ogledd Sir Benfro o dde'r Eidal yn 1953. Cafodd waith ar fferm drwy ffrind iddo oedd wedi ei ddal gan luoedd Prydain a'i anfon fel carcharor rhyfel i wersyll yng Nghymru. Wedi dechrau torri gwalltiau yn ffatri Esso, sefydlodd fusnes torri gwallt llwyddiannus yn Aberdaugleddau.
"... wedi'r rhyfel newidiodd pethau yn gyflym iawn. Ac wrth gwrs, yn fuan wedyn y dechreuodd yr ymfudo. Ac unwaith i'r ymfudo ddechrau, fe wnaeth yr holl ffermwyr, y 'contadino' roedden ni'n arfer eu galw, adael y tir ac wrth gwrs allen nhw wneud dim byd â fe.
Cafodd ei adael i'r adar ganu a nythu ynddo oherwydd doedd neb eisiau'r tir mwyach. Doedden ni ddim yn ffermwyr mawr, ffermwyr bach oedden ni; a'r ffermwyr bach, roedd gan bob un ddarn o dir, a dyna ni. Doedd dim diwydiant, dim diwydiant o gwbl. Ac allen ni ddim byw mwyach, roedden ni eisiau bywoliaeth well ac fe fydden ni'n dweud 'pam ddylen ni aros dan y bobl yma gyda'r holl dir yma?' ac roedden nhw eisiau inni dalu cymaint o rent ac yn y blaen.
Ac felly fe adawon ni; bob yn un, dechrau'r gadwyn. Rhai i Ganada, rhai i'r wlad hon, Prydain, Cymru. Rhai i Awstralia, Ffrainc, yr Almaen. Felly fe adawodd yr amaethwyr y tir i gyd.
A phan es i nôl yno ym mil naw chwe un, roedd erwau ac erwau o dir heb ei drin, ac roedden nhw'n erfyn arnon ni: 'Ydych chi'n dod nôl?'. 'Na, dydw i ddim yn dod nôl'."
Breuddwydion
Ymfudodd Antonio Marchesi, Padria, Sardinia yn wreiddiol, yn 1952 i weithio fel trydanwr mewn pyllau glo.
"Roedd gen i gytundeb gwaith gyda'r Bwrdd Glo. Y freuddwyd oedd ... wel, mae pawb sy'n ymfudo yn gadael gyda breuddwyd, gyda chês llawn breuddwydion sydd yn anodd, iawn, iawn i'w gwireddu. Felly pan ro'n i'n gweithio fel trydanwr yn yr Eidal ro'n i wedi gwneud gwaith trydanu i byllau glo yno am dâl bach iawn. A phan welais i'r cytundeb yma ym Mhrydain oedd yn talu gymaint mwy, mi wnes i gais am y swydd o'r Eidal. 'Wir Dduw!' dywedais wrth fy ngwraig, 'Pina, mi af i yno, gweithio am ychydig flynyddoedd, dod yn ôl a dechrau busnes fy hun yma'. Ddigwyddodd mo'r freuddwyd honno! Mae'n freuddwyd na ddaeth yn wir. Breuddwydion a gobeithion. Fe wnes i aberthu lot.
"....Roedden ni wedi integreiddio'n dda i'r gymuned Brydeinig yng Nghymru. Roedd ganddon ni ffrindiau yn barod, roedden ni'n gwneud yn dda, felly doedd na ddim yr un awydd i fynd adref dim mwy. Ond am y bum, chwe mlynedd cyntaf, fe wnaethon ni grïo am ein bod ni eisiau mynd nôl. Ond roeddwn i'n gadarn: 'Na' dywedais. Am y rheswm syml fy mod wedi bod drwy amseroedd caled yn yr Eidal; a dweud y gwir roeddwn wedi profi newyn. Pan nad oes ganddoch chi swydd, does ganddoch chi ddim arian, ac mae'n rhaid ichi aros o dan bwy bynnag sy'n rheoli. A dyna pam y cefais i fy nadrithio yn yr Eidal. Pe bawn i wedi aros fe allwn i fod wedi gwneud mwy, neu wneud llai na wnes i yma. Ond dyma oedd fy ffawd ac rydw i wedi ei derbyn, dyna ni. Dyna'r peth pwysicaf nawr, yn fy henoed, yw fy mod i'n fodlon fy myd."
Y Teulu
Ganwyd Nesta Casetta-Wyer yng Nghaerdydd yn 1965 yn ferch i bensaer a ddaeth i Gymru yn 1954 a phriodi Cymraes.
"... roedd yn wahanol iawn, tyfu i fyny. Dwi wedi dweud yn aml wrth fy nhad, unwaith y gwnes i sylweddoli ein bod ni'n deulu Eidalaidd, yn fwy na theulu Cymreig, mi gefais hi'n anodd. Roedden nhw [ffrindiau] yn gallu mynd i gyngherddau ac ati ac fe gefais i fagwraeth mwy caeth, gan fy mod yn Babydd Eidalaidd ....Dydi e ddim yn rhywbeth rwy'n ei ddifaru.
Ar y pryd, mi roeddwn, oherwydd roeddwn i eisiau bod allan yn gwneud pethau fel 'sleepovers'. Ar y llaw arall, pan fyddai plant yn dod i'n tÅ· ni, naill ai am de neu i barti plant, roedd patrwm y teulu yn gwneud argraff arnyn nhw; roedden ni i gyd yn eistedd i lawr i gael bwyd, ac roedd y prydau bwyd yn rhai eitha mawr, ac roedden nhw'n eith hoffi hynny ... "
"Mae fy mam, er ei bod yn Gymraes drwyddi draw, yn fwy Eidalaidd na fydd fy nhad fyth, nag y gall geisio bod fyth. Fe aeth amdani a chofleidio'r diwylliant a'r iaith a'r bobl, ac fe syrthiodd mewn cariad yn llwyr. Byddai pobl sydd ddim yn ei hadnabod yn meddwl mai Eidales ydy hi; gyda'r prydau, yr agwedd famol, gwneud yn siŵr fod pawb yn gynnes ac wedi eu bwydo, wyddoch chi, mynnu fod y teulu bwyta gyda'i gilydd a phethau felly...".
Hufen ia
Daeth rhieni Steve Canale o ardal Lazio yn yr Eidal a sefydlu siop a busnes hufen ia yn y Rhondda lle bu Steve a'i fab Mario yn gweithio.
"Daeth fy nhad i Gwmparc yn fuan ar ôl priodi ond cefais i fy ngeni yn Abertawe. Roedd ganddo siop ac roedd yn gwerthu hufen ia. Roedd yn gwneud yr hufen ia ei hun ac roedd gan fy mam druan dân glo hen ffasiwn; roedd yn waith caled ofnadwy, berwi ugain galwyn o laeth ar yr hen dân glo. Roedd yn arfer gwneud hufen ia i fy nhad. Fe fydde fe'n mynd allan gyda'r cert llaw; fe oedd yr unig ffordd hyn â chert llaw, ac wedi hynny, fe gafodd e geffyl a chert."
Cyrraedd o Calais
Priododd Neda Renzi o Dwscani â milwr Prydeinig, Gordon Amos, yn yr Eidal yn ystod y rhyfel. Ar ôl y rhyfel, dilynodd ef i Gaerffili yn 1946.
"Unwaith roedden ni ar y cwch roedd yn llawn, llawn, llawn o filwyr, ac roedden nhw'n eistedd ymhobman. Ac unwaith i'r cwch ddechrau dechreuis deimlo'n sâl a thaflu i fyny, ac roedd gen i fabi bach. Yn ffodus roedd gwraig arall yno a dywedodd: "Rho'r babi imi", oherwydd fyddwn i ddim wedi gallu edrych ar ei ôl, roeddwn i mor sâl. Felly, o'r diwedd, fe gyrhaeddon ni'r pen arall. Fe roddon nhw ni ar drên a daethon ni i Orsaf Victoria ac aethon nhw â ni i Hostel Byddin yr Iachawdwriaeth ... Roedd hi mor oer. Mor oer dydw i ddim yn credu imi erioed fod mor oer yn fy mywyd. Ro'n i'n crynu ac fe roeson nhw ni yn y stafelloedd gwely yma, oedd mor oer. Ac fe ddechreuais roi cardigans, cardigans bach, ar y babi. Dwi'n credu imi roi pedwar neu bump o gardigans arno, oherwydd roeddwn i mor oer roeddwn i'r siŵr ei fod o'n oer hefyd!"
Cyfieithiad yw'r atgofion hyn o gasgliad a ymddangosodd mewn arddangosfa a fu ar daith drwy amgueddfeydd Cymru yn 2009-2010. Maent yn ymddangos yma drwy garedigrwydd Acli-Enaip (cangen addysgol Cymdeithas Gristnogol i Weithwyr Eidalaidd) a gasglodd yr atgofion a'r lluniau gyda chymorth arian Cronfa'r Loteri Treftadaeth.
Mwy
Cysylltiadau'r Â鶹ԼÅÄ
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Mudo
Oriel yr Eidalwyr
Lluniau o arddangosfa Atgofion Eidalwyr yng Nghymru, Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.