Â鶹ԼÅÄ

Amlwch, copr a'r byd

top
Mynydd Parys

Amlwch, Ynys Môn, oedd porthladd pwysica'r byd o ran allforio metelau i adeiladu llongau mawr yn y 1800au.

Cyn cyfnod prysur y mwyngloddio ar Fynydd Parys, pentref bach tawel yng ngogledd ddwyrain Môn oedd Amlwch.

Cafodd Lewis Morris, un o frodyr talentog Morrisiaid Môn a swyddog tollau yng Nghaergybi ar y pryd, ei gomisiynu yn 1748 i wneud cofnod o'r cilfachau oedd yn rhoi lloches i longau ar hyd arfordir Cymru. Yn ei adroddiad, disgrifia Borth Amlwch fel ychydig mwy na rhimyn o draeth rhwng dwy graig serth, nad oedd prin le i gwch droi ynddo. 'Doedd y bae, yn ei farn o, ddim yn haeddu bod ar fap o gwbl.

Amlwch yn ganolfan ddiwydiannol bwysig

Ond tyfodd Amlwch yn ganolfan ddiwydiannol bwysig fyd-eang ar ôl darganfod symiau mawr o gopr ar Fynydd Parys.

Chwarelwr lleol o'r enw Rowland Puw wnaeth y darganfyddiad, a chael potel o wisgi a bwthyn di-rent am weddill ei oes fel tâl. Ond, gwnaeth pobl eraill elw llawer brasach ar fwyngloddio ac allforio'r metel yr oedd cymaint o alw amdano ar ddechrau twf y chwyldro diwydiannol yn Ewrop.

Cynhyrchydd copr mwya'r byd

Dan arweiniad cyfreithiwr a dyn busnes lleol o'r enw Thomas Williams, a gâi ei adnabod gan y mwynwyr fel Twm Chwarae Teg, daeth pyllau mwyngloddio Amlwch yn gynhyrchydd copr mwya'r byd. Nid yn unig roedd galw mawr am y metel ar gyfer y diwydiannau newydd oedd yn codi ym mlynyddoedd cynnar y Chwyldro Diwydiannol ond roedd y cwmnïau mwyngloddio hefyd yn cynhyrchu haenau copr ar gyfer llongau 'Men of War' Nelson, yn ogystal â bathu eu harian eu hunain - Ceiniogau Amlwch.

Porth Amlwch
Porth Amlwch

Gan fod cynifer o longau yn defnyddio Amlwch fel porthladd ar y pryd, roedd lle yn brin a'r symud i mewn ac allan yn araf ac felly pasiwyd Deddf Seneddol yn 1793 i ganiatáu dyfnhau ac ehangu'r porthladd a rheoleiddio'r gwaith. Symudwyd yr ardal fusnes o'r ochr orllewinol i gei eang wedi ei dyllu o'r graig ar yr ochr ddwyreiniol, lle mae rhai o'r adeiladau yn dal i sefyll o hyd.

Pan aeth y pyllau mwynglawdd yn hesb, daeth y porthladd yn ganolfan adeiladu llongau lwyddiannus. Byddai iardiau llongau William Cox-Paynter ac, yn arbennig, Capten William Thomas, dyn lleol oedd wedi rhedeg i ffwrdd i'r môr pan oedd yn 12 mlwydd oed, yn cynhyrchu llongau oedd yn nodedig am safon uchel eu crefftwaith, eu cyflymdra a'u ceinder. Mae olion yr iardiau yma'n dal i'w gweld heddiw: y llofft hwyliau, simneai'r gweithdai a'r doc sych wedi ei gloddio allan o'r graig. Mae adeiladau eraill, fel y tŷ gwylio gyda'i oleudy bychan, biniau copr ac odyn galch, yn dal i fod yn yr un cyflwr, fwy neu lai, ag oeddent yn y 1880au.

Fodd bynnag, mae nifer o warysau, melin lifio a gâi ei rhedeg gan ddŵr a thafarn, bellach yn adfeilion.

Ffurfio Mynydd Parys

Mae Mynydd Parys yn un o ddim ond tri safle yng Nghymru lle mae tystiolaeth o fwyngloddio copr yn ystod yr Oes Efydd a Chyfnod y Rhufeiniaid. Ond mae hanes y lle yn llawer hynach ac yn dyddio nôl i'r cyfnod Ordoficaidd. Tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ffurfiwyd seiliau'r mynydd gan fwd ar wely'r môr a gymysgodd gyda mwynau metel wedi eu creu gan weithgaredd folcanig.

Y gred wyddonol ar hyn o bryd ydy mai yn ystod yr Orogeni Caledonaidd, cyfnod pan ffurfiwyd mynyddoedd tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl, y cafodd y creigiau eu plygu ac yr ail-doddwyd y mwynau a'u hail-waddodi gan greu mwyn llawer cryfach bob tro. Wrth i'r rhain gael eu torri i lawr ac i'r tywydd effeithio arnyn nhw, maent wedi troi yn lliwiau coch a brown trawiadol.

Mae'r gwastraff asidig wedi denu planhigion a chen anarferol i Fynydd Parys. Mae ystlumod wedi ymgartrefu yn y pyllau ac mae jac-y-do a brain coesgoch i'w gweld yn hedfan uwchlaw hen gloddfeydd brig. Mae'n hawdd gweld pam fod y safle wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ffilmiau ffuglen-wyddonol, gan gynnwys Dr Who.

Mae Mynydd Parys i'r de o Amlwch yng ngogledd ddwyrain Môn. (Cyfeirnod Grid SH437909

Paratowyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar gyfer gwefan Â鶹ԼÅÄ Lleol i Mi Gogledd Orllewin


Hanes lleol

Glowyr wrth eu gwaith

Glowyr y gogledd

Gwaith glo, dur a chopr gogledd ddwyrain Cymru.

Hanes teulu

dwylo - www.istockphoto.com

Hel Achau

Sut i fynd ati i olrhain eich coeden deulu?

Mudo

Capel Glan Alaw, Patagonia

Capeli, tai te a gauchos

Hanes y Cymry a ymfudodd i'r Ariannin yn 1865.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.