Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
³¢±ôê²Ô
Cofeb i Forrisiaid Môn ger Penrhosllugwy.
Lewis Morris

Ganwyd: 1701

Magwyd: Pentre-eiriannell, Môn


Un o deulu enwog o lythyrwyr, awdur a hynafiaethydd.

Yr un hynaf o'r pedwar brawd a adwaenir fel Morrisiaid Môn oedd Lewis Morris, a'r un galluocaf, mae'n debyg; galwai ei hun yn Llewelyn Ddu o Fôn hefyd. Roedd yn wladgarwr, ysgolhaig, bardd, mapiwr a hynafiaethydd.

Gyda'i frodyr, hwn oedd pen-llythyrwr llên Cymru ei gyfnod. Mae cryn fil o'u llythyrau wedi goroesi ac maent yn llawn o wybodaeth am fywyd llenyddol a diwylliannol y cyfnod, i gyd wedi eu hysgrifennu mewn Saesneg a Chymraeg cyhyrog.

Roedd y brodyr yng nghanol bwrlwm deallusol eu hoes, yn Llundain ac yn Sir Fôn, ac yn ddylanwad mawr ar eu cydoeswyr.

Ganwyd Lewis Morris ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r-beirdd a'i fagu ym Mhentre-eiriannell, Penrhosllugwy, ar ochr arall mynydd Bodafon. Gwelir plac ar wal Tyddyn Melys, man ei eni, ac un arall ar wal Pentre-eiriannell er cof am y brodyr.

Ni wyddys llawer am ei flynyddoedd cynnar ac eithrio iddo gynorthwyo'i dad a oedd yn fasnachwr ar raddfa fechan. Ond meistrolodd grefft mesur tir, ac ym 1729 fe'i penodwyd yn swyddog yn y dollfa yng Nghaergybi a Biwmares. Bu ei gysylltiad â morwyr yn sbardun iddo sylweddoli bod angen gwneud map o arfordir Cymru, ac arweiniodd hyn at ddau gyhoeddiad ym 1748, sef siart o'r arfordir o'r Gogarth hyd Aberdaugleddau, ac atlas, Plans of Harbours, Bars, Bays and Roads in St. George's Channel.

Wedi ymweld â Sir Aberteifi ym 1742, dechreuodd gymryd diddordeb yng ngweithfeydd plwm y sir. Fe'i penodwyd yn ddirprwy stiward maenorydd y Goron yng Ngheredigion ym 1746 ac felly cychwynnodd cyfnod helbulus yn ei fywyd, gan fod uchelwyr lleol megis Herbert Lloyd o Ffynnon Bedr yn herio hawl y Goron i fwyngloddio am blwm. Ymgartrefodd Lewis Morris yng Ngalltfadog, ger Capel Dewi, ac wedyn ym Mhen-bryn, Goginan, lle y bu farw ym 1765.

Breuddwyd mawr Lewis Morris oedd darparu corff o lenyddiaeth ddifyr yn Gymraeg ar gyfer pobl oedd yn troi at ddiwylliant Saesneg. Argraffodd ar ei wasg ei hun yng Nghaergybi rifyn cyntaf Tlysau yr Hen Oesoedd (1735), detholiad o ryddiaith a barddoniaeth ysgafn.

Ysgrifennodd nifer fawr o ddarnau rhyddiaith a cherddi, yn Gymraeg gan fwyaf, yn eu plith llythyrau ffansïol a dychanol yn null Jonathan Swift ac eraill. Mae rhai o'i englynion a phenillion rhydd yn amharchus iawn. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn Y Diddanwch Teuluaidd ym 1763. Ar ben hynny, rhoddodd gymorth ac anogaeth i lenorion iau megis Goronwy Owen, Ieuan Fardd ac Edward Richard.

Prif ddiddordeb arall Lewis Morris oedd hynafiaethau, yn arbennig hanes cynnar Cymru. Roedd yn selog dros amddiffyn enw da ei genedl trwy anfon gwybodaeth at haneswyr estron a thrwy lunio math o eiriadur o enwau personol ac enwau lleoedd yr oedd sôn amdanynt yn y traddodiad Cymraeg, dan y teitl Celtic Remains; cyhoeddwyd rhan ohono ym 1878 dan olygyddiaeth Daniel Silvan Evans.

Gadawodd ar ei ôl bentwr mawr o lawysgrifau a fu'n gyfrwng i ddiogelu dysg Gymraeg ar adeg pan nad oedd na llyfrgell genedlaethol na phrifysgol i wneud hynny.

Lewis Morris, yn ddi-os, oedd prif hyrwyddwr yr adfywiad clasurol mewn dysg a llên yng Nghymru yn ystod y ddeunawfed ganrif.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý