Â鶹ԼÅÄ

Y Copr Ladis

top
Mynydd Parys Amlwch

Hanes y Copr Ladis ar Fynydd Parys yng ngeiriau Mair Williams (Mair y Wern) o Laneilian, Môn.

"Nain ddywedodd hanes y Copr Ladis wrtha' i gan fod ei mam a'i nain hi wedi gweithio yn y cytiau copr. Mi benderfynais ddysgu mwy am eu hanes gan astudio cyfrifiadau y 1800au ond does na ddim llawer o sôn amdanyn nhw yno. Doedd merched ddim mor bwysig bryd hynny a'r drefn oedd eu cyfri naill ai fel gwraig neu ferch i'r penteulu.

"Roedd y Copr Ladis yn gweithio mewn cytiau hir iawn oedd wedi eu hadeiladu yn agos at lle roedd y gweithwyr yn cloddio am gopr. Byddai tua 80 o wragedd yn gweithio mewn un sied, pawb yn eistedd ar stolion bychain o flaen y bwrdd yn curo a hynny am ddeuddeg awr ar y tro. Wrth ddefnyddio carreg guro sef morthwyl bychan o haearn oedd yn pwyso tua phedwar pwys - roedden nhw'n curo darnau o'r graig yn llai ar gyfer y ffwrneisi.

Gwisg y Copr Ladi

"Byddai'r merched yn gwisgo ffedogau lledr trwm a sgarffiau cotwm patrymog smotiog am eu pennau a het jim cro meddal ar ben y cyfan. Roedd y sgarff yn gwarchod y pen rhag llwch a sŵn. Roedden nhw hefyd yn gwisgo menyg lledr tew a modrwyau metal ar bob bys i warchod eu dwylo rhag anaf. Ar eu traed redden nhw'n gwisgo clocsiau gan fod cymaint o asid yn y dŵr a'r glaw oedd yn llifo o'r mwyngloddiau fel y byddai wedi bwyta unrhyw ddefnydd arall.

"Roedd llawer yn gwneud clocsiau bryd hynny yn arbennig yn Llanerchymedd a Phensarn. Dw i'n cofio un ohonyn nhw pan oeddwn i'n hogan ifanc. Roedd dillad yn dal i gael eu dogni felly byddai'n rhaid arbed y 'coupons' a mynd â hen sgidiau eich rhieni i'w gwneud yn glocsiau. Maen nhw'n dal gen i ac ar yr un patrwm â'r clocsiau roedd y Ladis yn eu gwisgo.

"Er nad oes gen i dystiolaeth, dwi'n meddwl bod y Ladis yn canu wrth weithio gan daro'r morthwylion ar ddechrau pob bar. Fe fyddai hynny'n eu helpu i ddiodde sŵn uchel y curo oherwydd byddai taro'r morthwylion ar draws ei gilydd yn ddigon i ddrysu unrhyw un.

"Mae Owen Gruffydd wedi sgwennu llyfr gwych am y bobl oedd yn gweithio ar Fynydd Parys ger Amlwch. Mae'n sôn am un hen wraig o'r enw Phoebe Morris yn canu bas. Dydw i ddim yn siŵr os mai allan o diwn oedd hi neu os oedden nhw'n canu mewn mwy nag un llais. Mae Owen Gruffydd hefyd yn sôn am gân gan y Ladis Copr oedd â 12 pennill am fywyd ar y mynydd. Mae un pennill am fwyd - gan eu bod yn cadw ieir, roedd wyau yn rhad ac fe fydden nhw'n canu am grempogau yn nofio mewn menyn.

Bywyd caled

"Rydw i hefyd wedi ymchwilio i hanes y mwynwyr ar Fynydd Parys. Cyn i reolwyr newydd gymryd drosodd yn y 1860au, roedd y dynion yn gweithio ymhell i'w 80au gan nad oedd ffordd arall o ennill eich bara menyn. Pan benderfynodd y weinyddiaeth newydd geisio cael gwared arnyn nhw, fe ysgrifennwyd llythyrau at Ardalydd Môn, sef y perchennog, yn gofyn am bensiynau. Wrth ddarllen y llythyrau yma, fel un ar ran Huw Hughes, fe allwch amcangyfrif bod y dynion wedi dechrau gweithio yn bump a chwech oed. Mae'n rhaid eu bod wedi eu clymu ar gefnau eu tadau i weithio yn y twneli lleiaf. Neu roedden nhw'n gweithio ar yr wyneb, yn cario copr i'r siediau. Roedd yn fywyd caled i bawb oedd yn gweithio ar Fynydd Parys."

Rhannodd Mair Williams yr atgofion hyn ar gyfer erthygl ar wefan Â鶹ԼÅÄ Lleol i Mi yn wreiddiol.


Hanes lleol

Glowyr wrth eu gwaith

Glowyr y gogledd

Gwaith glo, dur a chopr gogledd ddwyrain Cymru.

Hanes teulu

dwylo - www.istockphoto.com

Hel Achau

Sut i fynd ati i olrhain eich coeden deulu?

Mudo

Capel Glan Alaw, Patagonia

Capeli, tai te a gauchos

Hanes y Cymry a ymfudodd i'r Ariannin yn 1865.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.