Â鶹ԼÅÄ

Evan Roberts

Y Diwygiad 1904 - 1905

Profodd 'gwlad y diwygiadau' ei diwygiad mwyaf wrth i fudiad Evan Roberts sgubo drwy Gymru, gan droi miloedd at air Duw.

Rhwng canol y18fed ganrif i ganol y 19eg ganrif profodd Gymru ryw bymtheg o ddiwygiadau mawr, gan greu'r ddelwedd o Gymru fel 'gwlad y diwygiadau'.

Digwyddodd y diwygiad mawr diwethaf yn ystod y cyfnod hwn oedd yn 1859, ac er bod digon o weithgaredd crefyddol yn ystod gweddill y 19eg ganrif, roedd nifer o bobl yn pendroni pryd, ac os, y buasai diwygiad mawr arall yn digwydd.

Pan ddigwyddodd y diwygiad o'r diwedd, ni chafodd y disgwyliadau eu siomi, gan mai diwygiad mwya'r wlad erioed ydoedd.

Yn ne Sir Aberteifi, mae'n debyg, yr oedd ei wreiddiau. Yno, bu nifer o gyfarfodydd gan arweinwyr crefyddol oedd yn gweithredu i gael diwygiad. Ond pan daniodd y fflam o'r diwedd, cyn-lowr o Gasllwchwr o'r enw Evan Roberts oedd canolbwynt y cyffro i gyd.

Roedd Roberts wedi dechrau astudio ar gyfer y weinidogaeth, ac yn dilyn nifer o brofiadau crefyddol yn ystod 1904, cafodd weledigaeth yn ystod cwrdd gweddi.

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yng Nghastell Newydd Emlyn, yn yr ardal o Sir Aberteifi lle gwnaed llawer o waith i baratoi'r ffordd ar gyfer diwygiad. Dywedodd Roberts: "Teimlwn ar dân dros deithio Cymru i sôn am yr Achubwr."

Yn fuan wedyn yn Hydref 1904 aeth â'r neges yn ôl i'w hen gapel, Moriah, yng Nghasllwchwr, ac yn dilyn ymateb brwd y gynulleidfa, aeth â'r neges i rannau eraill o Gymru. Roedd y Diwygiad Mawr olaf ar gychwyn.

Cynhaliwyd miloedd o gyfarfodydd yn ystod y diwygiad, o'r cymoedd deheuol i Fôn a gogledd ddwyrain Cymru.

Er mai Roberts a hawliodd y penawdau, roedd gweinidogion eraill yn weithgar hefyd. Pregethodd Roberts ei hun mewn cannoedd o gyfarfodydd, ond roedd y diwygiad yn cynnwys miloedd o gyfarfodydd dros y wlad.

Yn ystod y misoedd tymhestlog hyn cyffyrddwyd â bron pob agwedd o fywyd Cymru. Cychwynnai'r diwrnod gwaith yn y pyllau glo ac yn y gweithfeydd metal â gweddi, a bu gostyngiad yn y nifer a gefnogai ddiddordebau hamdden megis eisteddfodau, dramâu a chwaraeon.

Cefnodd nifer o chwaraewyr a chefnogwyr rygbi ar eu clybiau. Ar ôl 'derbyn yr ysbryd' teimlent nad oedd rygbi yn addas â bod yn wir Gristion. Ac wrth gwrs gwelodd y clybiau a'r tafarnau leihâd yn y nifer a yfai'r ddiod gadarn.

Cafodd y gwleidydd addawol, David Lloyd George, ei ddal yn y dwymyn hyd yn oed. Dywedodd fod y mudiad yn 'ysgwyd bywyd Cymru fel daeargryn mawr'.

Dechreuodd plant ddechrau trefnu eu cyfarfodydd crefyddol eu hunain, a bellach, cymanfaoedd canu, darllen y Beibl a dirwest yn awr oedd hoff weithgaredd pobl ar draws y wlad.

O ganlyniad, adeiladwyd llawer o gapeli newydd. Roedd gan ganu yn enwedig le amlwg, gan adleisio geiriau proffwydol y cerddor enwog Joseph Parry (cyfansoddwr y gân serch 'Myfanwy') a ddywedodd cyn ei farwolaeth yn 1903 mai "y diwygiad nesa fydd diwygiad cerddorol."

Rhan o apêl y diwygiad oedd Evan Roberts ei hun, pregethwr carismataidd a diffuant. Er ei fod yn hanu o'r traddodiad Methodistaidd Cymreig, nid oedd yn ddiwinydd, ac ni orffennodd ei hyfforddiant ar gyfer bod yn weinidog. Roedd ei neges ar gyfer holl bobl Cymru, waeth beth fo'u henwadaeth, ac roedd yn atyniadol iawn.

Byddai cyfarfodydd yn gymysgedd o weddi, ymholi a chanu, a gallent barhau am oriau. Cafodd ei symudiadau eu dilyn yn agos gan y papurau dyddiol, yn enwedig y Western Mail, ac roedd ymyriad y cyfryngau yn rhywbeth unigryw i'r diwygiad yma o'i gymharu â rhai cynharach. Datblygodd Roberts yn bersonoliaeth gyhoeddus, gyda'i lun yn ymddangos yn aml yn y papurau ac ar gardiau post. Yn nhermau heddiw gellir ei labelu fel 'David Beckham ysbrydol'.

Yn ôl un hanesydd, buasai dehongliad sinigaidd yn gallu labelu'r holl bennod fel enghraifft gynnar o bapurau newydd yn hybu seren. Yn sicr erbyn canol 1905 roedd y Diwygiad drosodd i bob pwrpas a gadawodd Roberts Gymru gan fynd i fyw yn Lloegr.

Dychwelodd yn y diwedd i Gymru gan farw yn 1951, a'i gladdu yn ei gapel, Moriah. Fe'i cyfrifir gan nifer o Gristnogion fel arweinydd carismataidd cyntaf yr 20fed Ganrif, ac ymhlith ei gynhysgaeth ceir yr Eglwys Apostolaidd, yr ysbrydolwyd ei sefydlwyr gan ddiwygiad mawr 1904 i 1905.

Yn ystod y cyfnod hwn roedd Sosialaeth yn cael ei sefydlu gyda ffurfio'r undebau llafur a chymdeithasau sosialaidd. Cafodd un o'i Aelodau Seneddol cyntaf, Keir Hardie, ei ethol yn 1900 i gynrychioli Merthyr Tydfil, ac fe fyddai'r athroniaeth newydd hon yn bygwth ac yn y pen draw yn torri'r hen gonsensws Rhyddfrydol ac Anghydffurfiol fu i bob pwrpas yn llywodraethu Cymru ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd y Gymru a ymddangosodd o ryferthwy'r Rhyfel Byd Cyntaf yn un wahanol iawn i'r wlad a brofodd danbeidrwydd yr Evan Roberts ifanc.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Beibl dot-net

Trin a thrafod

Trin a thrafod pynciau crefyddol, moesol a chymdeithasol

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.