Â鶹ԼÅÄ

Dewi Sant

Oes y Seintiau 410 AD - 1066

Er iddi gael ei gwahardd ar y cychwyn, Cristnogaeth maes o law a dderbynwyd fel crefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig. Wrth i'r ymerodraeth ym Mhrydain ddadfeilio, fe grewyd pobl 'Gymreig' y mae ei hunaniaeth wedi ei seilio'n draddodiadol ar Gristnogaeth ac ar iaith gyffredin.

Daeth Cristnogaeth i Gymru pan oedd grym y Rhufeiniaid yn ei anterth, a chafodd y grefydd newydd ei gwahardd ar y cychwyn gan yr awdurdodau oedd yn amheus o'i chyfrinachedd. Ar y dechrau, crefydd ddinesig oedd hi, a chafodd y merthyron Cristnogol cyntaf eu lladd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif yn nhre'r llengfilwyr, Caerleon.

Fodd bynnag, cafodd ei derbyn yn swyddogol yn ddigon buan wedi hynny. Y gwrthrych Cristnogol cyntaf i'w ddarganfod yng Nghymru yw llestr gyda'r hen symbol Cristnogol, y Chi-Rho, sy'n dyddio nôl i AD 375 a ddarganfuwyd yn y dre Rufeinig gyfagos Caerwent. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif Cristnogaeth oedd unig grefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig.

Gwanychu wnaeth y pŵer Rhufeinig ym Mhrydain. Erbyn AD 410 bu i'r Ymerawdwr Honorarius gynghori'r Brythoniaid i drefnu eu hamddiffynfeydd eu hunain yn erbyn bygythiad y barbariaid. Yr unig hanes o'r cyfnod hwn sy'n goroesi yw'r un a ysgrifennwyd gan yr offeiriad Sant Gildas. Ysgrifennodd Gildas am ddirywiad Prydain - dirywiad a briodolwyd ganddo i lygredd ac annuwioldeb ei harweinwyr pwdr. Gwelodd y goresgynwyr paganaidd fel dial Duw.

Yn ystod y ddau gan mlynedd nesaf, bu i'r ymladd - yn arbennig gyda'r Eingl-Sacsoniaid - greu pobl 'Gymreig' allan o weddillion y Brythoniaid Rhufeinig a'r bobl frodorol. Seiliwyd eu hunaniaeth yn bennaf ar grefydd ac iaith gyffredin.

Erbyn i Sant Awstin gyrraedd de ddwyrain Prydain yn 597 AD er mwyn troi'r llwythi Germanaidd paganaidd yno at Gristnogaeth, roedd y grefydd wedi ei hen sefydlu yng Nghymru a rhannau eraill o orllewin Prydain fel Cumbria a Chernyw. Mae'r farddoniaeth gynharaf Gymraeg yn dyddio'n ôl i'r cyfnod cyn i Sant Awstin gyrraedd Prydain, ac mae cerddi Taliesin a cherdd Aneirin Y Gododdin o'r cyfnod hwn yn profi bod Cristnogaeth erbyn hynny wedi ei hen sefydlu ymhlith y Prydeinwyr brodorol. Mae'r cyfnod hwn yn cael ei adnabod fel 'Oes y Saint' - cyfnod o weithgareddau Cristnogol dwys yng ngorllewin a gogledd Prydain a'r Iwerddon. Y cenhadwr 'Cymreig' enwocaf fwy na thebyg yw Sant Padrig, a roddodd gychwyn ar dröedigaeth y Gwyddelod. Byddai Iwerddon yn ddiweddarach yn anfon ei chenhadon ei hun dros orllewin Ewrop, a daeth Padrig i'w gydnabod fel nawddsant yr ynys.

Yng Nghymru, datblygodd Dewi Sant fel y ffigwr Gristnogol ganolog. O holl wledydd Prydain a'r Iwerddon ef yw'r unig sant a anwyd yn y wlad y mae'n ei chynrychioli, ffaith sy'n pwysleisio gwreiddiau dwfn Cristnogaeth Gymreig erbyn amser geni Dewi ym mlynyddoedd cynnar y chweched ganrif.

Nid Dewi oedd y ffigwr mawr cyntaf yng Nghymru, serch hynny. Cyn ei gyfnod ef, roedd saint fel Dyfrig ac Illtud yn ddylanwadol iawn. Dilynwyd hwy gan Teilo Sant, Padarn Sant a Deiniol Sant yn ogystal â Dewi.

Ychydig sy'n wybyddus am y bobl yma, ond mae'n rhaid eu bod yn ddylanwadol iawn yn eu cyfnod oherwydd bu i nifer o lefydd dros Gymru gae eu henwi ar eu hôl, gydag enw'r sant yn cael ei ragflaenu gan y gair Llan: er enghraifft: Illtud Sant - Llanilltud Fawr, Dewi Sant - Llanddewi, Padarn Sant - Llanbadarn , Teilo Sant - Llandeilo. Mae Llan yn hen air Cymraeg i nodi, mae'n debyg, darn o dir, tir a gysegrwyd gan y Cristnogion cynnar ar gyfer claddedigaethau ac addoliad.

Fe honnir fod nifer o'r llefydd yma yn cynnwys mannau addoli paganaidd, megis ffynhonnau. Ceir yn llythrennol gannoedd o lefydd yng Nghymru yn dechrau gyda Llan, sy'n tystio i ddiwydiant y Cristnogion cynnar yma.

Yn ogystal ag enwau llefydd, tystiolaeth arall am weithgaredd y Cristnogion Celtaidd cynnar yw'r cannoedd o feini hirion a welir dros y wlad. Mae rhai yn dwyn arysgrifen mewn Lladin ac Ogam, tra bo gan eraill gerfiadau cywrain sydd, erbyn hyn, wedi dod yn symbol o'r hunaniaeth Geltaidd, megis y groes yn eglwys Sant Brynach yn Nanhyfer, Sir Benfro.

Ychydig a erys o ran llawysgrifau darluniadol o Gymru o gymharu â'r gwaith gwych a welir yn Llyfr Kells ac Efengylau Lindisfarne, er y credir bod i Efengyl Sant Chad wreiddiau Cymreig. Treuliodd ychydig o amser yng Nghymru ar ryw adeg o'i hanes, er iddo fod yn ei gartref presennol yn Lichfield am gannoedd o flynyddoedd. Ar gyrion y llawysgrif, fe welir enghraifft o'r ysgrifennu cynharaf yn y Gymraeg, sy'n dyddio o'r 9fed ganrif.

Bwriad y genhadaeth o Eglwys Rufain a arweinwyd gan Awstin Sant oedd creu undod crefyddol ym Mhrydain. Ond er i lwythi Germanaidd Lloegr ddod yn Gristnogion, ni chafwyd undod gyda'r Cymry. Yn wir, gwrthodwyd eu hymgais i glosio at esgobion Cymreig yn AD 602 ac yn 604. Y mae, efallai, yn ddealladwy bod y Cymry yn anfodlon i gydweithredu gyda'r Saeson, gan mai hwy - er eu bod bellach yn Gristnogion - oedd wedi eu hamddifadu o ynys Prydain.

Yn ddiweddarach ceir tystiolaeth bod Cristnogion Cymreig a Seisnig wedi darganfod tir canol wrth i'r ddwy genedl ddod dan ymosodiad Llychlynwyr paganaidd o ddiwedd yr 8fed ganrif ymlaen. Ar ôl delio gyda'r Daniaid yn hwyr yn y 9fed ganrif, bu i'r brenin Sacsonaidd mawr, Alfred, fynd ati i wella cyflwr addysg yn eglwys Loegr, a oedd wedi dirywio ar ôl blynyddoedd o ymosodiadau.

Dewisodd fynach o'r enw Asser o fynachdy TÅ· Ddewi yng ngorllewin Cymru. Daeth Asser yn glust i wrando i'r brenin ac mae ei Life of King Alfred yn brawf o'r safon uchel o Ladin a ddefnyddiwyd yn eglwys Cymru. Mae hefyd yn ddogfen hanesyddol werthfawr yn cofnodi bywyd brenin o Loegr yn y canol oesoedd.

Ymosodiadau'r Llychlynwyr ddaeth â Christnogion Cymreig a Seisnig at ei gilydd. Y Normaniaid, disgynyddion y Llychlynwyr, ddaeth â'r Cymry o dan awdurdod Archesgob Caergaint.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Beibl dot-net

Trin a thrafod

Trin a thrafod pynciau crefyddol, moesol a chymdeithasol

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.