Â鶹ԼÅÄ

William Williams, Pantycelyn

Emynwyr a Phregethwyr 1735 - 1800

Dyma gychwyn y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru a'r don gyntaf o emynwyr a phregethwyr mawr Cymreig.

Caiff y cyfnod yma ei adnabod fel y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Roedd yna dri ffigwr amlwg yn gysylltiedig â'r mudiad: Howel Harris (1714-73), Daniel Rowland (1713-90), a William Williams Pantycelyn (1717-1791).

Profodd Harris a Rowland, ar wahân, droedigaeth grefyddol yn 1735, ond wnaethant gwrdd tan 1737, pan fu iddynt benderfynu cydblethu eu gweithgareddau efengylaidd - a dyna'r dyddiad sydd, i bob pwrpas, yn nodi cychwyn y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru.

Cafodd y tri eu heffeithio'n fawr gan waith a phregethu Griffith Jones Llanddowror, ac yn ddiamau bu i'w Ysgolion Sul ef, a'r cynnydd mewn llythrennedd a ddaeth yn sgil hynny, gyfrannu'n fawr at ddatblygiad Methodistiaeth. Er na wnaeth Griffith Jones ei hun gofleidio Methodistiaeth, cyfaddefodd fod ganddo dipyn o gydymdeimlad gyda'i amcanion.

Mudiad o fewn Eglwys Loegr oedd Methodistiaeth ar y dechrau, a chanddo'r bwriad o ddiwygio'r eglwys wladol. Datblygodd y mudiad mewn ffyrdd gwahanol yng Nghymru, er ei fod yn dal o dan ddylanwad yr hyn oedd yn digwydd yn Lloegr.

Profodd Howel Harris ei dröedigaeth yn ystod pregeth yn eglwys Talgarth yn Sir Frycheiniog ac fe ddechreuodd gynnal cyfarfodydd crefyddol yn ei gartref. Yn fuan roedd yn pregethu'r efengyl mewn ardaloedd cyfagos ac yn fuan dros Gymru gyfan.

Roedd yn ŵr angerddol a chanddo egni aruthrol, gan bregethu pum pregeth y diwrnod yn aml, a hynny ambell waith mewn awyrgylch o elyniaeth dreisgar. Er gwaetha'r gwrthwynebiad, bu i'w ddyfalbarhad arwain miloedd o bobl i brofi tröedigaeth.

Gŵr o ddaliadau cryfion ydoedd, ac arweiniodd ei gredoau unplyg at raniad gydag arweinwyr eraill ym myd Methodistiaeth Gymreig yn gynnar yn yr 1750au. O ganlyniad, sefydlodd Harris gymuned grefyddol yn ei bentref genedigol, sef Trefeca, Sir Frycheiniog. Cyn ei farwolaeth cymododd gyda Daniel Rowland a'r mudiad, a chyfansoddodd William Williams farwnad yn nodi ei gyfraniad enfawr.

Ni chafodd Howel Harris erioed ei ordeinio yn Eglwys Loegr, yn wahanol i'w gydymaith Daniel Rowland. Cafodd Rowland ei wneud yn weinidog yr Eglwys Anglicanaidd yn 1734 yn Llangeitho, Ceredigion. Eto i gyd ni roddodd ei hun yn llawn i Grist tan iddo weld Griffith Jones yn pregethu y flwyddyn ganlynol. Roedd yr effaith yn ddramatig, a daeth Rowland yn Gristion o argyhoeddiad, gan ddatblygu cysylltiadau gyda Anghydffurfwyr er mwyn lledaenu'r gair yn fwy effeithiol.

Daeth ei sgiliau pregethu yn chwedlonol a daeth miloedd dros Gymru i wrando arno yn Eglwys Llangeitho. O ganlyniad, brawychwyd yr awdurdodau Anglicanaidd, gan ddiarddel Rowland o'i swydd fel curad. Ymatebodd ei ddilynwyr drwy adeiladu capel iddo yn agos at yr eglwys a pharhaodd Rowland fel o'r blaen, gan ddod yn un o'r pregethwyr mwyaf dylanwadol welodd Cymru erioed.

William Williams ('Pantycelyn') oedd emynydd mawr y diwygiad, gan gyfansoddi bron i fil o emynau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ei emyn enwocaf Saesneg yw'r ffefryn rygbi 'Guide Me Oh Thou Great Redeemer'. Cymaint oedd ei dalent fel y cafodd yr enw Y Pêr Ganiedydd. Cyfansoddodd hefyd ryddiaith a barddoniaeth.

Yn hanu o gefndir Anghydffurfiol, cafodd Williams ei dröedigaeth drwy bregethau Howel Harris, ac yn ddiweddarach fe gafodd cysylltiad agos a chynhyrchiol gyda Daniel Rowland.

Ar ôl ymuno â'r Eglwys Anglicanaidd, cafodd Williams ei ordeinio'n ddiacon yn 1740. Yn ddiweddarach canolbwyntiodd fwy ar y mudiad Methodistaidd gan ddod yn un o'i ffigyrau amlycaf yng Nghymru. Teithiodd filoedd o filltiroedd, gan bregethu a gwerthu ei lyfrau emynau, a chan gynnal ei hun drwy werthu nwyddau megis tê.

Roedd mwyafrif o awduron emynau y cyfnod yma yn ddynion, ond roedd Ann Griffiths (1776-1805), y ferch o Ddolwar Fach, Sir Drefaldwyn, yn eithriad i'r rheol.

Ymhlith ei hedmygwyr mae Archesgob Caer gaint, Dr Rowan Williams. Fel rhan o'i wasanaeth gorseddu fel Archesgob Caer gaint yn Chwefror 2003, dewisodd Dr Williams un o emynau Ann Griffiths, 'Yr Arglwydd Iesu' , (a'i gyfieithu ei hun). Clywyd hefyd yn y gwasanaeth emyn Pantycelyn 'Guide Me Oh Thou Great Redeemer'.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Beibl dot-net

Trin a thrafod

Trin a thrafod pynciau crefyddol, moesol a chymdeithasol

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.