Â鶹ԼÅÄ

Castell Biwmares

Cestyll y Brenhinoedd

02 Chwefror 2009

Er bod gan frenhinoedd Lloegr nifer o broblemau dyrys, megis eu perthynas â'r Alban, Ffrainc, y Pab a'r barwniaid, byddai'n rhaid rhoi sylw i Gymru o dro i dro.

Byddai ambell i gastell y barwniaid yn dod i'w dwylo o dro i dro megis Penfro, Caerdydd a Chasnewydd, ond er i bron bob un o'r brenhinoedd ddod i Gymru i ryfela rywdro neu'i gilydd, ni fu neb ohonynt yn adeiladu castell newydd sbon hyd y gwyddys nes i Henry III yn 1223 ymgymryd â chastell newydd Trefaldwyn ar graig uchel uwchben y bwrdeistref a chastell Hen Domen.

Newidiodd y cyfan wedi i Edward I ddychwelyd o'r Wlad Sanctaidd yn 1274. Yn ddyn ifanc, roedd wedi dysgu gwersi milwrol caled gan Llywelyn ap Gruffudd; pan wrthododd hwnnw ddangos ufudd-dod i'r brenin, na chwaith dalu ei ddyledion, byddai Edward yn siŵr o ddial.

Yn sgil ei ryfel llwyddiannus yn 1277-78, cyfyngwyd arglwyddiaeth Llywelyn i Wynedd is Conwy, a dechreuodd Edward gomisiynu cadwyn o gestyll i'w gyfyngu: Aberystwyth, Buallt, Fflint a Rhuddlan. Yn sgil marwolaeth Llywelyn a chwymp Gwynedd yn 1282-83, daeth ail gadwyn: Conwy, Caernarfon a Harlech, heblaw cryfhau Cricieth. Y diweddglo fu cychwyn Biwmares yn 1295 wedi gwrthryfel Madog ap Llywelyn.

Pwrpas pennaf Edward oedd sicrhau na fyddai'r Cymry fyth yn codi mewn gwrthryfel, ac i'r perwyl fe greodd fwrdeistrefi yng nghysgod pob un o'i gestyll, gyda muriau amddiffynnol. Roedd y trefi hyn yn fannau masnachol, yn ganolfannau gweinyddu cyfiawnder ac yn ynysoedd o Seisnigrwydd.

Un o'r nodweddion amlycaf o gynllun Edward yw bod mwyafrif helaeth y cestyll ar lan y môr, lle roedd yn hawdd sicrhau cyflenwad o fwyd petai'r Cymry'n ymosod ac yn gwarchae'r safle. Bu Edward yn ddoeth yn sicrhau gwasanaeth meistr Ewropeaidd adeiladwaith cestyll, sef James o Saint George, i lunio mwyafrif ei gestyll Cymreig, a hynny ar gost aruthrol.


Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.