Â鶹ԼÅÄ

Castell Carreg Cennen © Wales Tourist Board

Castell Carreg Cennen

17 Mawrth 2009

Nid oes castell yng Nghymru mewn safle godidocach na Charreg Cennen, heblaw o bosibl Dinas Brân. Mae craig galchfaen anferth yn codi o waelod y dyffryn unig, a'r castell yn ei choroni.

Yn yr ogof sy'n plymio i ddyfnder y graig cafwyd hyd i olion dynion, o bosibl o'r cyfnod cyn-hanesyddol. Cafwyd hyd hefyd i ddarnau o arian Rufeinig, felly mae'n bosibl y bu caer o'r Oes Haearn yno, ond ni ellir gweld ei hôl os bu. Yn ddiweddarach roedd yn safle i gastell tywysogion Cymreig Deheubarth - ond olion castell o'r cyfnod Edwardaidd welir ar y safle bellach.

Mae'n bosibl mai Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys) ŵyr Rhys ap Tewdwr, a adeiladodd y castell gwreiddiol rywdro yn ystod y 12fed ganrif, ond nid oes tystiolaeth i brofi hynny. Ni cheir sôn am y lle cyn y flwyddyn 1248, pan lwyddodd Rhys Fychan, gor-ŵyr yr Arglwydd Rhys, i'w gipio oddi wrth y Saeson.

Yn ystod rhyfel cyntaf Edward I yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd ochrodd tywysogion Deheubarth gyda'r brenin, a rhoddwyd Carreg Cennen yn nwylo'r gwar brenhinol Pain de Chaworth. Erbyn 1282 roedd y Cymry blaenllaw wedi edifarhau, a chodasant yn erbyn y Saeson.

Cipiwyd Carreg Cennen gan feibion Rhys Fychan, sef Gruffudd a Llywelyn, ond byr fu eu llwyddiant, ac o fewn ychydig roedd Edward yn medru cyflwyno'r castell i ofal John Giffard. Ni wyddys beth oedd cyflwr y castell Cymreig gwreiddiol, ond gwaith Giffard a welir yn gwgu o ben y graig heddiw.

Ar ddechrau Gorffennaf 1403, roedd Owain Glyndŵr a byddin o gannoedd o filwyr (dros 8000 yn ol un sylwebydd Seisnig) yn paratoi i ymosod ar gastell Carreg Cennen, oedd yn cael ei amddiffyn ar y pryd gan Sir John Scudamore. Cafodd y castell ei ddifrodi'n helaeth yn ystod yr ymosodiad yma, ac mae'n bosib iddo fod dan warchae am hyd at flwyddyn, er nad oes sicrwydd a lwyddodd Owain Glyndŵr i gipio'r castell ai peidio.

Ar ddechrau Rhyfel y Rhosynnau (1453-87) Gruffydd ap Nicholas oedd biau Carreg Cennen. Yn 1461 dihangodd ei feibion Thomas ac Owain yma wedi i'r Lancastriaid gael eu trechu ym mrwydr Mortimer's Cross, a daeth byddin y Iorciaid i'w gwarchae yno. Ildiasant, a dinistriwyd y castell gan y buddugwyr. Ni fu rhagor o hanes i'r safle godidog hwn.


Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.