Â鶹ԼÅÄ

Castell Aberystwyth

Castell Aberystwyth

04 Mawrth 2009

Mae Caer Pendinas, un o gaerau mwyaf trawiadol yr Oes Haearn yng Nghymru, yn dangos bod dynion wedi sylweddoli pwysigrwydd safle canolog bro Aberystwyth yn gynnar.

Pan arweiniodd Gilbert de Clare y Normaniaid i Geredigion yn 1110 a chodi castell ym mhob un o gymydau'r wlad, dewisodd fryn llai amlwg uwchben afon Ystwyth i godi castell cylchwaith, a gellir gweld yr olion yno heddiw uwchben fferm Tanycastell.

Bu llawer o frwydro rhwng Cymro a Sais dros y castell hwnnw cyn i Edward I oresgyn Ceredigion yn 1277 a dewis safle ger y môr ar lan aber afon Rheidol - ond rywsut fe lynnodd yr hen enw wrth y lle newydd. Gofynnodd i'w frawd Edmund i arolygu'r gwaith, a chodwyd castell ar ffurf diamwnt i ffitio'r safle, a bwrdeistref gerllaw.

Roedd castell Aberystwyth yn rhan o'r gadwyn o gestyll a gynlluniodd Edward er mwyn cyfyngu Llywelyn ap Gruffudd i'w dywysogaeth fechan yng Ngwynedd is Conwy. Cyn i'r gwaith gael ei gwblhau, llwyddodd y Cymry lleol adeg gwrthryfel Pasg 1282 i feddiannu'r castell a'i ddifrodi, ond byr fu eu buddugoliaeth, ac aeth y gwaith ymlaen gystal fel y llwyddodd y garswn i wrthsefyll gwarchae adeg gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294, diau gyda chymorth cyflenwadau a ddaeth mewn llongau.

Yn 1404, ar yr ail gynnig, llwyddodd milwyr Owain Glyndŵr i gymryd meddiant o'r castell, ac am bedair blynedd bu'n ganolfan bwysig tra bod Glyndŵr yn gweithredu fel tywysog gwlad annibynnol. Bu'n rhaid i'r tywysog Harri o Drefynwy ddod â byddin sylweddol i warchae'r castell, gan ddefnyddio gynnau am y tro cyntaf ym Mhrydain; ildiodd y castell, ond dihangodd Glyndŵr.

Wedi hynny fe ddirywiodd cyflwr castell Aberystwyth, ond roedd modd i'r masnachwr anturiaethau Thomas Bushell, oedd yn ecsploetio mwynfeydd plwm ac arian Cwmsymlog, greu bathdy arian yn yr adeiladau yn 1637, ac oddi yno daeth yr arian i dalu milwyr Charles I ar ddechrau'r Rhyfel Cartref yn 1642.

Diwedd y gân oedd i fyddin Seneddol fynd o gastell i gastell yng ngorllewin Cymru; gwarchaewyd a meddiannwyd Aberystwyth yn 1646. Gorchmynnodd Cromwell i'r muriau a'r adeiladau gael eu dinistrio â phowdr gwn, sy'n esbonio cyflwr y lle heddiw.


Gêm y Gof

Gêm y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.