Â鶹ԼÅÄ

Wylfa cyn codi'r orsaf

top
Golyga o orsaf bwer Wylfa

Dechreuodd gorsaf bŵer niwclear yr Wylfa gynhyrchu trydan ar gyfer y grid cenedlaethol yn 1971 a chafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol ar Fai 12 1972.

Yn ei anterth gallai'r orsaf gynhyrchu mwy na 40% o holl ofynion trydan Cymru ac ar ddiwrnod cyffredin roedd yn cyflenwi 23 miliwn kilowatt yr awr o drydan - digon i gyflenwi gofynion dinasoedd dwywaith maint Lerpwl a Manceinion wedi eu cyfuno yn ôl cwmni Magnox.

Ond dros 40 mlynedd yn ddiweddarach, dechreuwyd dadgomisiynu'r orsaf Magnox. Caewyd un o'r ddau adweithydd yn 2012 gyda'r llall i fod i roi'r gorau iddi erbyn 2014. Maen nhw'r rhai mwyaf, ac olaf o'u bath, i gael eu hadeiladu ym Mhrydain.

Bellach mae gan gwmni Hitachi o Japan gynlluniau i godi gorsaf Wylfa B ar y safle ar ôl iddynt brynu prosiect niwclear Horizon.

Dymchwel adeiladau i godi'r orsaf

Ond nôl yn 1963 y dechreuodd y gwaith adeiladu £80 miliwn gwreiddiol ar yr hen safle 20 hectar ger Cemaes ar arfordir gogleddol Môn gan roi gwaith i nifer o hogiau ifanc lleol.

Ond i wneud lle i'r pwerdy newydd, modern, roedd rhaid aberthu rhai o'r adeiladau lleol, a'r hanes oedd yn gysylltiedig â nhw.

Roedd y tir lle saif pwerdy Wylfa heddiw yn faes chwarae enfawr i Helen Owen o Dregele pan oedd yn blentyn. Dyma ei hatgofion hi o dri thÅ· yn yr ardal cyn iddynt gael eu dymchwel i godi'r pwerdy:

Ysbryd Galan Ddu

"Fel plant, byddem yn mynd i chwarae o gwmpas lle mae Wylfa rŵan. Roedd arfer bod hen dŷ ar y tir - Galan Ddu. Roedd yn gartref i Rosina Buckman [cantores opera o Seland Newydd]," meddai Helen.

Cafodd mam-yng-nghyfraith Rosina, Emma D'Oisley, ei chladdu ger y tÅ· ym Mhorth Wnal, ond cafodd ei chorff ei symud i Eglwys Llanbadrig yng Nghemaes pan gafodd y tÅ· ei dynnu lawr i adeiladu Wylfa.

Galan Ddu
Prynwyd ffermdy Galan Ddu gan y gantores
opera Rosina Buckman

"Roedd ei bedd ger y tŷ o dan hen greigan fawr lle byddai'n eistedd i sgwennu llythyrau ar ddyddiau Sul, yn ôl y sôn. Byddem ni fel plant bach yn chwarae yno a phob nos, cyn gadael, yn ffarwelio â hi. Roedd 'na 'R.I.P' wedi ei 'sgwennu ar y bedd; fel plant bach Cymreig heb lawer o Saesneg, 'doedden ni ddim yn siŵr beth oedd hynny'n ei olygu. Ond yn y diwedd, ddaru ni benderfynu mai 'Return if Possible' oedd o, felly dyna beth fydden ni'n ei ddweud wrthi bob nos! 'Goodbye Emma D'Oisley, going home now, return if possible.'"

Mae sôn bod rhai wedi gweld ysbryd Rosina, y gantores opera, yn y Wylfa.

"Maen nhw'n dweud mai ei hysbryd hi sydd yn Wylfa," meddai Helen "ond dwi ddim yn siŵr iawn o hynny," meddai Helen.

"Bu cefnder a chyfneither i mi yn byw yng Nghalan Ddu, ac roedd Eric yn gweithio yn Wylfa. Un noson, penderfynodd chwarae tâp o ferch yn canu opera yn y twnnel lle'r oedd gweithwyr Gwyddelig yn gweithio! 'Doedd neb yn adnabod llais Rosina, felly 'falle mai dyna lle gychwynnodd y straeon am ysbryd!"

Plasty Cestyll a Wylfa Manor

"Dwi'n cofio hefyd mynd i lawr i'r traeth efo Lady Vivian o blasty Cestyll i hel shrimp.

"Wedyn byddai Richard, ei butler, yn dod lawr i'r traeth i nofio. Byddai'n cerdded o'r tŷ dros y cae efo gaberdine dros ei dryncs nofio! Dyma fo'n tynnu ei sgidiau a'r gaberdine ac yn neidio mewn i'r môr.

Gerddi Cestyll

Cafodd gerddi plasty Cestyll eu creu yn 1922 gan Violet Vivian a etifeddodd y tir a'r hen blasty gan ei hewythr, Walter Vivian.

Roedd Violet a'i chwaer Dorothy yn 'ladies in waiting' i'r Frenhines Alexandra.

Pan gafodd y tir ei werthu gan nith Violet er mwyn adeiladu'r orsaf bŵer, cytunwyd y byddai Wylfa yn edrych ar ôl y gerddi i'r dyfodol ac ers 1983 mae'r orsaf wedi bod yn gofalu am yr ardd a'i ail-agor i'r cyhoedd.

Cafodd y plasty ei ddymchwel yn 1991 ar ôl mynd i gyflwr gwael.

    "Mae tir Cestyll hefyd yn rhan o Wylfa, ond maen nhw wedi tynnu'r hen dÅ· i lawr erbyn hyn.

    "Ddaru nhw hefyd dynnu yr hen Wylfa Manor i lawr."

    "Roedd yn dÅ· mawr efo grisiau'n mynd i fyny at y drws ffrynt, a dwy lusern fawr bob ochr. Roedd Mr David Hughes yn byw yno, taid i Ronnie Madog Jones ddaru roi'r arian i adeiladu neuadd bentref Cemaes.

    "Yna, cafodd ei ddefnyddio fel llety i efaciwîs adeg y rhyfel. Dwi'n cofio mam a thair o'i ffrindiau yn cael eu gofyn i fynd draw i ll'nau'r lle, a ni'r plant yn mynd efo nhw.

    Roedd 'na risiau spiral yn mynd i fyny i'r to ac yn y gegin roedd 'na ddau ddrws bob ochr i'r Aga. Dwi'n cofio mam yn ein stopio ni rhag agor yr un i'r chwith gan fod 'na risiau yn mynd i lawr i'r môr. Mi ges i gipolwg a dwi'n cofio gweld gwyrddni'r gwymon sydd ar waelod y môr; efallai ei fod yn llwybr i lawr i Draeth Porth yr Ogof.

    'Wtlfa Hall'
    Adeiladwyd 'Wylfa Manor' yn 1886 gan David
    Hughes, adeiladwr nodedig o Gemaes

    "Mae gen i hen deilsen o laethdy Wylfa Manor; un efo stori Aesop's Fable arno. Roedd y rhain ar waliau'r llaethdy, o'r top i'r gwaelod.

    "Mae'n wahanol gweld ardal Wylfa heddiw, heb yr hen dai yma, ond dwi wastad yn gweld y lle fel yr oedd pan roedden ni'n blant: mynd am dro ar ddydd Sul i Ynys yr Å´yn lawr i Borth yr Ogof lle'r oedd bad achub cyntaf Cemaes.

    "Byddem wastad yn dod o hyd i blisgyn coconyt - efallai wedi cael eu golchi i'r lan o'r llongau oedd yn mynd heibio ar eu ffordd i Lerpwl."

    Cyhoeddwyd cyfraniad Helen Owen yn wreiddiol ar wefan Â鶹ԼÅÄ Lleol.


    Cerdded

    © Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

    Conwy

    Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

    Diwydiant

    Llechi

    Creithiau'r llechi

    Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

    Â鶹ԼÅÄ iD

    Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

    Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.