Â鶹ԼÅÄ

Hanes Porthaethwy

top
Pont Menai, Porthaethwy

Sut trodd tir creigiog y comin yn dref? Dyma Ann Benwell, un o drigolion Porthaethwy, i fwrw golwg ar hanes hir y dref ger y bont.

"Mae ardal Porthaethwy wedi bod yn bwysig fel man i groesi'r Fenai ers canrifoedd. Yr hen enw ar yr ardal oedd 'Porth Ddaethwy' - 'porth', ar ôl y man croesi, a 'daethwy', ar ôl y tylwyth oedd yn byw yma.

"Camgymeriad y mae rhai yn ei wneud yw sôn am yr enw Saesneg, 'Menai Bridge' yng nghyswllt y canol oesoedd. Heb y bont, nid hwn oedd yr enw wrth gwrs - a châi ei alw'n 'Bangor Ferry', neu 'The Ferry' tan hyd at ganol y 19eg ganrif, er bod y fferi wedi mynd erbyn hynny.

"Roedd yna gasgliad bach o ffermydd ar y tir uchel yn ystod y canol oesoedd. Tir comin oedd y gweddill ger y Fenai. Hen enw'r ardal yma oedd 'Cerrig y Borth', gan ei fod yn greigiog iawn gyda phyllau a morfa. Yr unig adeilad yn yr ardal oedd yr hen dÅ· fferi sydd erbyn hyn ar Stryd Cambren. Roedd angen deiseb gan y llywodraeth i adeiladu ar dir comin, felly hwn oedd yr unig adeilad am bellter pan gafodd ei adeiladu yn 1688. Y TÅ· Fferi ym Mhorthaethwy

"Mae rhai o'r ffermdai oedd ar y tir uchel yn dal i fod yno, ond collwyd TÅ· Mawr a Thyddyn Mostyn wrth adeiladu stadau o dai. Ond y tu hwnt i'r cae criced mae Ty'n y Caeau, cartref i ffermwyr cyfoethog o'r ardal. Tua Four Crosses, mae 'Rallt ac yn y 19eg ganrif adeiladwyd Plas Cadnant, draw ar ochr arall Porthaethwy.

"Daeth newidiadau mawr i'r ardal ar gychwyn y 19eg ganrif pan adeiladwyd y bont. Gosodwyd y garreg sylfaen yn 1819 ac roedd yn barod erbyn 1826. Roedd yn newid enfawr i bobl yr ardal ac mae'n rhaid ei fod wedi edrych fel rhyfeddod iddynt.

"Ar yr un pryd, pasiwyd deddf seneddol i gau'r tir comin, gan roi'r rhan fwyaf o'r tir i Ardalydd Môn a thyfodd y dref fel y gwyddom ni heddiw.

"Ond ddaru nhw erioed adeiladu'r pontydd dros y Fenai i fod o fudd i'r ynyswyr - ond er mwyn galluogi i wleidyddion Iwerddon gyrraedd Llundain cyn gynted ac sy'n bosib."


Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Conwy

Taith o gwmpas y dref, gan ymweld â'r castell, waliau'r dref, a llefydd eraill o ddiddordeb hanesyddol.

Diwydiant

Llechi

Creithiau'r llechi

Ym mis Tachwedd 1903 bu raid i streicwyr y Penrhyn fynd nôl i'w gwaith.

Â鶹ԼÅÄ iD

Llywio drwy’r Â鶹ԼÅÄ

Â鶹ԼÅÄ Â© 2014 Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.