Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Syr Henry Jones Carreg filltir Harri'r Cwm
Tachwedd 2009
Eleni, nid y Nadolig yn unig fydd trigolion Llangernyw yn ei ddathlu ym mis Rhagfyr...

Ar nos Wener, Rhagfyr 11, bydd noson yn cael ei chynnal i ddathlu penblwydd arbennig Amgueddfa Syr Henry Jones. Mae'r amgueddfa yn dathlu 75 mlynedd ers ei agoriad swyddogol gan David Lloyd George yn 1934. I ddathlu'r garreg filltir bydd Mairlyn Lewis, Abergele, yn darlithio am fywyd a dylanwad Henry Jones, a bydd aelodau hen a newydd o sioe 'Harri'r Cwm' yn rhoi blas i ni o'r ddrama gofiadwy.

Fel y rhan fwyaf o blant ar ddiwedd y 19eg ganrif, gadawodd Henry Jones yr ysgol yn 12 oed ac aeth yn syth i weithio. Gweithiodd gyda'i dad, crydd y pentref, yn ystod y dydd, ac astudio 'gyda'i lyfrau...tan berfeddion a thoriad gwawr' am dair blynedd. Ond o ganlyniad i waith caled a dyfalbarhad llwyddodd Henry i ennill ysgoloriaeth i Goleg Normal Bangor i astudio i fod yn athro.

Wrth barhau hefo'i astudiaethau cafodd Henry ddylanwad mawr ar fyd addysg yng Nghymru ac yn yr Alban gan lwyddo i ennill y brif Gadair Athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Credai Henry Jones y dylai bawb gael y cyfle i dderbyn addysg, beth bynnag eu hoedran neu gefndir. Sicrhaodd fod y dreth geiniog yn cael ei chodi er mwyn sefydlu ysgolion uwchradd yng Nghymru - blynyddoedd ynghynt na Lloegr. Heb ddylanwad a phwer Henry Jones mae'n ddigon hawdd y byddai Cymru yn le gwahanol iawn heddiw.

O ganlyniad i waith caled a dyfalbarhad fe lwyddodd trwy gydol ei fywyd. Ni anghofiodd Harri'r Cwm am ei wreiddiau na'i gartref yma yn Llangernyw, ac rydym ni fel pentref yn parhau i ymfalchio yn ei lwyddiant hyd heddiw.

Felly ymunwch â ni i ddathlu bywyd a dylanwad y dyn arbennig hwn ar nos Wener, Rhagfyr 11. Bydd y noson yn dechrau am 7.30yh ac yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Bro Cernyw. Am fwy o fanylion neu i drefnu ymweliad grwp i'r amgueddfa, cysylltwch ag Eleri Wyn, Swyddog Datblygu Amgueddfa Syr Henry Jones ar 01745 860630 neu drwy e-bostio syrhenryjones@hotmail.com


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý