Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Aled Jones ac Eleri Houlston Elusen Aled ac Eleri
Ebrill 2007
Llongyfarchiadau cynnes i Eleri Houlston (Evans gynt) am y gwaith rhagorol a wnaed ganddi trwy gasglu arian at yr elusen TÅ· Gobaith.
Casglodd Eleri symiau enfawr at yr elusen, ers i Aled Jones, y canwr enwog ddod yn noddwr i DÅ· Gobaith.

Wedi hyn ffurfiwyd grŵp o "Ffrindiau Aled" i gasglu arian at yr elusen ac Eleri yn un ohonynt.

Bu yn edmygydd o Aled ers yn ifanc, pan gyfarfu ag ef, pan oedd yn canu yng Nghôr y Gadeirlan ym Mangor ugain mlynedd yn ôl.

Cyfarfod ag ef eto ym mis Mawrth diwethaf ar ôl y Cyngerdd yn Neuadd y Philarmonic yn Lerpwl. Aled ac Eleri ugain mlynedd yn ôl

Casglodd Eleri £2,100 mewn ymdrech a drefnodd yng Nghastell Bodelwyddan ym Medi diwethaf a £1,600 mewn Noson Nadoligaidd a drefnodd gyda rhai eraill yn y Rhyl.

Mae hi'n gobeithio cyfarfod ag Aled Jones eto pan fydd yn canu yn Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl ar Fawrth 27.

Bydd yn ymuno hefo "Ffrindiau Aled at TÅ· Gobaith" ac yn casglu arian at yr elusen yn y Cyngerdd yno.

Fe gasglwyd £12,000 gan y grŵp yn y flwyddyn ddiwethaf - digon i dalu am therapi trwy gerddoriaeth i'r plant yn yr hosbis am flwyddyn.

Trefnir Ymdrech arall gan Eleri ym Mhlas Teg ger Yr Wyddgrug ar Mehefin 2 tuag at yr elusen.

Dymunwn bob llwyddiant i'w hymdrechion i godi arian at achos mor deilwng.

Nyrs yw Eleri yn Ysbyty Prestatyn ac mae ei phriod yn nyrsio hefyd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae ganddynt ddau o blant, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl, Aled a Tesni.

Mae TÅ· Croeso angen tair miliwn a hanner o bunnau i gyflawni'r gwaith pwysig a wnant bob blwyddyn.

Daw 3% o'r arian oddi wrth y Cynulliad ond mae'n rhaid i'r 97% gael ei godi gan wirfoddolwyr Ymroddgar fel Eleri.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý