Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
Noson Deyrnged i Rhys Jones Noson Deyrnged i Rhys Jones
Ionawr 2005
Roedd nos Sadwrn, Tachwedd 11fed yn noson arbennig iawn yn Neuadd Goffa Trelawnyd.

Fel sawl pentref arall, mae Trelawnyd yn gallu ymfalchi'o yn ei gyfraniad i'r traddodiad cerddorol Cymreig. Prin iawn, fodd bynnag, yw'r pentrefi sy'n gallu dweud eu bod wedi magu cerddor a pherfformiwr mor amryddawn a Rhys Jones.

Dros y blynyddoedd bu'n diddanu, yn cyfeilio, yn arwain, yn ysbrydoli ac yn hyrwyddo cerddoriaeth o bob math gan wneud cyfraniad amhrisiadwy yn lleol ac yn genedlaethol.

Ymhlith y cant a mil o bethau y bu Rhys yn ymwneud a nhw, mae Rhys wedi bod yn cyflwyno ei raglen radio 'Taro Nodyn' ar Radio Cymru yn ddi-dor am 25 o flynyddoedd, a daeth Rhys, Gwen, Caryl a Dafydd a chynulleidfa deilwng ynghyd a nifer o artistiaid at ei gilydd i ddathlu'r achlysur hwnnw. Yn eu plith roedd y grwp Eden, Steffan Rhys Hughes o Landyrnog a Chôr Meibion Trelawnyd dan arweiniad Geraint Roberts, gyda Angela Roberts a Ceinwen Roberts yn cyfeilio. Talwyd teyrnged i waith Rhys gan un arall o'i gydweithwyr, sef Aled Lloyd Davies, a chafwyd datganiad Cerdd Dant ganddo yntau.

Yn ogystal, fel rhyw 'sypreis' bach, cafwyd teyrngedau wedi eu recordio gan Tara Bethan, Eurwyn Williams (Â鶹ԼÅÄ) a Gareth Glyn.

Fel arwydd o werthfawrogiad y Gorfforaeth, cyflwynodd Marian Wyn Jones, Pennaeth y Â鶹ԼÅÄ yng Ngogledd Cymru, lun cartwnaidd a oedd wedi ei gomisiynu yn arbennig, i Rhys, a thusw o flodau i Gwen.

Cafodd y rhaglen, a recordiwyd, ei darlledu gan y Â鶹ԼÅÄ yn ystod cyfnod y Nadolig.

Casgliad newydd o ganeuon Rhys Jones ac Aled Lloyd Davies

Ar Dachwedd 25, lansiwyd cyfrol newydd o ganeuon o'r enw 'Digon i Mi' gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn Cyf. Ffrwyth partneriaeth dau a fu'n cyd-weithio yn gerddorol ac yn addysgol dros sawl blwyddyn yw hon. Mae'n cynnwys pum unawd ac un ddeuawd wladgarol sydd wedi'u hanelu at leisiau tenor, bariton neu soprano yn bennaf, ond mae modd addasu'r caneuon ar gyfer lleisiau eraill.

Ar ran Cwmni Gwynn, dywedodd Arfon Gwilym: 'Mae'n fraint arbennig cael cyhoeddi cyfrol fel hon gan ddau berson sydd wedi gwneud cyfraniad mor enfawr i fywyd diwylliannol Cymru ers cymaint o flynyddoedd. Mae'r gyfrol yn 'cynnwys caneuon gwych, a dwi'n sicr y bydd canu mawr arnyn nhw yn y blynyddoedd nesaf: Chi gerddorion ac unawdwyr bro'r Glannau beth amdani?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý