Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glannau
North by South, John Davies Llyfr newydd gan ŵr o Brestatyn
Y Parchedig Ieuan Lloyd, sy'n adolygu'r gyfrol o farddoniaeth 'North by South' gan John Davies.
Casgliad o farddoniaeth gan John Davies , Prestatyn yw'r gyfrol 'North by South'. Y mae'n ddiddorol gwybod am un yn meddu ar y ddawn i drin geiriau ac i drin coed, - dwy grefft gynhenid y traddodiad Cymreig.

Mwy am yr ail grefft yn nes ymlaen. Brodor o Cymer Afan, De Cymru yw John Davies. Bu yn athro Saesneg yn Ysgol Uwchradd Prestatyn am y rhan helaethaf o'i yrfa. Cafodd gyfle hefyd i deithio i Michigan a Washington, a bu'n darlithio ar farddoniaeth ym Mhrifysgol Brigham Young yn ystod ei ymweliad â'r wlad. Y mae hefyd yn diwtor Dosbarthiadau-Allanol dan nawdd Prifysgol Cymru.

Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'i farddoniaeth yn 1981 yn dwyn y teitl, At the Edge of the Town. Yn y cyfamser cyhoeddwyd pedair cyfrol arall, a hon yw ei bumed gyfrol. Casgliad detholedig o'i holl gerddi yw'r gyfrol hon, gydag ychwanegiad o rai cerddi newydd.

Adnabod cymeriadau
Y mae cynnyrch y bardd hwn yn gyfuniad diddorol o nodweddion De a Gogledd Cymru. Ei brif ddiddordeb yw cymeriadau, a rheini yn bobl amrywiol wedi eu lleoli mewn sefyllfaoedd arbennig. Y mae ganddo'r crebwyll i ganfod y neilltuol, a'r parodrwydd i wrando ar bob math o leisiau. Y mae ei gerddi yn cwmpasu y bywyd trefol a'r bywyd gwledig. Ceir disgrifiad o Bort Talbot ac o'r chwarel.

Y mae'r cerddi yn dwyn y teitl, Prestatyn, 'Talacre's Big Sleep', yn enghraifft o'i ddiddordeb yn ei gynefin. Ac oherwydd ei ymweliad â'r Amerig y mae ganddo nifer o gerddi diddorol yn ymwneud â'r wlad honno. Er bod John Davies yn cyfansoddi yn Saesneg, y mae'n ymwybodol iawn o gyfraniad prif feirdd Cymru, rhai fel T. H. Parry, Waldo Williams, Gwyn Thomas ac eraill. Ceir enghraifft o hynny yn ei Sonedau. Bydd y rhai sy'n gyfarwydd â gweithiau y beirdd hyn yn gweld ar unwaith beth yw ystyr ei gyfraniad. Y mae'n amlwg ei fod yn ymwybodol o deithi meddwl y beirdd. Y mae amryw o'r cerddi wedi ymddangos mewn gwahanol gylchgronau o dro i dro. Cyflwynwyd rhai o'r cerddi hefyd ar y radio a'r teledu.

Nid cerddi i'w darllen unwaith yw'r cerddi hyn. Y mae'n ofynnol i wrando arnom ein hunain yn eu darllen, neu well fyth gwrando ar yr awdur, fel y cafodd rhai ohonom y cyfle i wneud yn Llyfrgell y Rhyl. Un o gwpledi mwyaf trawiadol Mererid Hopwood yn yr awdl fuddugol 'Dadeni' yw'r geiriau hyn,
"Yn y darn rhwng gwyn a du
mae egin pob dychmygu."

Ac ystyr hynny yn ôl ei dehongliad hi yw'r her i'r darllenydd i ymateb i'r gwaith yn hytrach na'i dderbyn yn oddefol. "Gwaith creadigol y darllenwyr', meddai 'yw llenwi'r bylchau hyn â'u dychymyg eu hunain ... A rhywle yn y tyndra rhwng bwriad yr awdur a dehongliad y darllenydd mae'n bosib weithiau, i ddod o hyd i ystyr".

Credaf fod cofio hynny yn gymorth i ddeall cerddi diddorol John Davies. Ac onid yw hynny yn wir am bob darn o lenyddiaeth? Yn y gyfrol hon ceir rhai cerddi yn disgrifio rhai o deulu'r adar, ac y mae hynny yn naturiol, oherwydd y mae ganddo ddawn arbennig i gerfio. Y mae ei gynnyrch bellach wedi ei arddangos mewn gwahanol ganolfannau. Cerfiadau o adar, a rheini yn adar y glannau yw y rhan fwyaf ohonynt. Y mae'r cyfan yn waith safonol iawn.

Y mae'r awdur wedi derbyn cefnogaeth ei briod Marilyn ymhob rhan o'i waith. Y mae yntau wedi ei chydnabod yn un o'i gerddi yn ei gyfrol gyntaf. Y mae hithau yn meddu ar ddawn artistig i batrymu lliwiau'r adar ar y cerfiadau gorffenedig. Y mae dawn y bardd wrth drin geiriau, a'i ddawn i gaboli'r pren yn gynnyrch gwerth gwybod amdano.

North by South, gan John Davies.
Cyhoeddwr : Seren. Pris £8.95


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý