Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
Côr Meibion Caerfyrddin Côr Meibion yn dathlu'r 50
Rhagfyr 2008
Mae Côr Meibion Caerfyrddin wedi dathlu eu penblwydd yn 50 oed gyda chyngerdd arbennig.

Cynhaliwyd Cyngerdd Dathlu Cor Meibion Caerfyrddin yn Eglwys Crist, Caerfyrddin nos Sadwrn, 15fed o Dachwedd i ddathlu Hanner Canmlwyddiant y Côr ers ei sefydlu.

Roedd yr Eglwys yn orlawn gyda chynhesrwydd arbennig a chyngerdd i'w thrysori gan yr holl artistiaid.

Diolch arbennig i gefnogaeth ariannol Cyngor y Celfyddydau, Cyngor Tref Caerfyrddin, Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr.

Noson lwyddiannus iawn a diolch i bawb a gefnogodd y noson ac yn arbennig i'r Canon Patrick Thomas ac aelodau'r Eglwys.

Dyma rywfaint o hanes y côr dros yr hanner can mlynedd diwethaf gan John Gibby, Llywydd presennol y Côr.

"Un noson ym mis Tachwedd 1958, cyfarfu pedwar aelod dylanwadol o'r gymuned er mwyn ffurfio Côr Meibion.

Amcan y Côr oedd rhoi cymorth i achosion da a chystadlu mewn eisteddfodau.

Daeth pum aelod ar hugain i'r ymarfer cyntaf ac o fewn mis, roedd gan y Côr 45 o aelodau ac roedd yn mynd o nerth i nerth.

Yn y dyddiau cynnar hynny, cynhelid Cyngherddau Blynyddol y Côr yn Adeilad yr Hen Farchnad, a rhaid oedd i'r aelodau godi'r llwyfan a'i thynnu i lawr ar gyfer pob cyngerdd!

Roedd hyn yn dipyn o orchwyl ond roedd hefyd yn werth chweil.

Rhai o'r artistiaid yn y dyddiau cynnar hynny oedd y diweddar Ryan Davies, Dafydd Iwan ifanc iawn a Margaret Williams. Dyddiau da yn wir.

Yn un o'r cyngherddau hyn, ymunodd ein cystadleuwyr mawr a'n cyfeillion â ni, Côr Meibion Cwmbach (Aberdâr).

Roedd y gyngerdd hon yn llwyddiant mawr.

Yn fuan, roedd y Côr yn cael canlyniadau da mewn eisteddfodau, gan ennill yn Aberteifi, Pontrhydfendigaid, Tabernacl Treforys a nifer o leoedd eraill.

Pe bai'r Côr yn ennill yn y Genedlaethol, rhoddodd Mr Islwyn Wilkins (Llywydd) addewid y byddai'n rhoi crys gwyn i bob aelod o'r Côr - gwnaeth y gwr hynod hynny â gwên ar ei wyneb.

Ar ôl ennill yn y Genedlaethol, roedd galw mawr ar y Côr i gynnal cyngherddau. Daeth gwahoddiad o Ganada iddynt fynd ar eu taith gyntaf dramor ac yna aethant i Iwerddon, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen a Lesneven. Ymwelodd y Côr â Neuadd Albert, lawer tro hefyd.

Cynhaliwyd Cyngherddau Blynyddol mawreddog yng Nghaerfyrddin (Y Lyric) lle ymddangosodd nifer o artistiaid dros y blynyddoedd a fyddai'n nes ymlaen yn dod i enwogrwydd mawr ar lwyfannau'r byd, sef Bryn Terfel, Rebecca Evans, Rhys Meirion, Richard Rees a Shân Cothi. Un o hoff artistiaid eraill y Côr oedd Mrs Nansi Richards a ganodd unawd am y tro cyntaf a fyddai'n nes ymlaen yn cael ei ystyried yn un o hoff ganeuon y Cymry, 'Mor Fawr Wyt Ti'. Cafodd dderbyniad rhagorol gan y gynulleidfa.

Byddai'r Côr yn ymweld yn flynyddol ag Eglwys y Santes Fair yn Ninbych y Pysgod er mwyn diddanu'r ymwelwyr, a chafwyd nifer o wahoddiadau i ganu dros y ffin yn Lloegr.

Dros y blynyddoedd, mae'r Côr wedi cael 10 arweinydd. Yr arweinydd presennol Carole Rees sy'n gwneud gwaith ardderchog.

Cafodd Carole ganmoliaeth fawr pan arweiniodd y Côr Meibion Mawreddog yn y gyngerdd ddiweddar a gynhaliwyd yn Rhydychen lle bu'r Côr yn perfformio.

Mae Wyn Maskell yn gymorth medrus iawn iddi ar y piano.

Mae gan y Côr Bwyllgor Merched gweithgar iawn a diolchwn iddynt am eu cymorth rhagorol.

Cadeirydd presennol y Côr yw'r gantores Mr Iori Jones sy'n bennaeth ar bwyllgor gweithgar dros ben. Dylid canmol yr Ysgrifennydd, Mr John James, am ei waith diflino ac am ei ymroddiad. Mae John wastad yn awyddus i recriwtio aelodau newydd.

Rydym am longyfarch un o gyfeillion y Côr, sef Rhian Williams, ar ei llwyddiant diweddar yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae ganddi gysylltiadau agos iawn a'r Côr oherwydd bod ei thad yn aelod ffyddlon yn Adran yr Ail Denoriaid.

Mae ysbryd y Côr yn wych ac os oes cantorion brwdfrydig yn darllen yr erthygl hon, yna mae croeso i chi ymuno â ni.

Dymunai'r Côr ddiolch i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd.

Ers ymuno â'r Côr 50 mlynedd a mwy yn ôl, rwyf wedi mwynhau'r frawdoliaeth a'r cyfeillgarwch yn fawr iawn ac edrychaf ymlaen at weld y Côr yn parhau i lwyddo yn y dyfodol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý