Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Â鶹ԼÅÄ Cymru
Â鶹ԼÅÄ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹ԼÅÄ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cwlwm
O'r chwith Parnell Reilly, Peter Ward, Ann Morris, Iwan Parry, cyng Anthony Jenkins, cyng Aled Williams, Alan Evans, Jeff Harries  Cwpan Ryder yn dod i Gaerfyrddin
Gorffennaf/Awst 2008
Bu tlws y Cwpan Ryder ar ymweliad â Chlwb Golff Caerfyrddin fel rhan o'r daith o amgylch holl glybliau Cymru.

Daeth aelodau a gwesteion yn llu i Rydymarchog ar 29 Mai wrth i'r Cwpan Ryder lanio mewn hofrennydd ar ei daith o amgylch holl glybiau golff Cymru.

Rhoddwyd y tlws hwn gan Samuel Ryder (1858-1936) yn 1926 ar gyfer cystadleuaeth rhwng Unol Daleithiau America a Phrydain ag Iwerddon bob dwy flynedd. Erbyn heddiw cystadleuaeth rhwng Ewrop ac UDA ydyw. Cynhelir yr ornest nesaf yn America ond bydd yn dychwelyd i'r Celtic Manor ger Casnewydd yn 2010.

Pleser oedd gweld cymaint o blant ac oedolion yn ysu am y fraint o ddal y cwpan ac fe lwyddodd Berian Jones, aelod a ffotograffydd y clwb, i gwrdd â gofynion pawb a ddymunai lun o'r aur yn eu dwylo.

Roedd yn anrhydedd, hefyd, i weld nifer o bwysigion Ileol yn bresennol gan gynnwys Aled Williams ac Anthony Parry, Cyng. Anthony Jenkins, Cyng. Aled Williams, Alan Jenkins, Maer a Maer etholedig Caerfyrddin yn ogystal â Wyn Evans, dirpwy-bennaeth Pwyllgor Gweithredol Cyngor Sir Gâr.

Hebryngwyd y cwpan gan Parnell Reilly, capten y PCA, a oedd wrth ei fodd â'r croeso brwdfrydig a gafwyd yng Nghaerfyrddin. Croesawyd yr ymwelwyr gan Iwan Parry, Capten Clwb Colff Caerfyrddin, Ann Morris, Capten y Boneddigesau, Alan Evans, Llywydd, a Jeff Harries, Cadeirydd y Clwb.

Gresyn taw ugain munud yn unig oedd yr ymweliad gan fod ganddynt ddeg clwb ar hugain ar eu taith bob dydd cyn glanio yn y Celtic Manor ar ddiwrnod olaf Cystadleuaeth Golff Agored Cymru. Serch hynny, bu'n achlysur bythgofiadwy i bawb ar y diwrnod pan ddaeth y tlws hanesyddol i Rydymarchog.

Os dymunir, mae lluniau ychwanegol i'w gweld ar wefan y PCA.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹ԼÅÄ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý